Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; and £1 miliwn o gyllid ar gyfer prosiect coedwig drefol 'Coed Caerdydd'.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (09 Gorffennaf - 15 Gorffennaf)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
19 Gorffennaf 2021, 09:00
Achosion: 705
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 192.1 (Cymru: 185.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,794
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,851.7
Cyfran bositif: 10.4% (Cymru: 10.2% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 20 Gorffennaf
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 666,522 (Dos 1: 355,578 Dos 2: 310,944)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
£1 miliwn o gyllid ar gyfer prosiect coedwig drefol 'Coed Caerdydd'
Mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau bron i £1 filiwn o gyllid ar gyfer prosiect a fydd yn gweld coedwig drefol newydd yn cael ei chreu ledled Caerdydd.
Mae prosiect 'Coed Caerdydd', sy'n rhan bwysig o ymateb Caerdydd Un Blaned y cyngor i'r argyfwng hinsawdd, wedi sicrhau mwy na £753,000 o gyllid drwy Cymunedau Gwledig - Rhaglenni Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy'n cael eu hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Defnyddir yr arian newydd hwn ochr yn ochr â £228,000 o gyllid a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Gronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw/The Woodland Trust in Wales, i blannu miloedd o goed ar draws y ddinas.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd prosiect Coed Caerdydd yn arwain at greu coetiroedd a pherllannau newydd ar draws y ddinas, coedwig drefol Caerdydd ei hun yn y bôn, gan ein helpu i greu dinas sy'n amlwg yn wyrddach a'n gwthio yn nes at ein nod o gynyddu gorchudd canopi coed y ddinas i 25%."
Darllenwch fwy yma: