Back
Stryd Tudor yn stryd unffordd o 2 Awst

28/07/21


Er mwyn sicrhau y bydd cynllun trafnidiaeth ac adfywio gwerth miliynau o bunnau yn Stryd Tudor yn cael ei gwblhau mewn pryd ac o fewn y gyllideb, bydd y stryd yn cael ei gwneud yn stryd unffordd am 11 mis er mwyn gwneud gwaith hanfodol arni.

Mae contractwr y cyngor - Knights Brown - eisoes ar y safle ac wedi ymweld â siopau a busnesau ar Stryd Tudor ac yn yr ardal gyfagos i roi gwybod iddynt am y trefniadau dros dro er mwyn sicrhau y gellir bwrw ymlaen â gwaith cloddio ar y stryd i gyflwyno'r gwelliannau.

Bydd y cynllun newydd yn creu palmentydd lletach i gerddwyr, lôn feiciau ddwy ffordd wahanedig; draeniau cynaliadwy gyda gerddi glaw; croesfan newydd i gerddwyr; goleuadau stryd LED newydd a mannau parcio ar y stryd i gwsmeriaid eu defnyddio.

Mae'r gwelliannau i'r strydlun ar Stryd Tudor yn rhan o gynllun adfywio ehangach sy'n cynnwys prosiect gwella blaenau siopau sydd ar fin symud i'r trydydd cam ac mae'r ddau brosiect dan sylw yn fuddsoddiad o tua £5m yn yr ardal a ariennir gan y cyngor a Llywodraeth Cymru.