Back
O Fentorai i Fentor! - Straeon ysbrydoledig gan blant a phobl ifanc Caerdydd

 
20/07/21 

Nid yw'r 16 mis diwethaf wedi bod fel unrhyw un arall ond nid yw hynny wedi atal ymrwymiad ac ymroddiad Bayan Ali i ddod o hyd i waith yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Bayan,yn berson ifanc ei hun gydag angerdd ac uchelgais i weithio gyda phobl ifanc. Dechreuodd ar daith gyffrous i ddod o hyd i swydd yn ystod y cyfnod clo gyda chymorth a chefnogaeth ei Mentor Ieuenctid yn Inspire 2 Work (I2W).

Mae I2W yn wasanaeth gwirfoddol sy'n helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith, symud ymlaen i hyfforddiant neu addysg bellach i roi'r cyfle gorau iddynt ddod o hyd i waith.

Wedi'i hysbrydoli gan y cynllun a chael ei mentora, mae wedi cael ei phenodi'n weithiwr prosiect yn llwyddiannus ac mae bellach yn mentora pobl ifanc o fewn yr un tîm!

DywedoddBayan: "Ar y dechrau roedd angen llawer o help arnaf wrth chwilio am waith. Dechreuodd y cyfan ym mis Rhagfyr 2019 lle cyfarfûm â'r tîm I Mewn I Waith yn y Clwb Gwaith yn y Llyfrgell Ganolog. Yn ogystal â chwilio am swydd, cefais lawer o gefnogaeth emosiynol ac anogaeth. Gwnaeth fy mentor hefyd fy mharatoi ar gyfer fy nghyfweliadau, a wellodd fy hyder cyffredinol.

Drwy gydol fy lleoliad rwyf wedi gallu helpu cleientiaid y Cyngor i oresgyn eu rhwystrau i gyflogaeth sy'n rhoi boddhad mawr i mi gan ei fod yn rhywbeth yr oeddwn yn ei chael hi'n anodd yn bersonol. Mae'r newid o gwsmer i weithiwr prosiect wedi bod yn daith gyffrous ac rwy'n hynod ddiolchgar i gael y cyfle hwn diolch i I2W. Fyddwn i ddim wedi gallu gofyn am well cyfle."

I gael rhagor o wybodaeth amI2W,cliciwch  yma

i️  Gall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy un o'r gwefannau canlynol:

👉  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Gwasanaethau-i-bobl-ifanc/beth-nesaf/Pages/default.aspx

👉 http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/

👉 https://hwb.gov.wales

👉 https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/eich-lles

👉 https://www.mind.org.uk/information-support/for-children-and-young-people

Rydym yn rhannu straeon ein plant a'n pobl ifanc bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch  #DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant

Gobeithio y bydd y straeon hyn yn ddefnyddiol ac ysbrydoledig i chi.