Back
Beth Nesaf? Siop un stop newydd ar gyfer addysg, gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli

16/7/21 

Mae siop un stop newydd, sy'n dwyn ynghyd wybodaeth a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, wedi'i lansio heddiw.

 

Mae 'Beth Nesaf?' yn llwyfan newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed, sy'n cynnwys gwybodaeth am addysg, gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd eraill yng Nghaerdydd i gyd mewn un lle sy'n ei gwneud hi'n gynt ac yn haws i bobl ifanc gael gwybod am yr opsiynau sydd ar gael iddynt wrth ystyried eu dyfodol.

 

Mae'r llwyfan wedi'i ddatblygu gan Addewid Caerdydd sef menter y Cyngor sy'n dwyn ynghyd y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael yn y byd gwaith. Mae creu'r safle yn rhan o gynlluniau adferiad economaidd ôl-bandemig y ddinas, sy'n cynnwys ffocws ar gefnogi pobl ifanc y gallai colli swyddi yng nghanol y ddinas a'r rhanbarth ehangach oherwydd COVID-19 effeithio arnynt yn andwyol yn y tymor byr a'r tymor canolig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: Bydd y llwyfan ‘Beth Nesaf?' yn rhoi digon o wybodaeth a chyfeiriad i bobl ifanc wrth iddynt ystyried eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol a helpu i godi eu dyheadau ar adeg pan allai llawer ohonynt fod yn teimlo'n ansicr ac yn bryderus am effaith y pandemig ar eu dyfodol.

 

"Mae cyfoeth o wahanol gyfleoedd ar gael yn y ddinas ac mae'r safle newydd hwn yn ceisio cyfeirio pobl ifanc at y cyfleoedd hynny, p'un a yw hynny'n golygu parhau â'u haddysg yn y Chweched Dosbarth, cwrs coleg, prifysgol, ennill profiad gwaith, rhaglenni hyfforddi, cynlluniau graddedigion, prentisiaethau a mwy. Mae hyd yn oed adran ynglŷn â dechrau eich busnes eich hun.

 

"Rydyn ni eisiau i hwn fod ‘y lle i fynd' i'n holl bobl ifanc pan fyddan nhw'n ystyried "beth nesaf?""

 

Caiff y wefan newydd ei diweddaru'n rheolaidd a bydd yn parhau i ddatblygu dros amser wrth i fwy a mwy o ddarpariaeth a chyfleoedd ddod ar gael. Mae Addewid Caerdydd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i roi gwybodaeth i bobl ifanc am gyfleoedd mewn sectorau sy'n tyfu a'r sgiliau a'r cymwysterau y bydd eu hangen ar gyfer y rolau hyn yn y dyfodol.

 

Cynhyrchwyd animeiddiad byr i hyrwyddo'r llwyfan newydd ac i gyfeirio pobl ifanc i'r wefan, gyda chymorth gan bobl ifanc sy'n gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn Hyb Llaneirwg. Gwnaeth y bobl ifanc gymryd rhan lawn yn y gwaith o gynhyrchu'r clip byr, gan gynnwys lleisio'r cymeriadau, sy'n dangos grŵp o ffrindiau yn ystyried eu camau nesaf a'u ffrind Brandon yn eu cyflwyno i'r llwyfan Beth Nesaf?.

 

I wylio'r animeiddiad byr ewch i https://www.youtube.com/watch?v=k6Ml74w1cJg  ac i gael mwy o wybodaeth am y llwyfan Beth Nesaf? ewch yma