Back
£40,000 o gyllid tuag at gytiau newydd i gŵn Caerdydd
Mae cytiau newydd yn yr arfaeth ar gyfer cŵn yng Nghartref Cŵn Caerdydd, yn sgil dyfarnu dau grant gwerth £40,000 y gwnaed cais amdanynt mewn partneriaeth â'r elusen leol The Rescue Hotel.

Mae grant o £10,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol y Kennel Club wedi'i sicrhau, yn ogystal â grant o £30,000 gan Gartref Cŵn a Chathod Battersea yn Llundain.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Gyda'i gilydd, mae'r ddau grant hyn yn hwb enfawr i gynlluniau i adnewyddu'r Cartref Cŵn fel y gallwn ddarparu amgylchedd cyfforddus, di-straen i'r cŵn sydd yn ein gofal. Bydd hyn yn eu galluogi i ffynnu tan i ni allu dod o hyd i gartrefi parhaol iddynt.

"Gyda 64 o gŵn yn cyrraedd y Cartref y mis diwethaf yn unig, mae angen ymdrechion codi arian Sam Warburton a phawb yn y Rescue Hotel gymaint ag erioed, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn."

Dywedodd y Parchedig Bill King, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol y Kennel Club: "Mae helpu sefydliadau fel Cartref Cŵn Caerdydd i wella eu cyfleusterau ar gyfer y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud gyda chŵn coll wrth galon ymdrechion Ymddiriedolaeth Elusennol y Kennel Club i wneud gwir wahaniaeth i gŵn. Rydym yn gwybod mor bwysig y mae hi i'r cŵn hyn gael amgylchedd diogel ac mae'n fraint i ni allu helpu i gefnogi achos mor werthfawr"

Ychwanegodd Margaret Hulme, Rheolwr Grantiau Battersea: "Rydym yn gobeithio y bydd y grant hwn yn helpu i wneud gwir wahaniaeth i fywydau anifeiliaid. Yn Battersea rydym am gefnogi canolfannau achub a llochesi, nid yn unig drwy ddyfarnu cyllid, ond hefyd drwy rannu'r profiadau a'r wybodaeth rydym wedi'u hennill fel elusen lles anifeiliaid sydd wedi bod yn achub ac yn ailgartrefu anifeiliaid ers 160 o flynyddoedd."

Ar hyn o bryd mae Cartref Cŵn Caerdydd yn gofalu am rhwng 750-900 o gŵn bob blwyddyn, cyn eu hail-uno gyda'u perchnogion, neu ddod o hyd i gartrefi newydd parhaol iddynt. Mae practis milfeddygol newydd ar y safle hefyd yn gweithredu o'r Cartref Cŵn, gan ddarparu sbaddu fforddiadwy i gŵn.

I gyfrannu, ewch i:https://www.justgiving.com/campaign/therescuehotel