Back
Datganiad ar gasgliadau gwastraff


21/07/21


"Fel llawer o awdurdodau lleol ledled y DU, mae Cyngor Caerdydd yn wynebu heriau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen i gynnal gwasanaethau rheng flaen.

 

Mae effaith amrywiolyn Delta ochr yn ochr â'r tywydd poeth eithafol, y mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhoi rhybudd tywydd yn ei gylch, yn effeithio ar ein gallu i ddarparu rhai gwasanaethau.

 

"Mae nifer y gweithredwyr gwastraff sy'n gorfod hunanynysu, neu sydd wedi mynd yn sâl, wedi cynyddu ac mae hyn, ynghyd â'r tymor gwyliau, yn golygu bod gennym weithlu llawer llai i gasglu gwastraff ledled Caerdydd.

 

Dyw tua un o bob pump gyrrwr sydd eu hangen arnom bob dydd ddim ar gael ar gyfer gwaith ar hyn o bryd ac, oherwydd prinder cenedlaethol gyrwyr HGV yn y DU, mae asiantaethau recriwtio yn ei chael yn anodd darparu staff i gyflenwi dros salwch a gwyliau, fel y byddent yn ei wneud fel arfer.

 

"Hefyd, oherwydd y tywydd poeth iawn, mae angen mwy o seibiannau ar ein criwiau gwastraff fel y gallant barhau wedi eu hydradu. Mae'r timau hyn yn cwmpasu 12 milltir y dydd ar gyfartaledd ac yn gwneud gwaith sy'n drwm iawn ar y corff.  Mae eu hiechyd yn ystyriaeth allweddol i'r cyngor ac rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau eu bod yn parhau'n ddiogel yn y gwaith. Fodd bynnag, bydd hyn yn debygol o achosi oedi pellach wrth gasglu gwastraff.

 

"Er gwaethaf yr heriau sylweddol sy'n ein hwynebu, mae Caerdydd wedi penderfynu peidio ag atal gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol fel casglu gwastraff gardd, fel y mae rhai cynghorau eraill wedi'i wneud. Yn hytrach, rydym yn gweithio ar ddiwrnodau casglu nad ydyn nhw wedi eu hamserlenni i sicrhau y gall gwasanaethau gwastraff gardd barhau.

 

"Mae'n amlwg bod achosion yng Nghymru yn codi wrth i gyfyngiadau gael eu codi a rhagwelir y bydd hyn yn effeithio ar ein gweithlu rheng flaen dros yr wythnosau nesaf.

 

"Hoffem ddiolch i drigolion am eu hamynedd.  Os nad yw eu gwastraff wedi'i gasglu ar eu diwrnod arferol, dylid gadael gwastraff y tu allan i'w heiddo ar ymyl y ffordd a byddwn yn anelu at ei gasglu o fewn 48 awr."