Back
#DyfodolCadarnhaolCdydd – Tyler, 16, ar i fyny diolch i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd

30.07.2021

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o Adran Addysg Cyngor Caerdydd ac yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol drwy amrywiaeth o gyfleoedd. 

Yn ystod y pandemig, maent wedi parhau i gynnig rhai o'u gwasanaethau ar adeg pan oedd eu hangen fwyaf ar bobl ifanc. 

Roedd Tyler16, yn ei chael hi'n anodd gadael y tŷ yn ystod y cyfnod clo ond roedd am ddatblygu ei ffitrwydd a'i hunanhyder yn ystod cyfnod anodd iawn iddo ef a'i deulu.

Helpodd asesiad gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i dynnu sylw at unrhyw rwystrau oedd ganddo tuag at addysg a chysylltu â'r ysgol a gwnaeth gynllun gweithredu i'w helpu i gyflawni ei nodau.

Ymgorfforodd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd reidio ar feic i ymweliadau â Tyler, gan roi cyfle gwych i siarad.

Gan gyfarfod ddwywaith yr wythnos, gweithiodd y tîm gyda Tyler er mwyn helpu i wella ei iechyd corfforol a meddyliol - aeth ar deithiau beics 10 milltir yn rheolaidd ac roedd yn benderfynol o daro 10,000 o gamau'r dydd.

Ar ôl trafod yr hyn yr hoffent ei gyflawni gyda'i addysg, cwblhaodd Tyler 4 modiwl o cwrs datblygiad proffesiynol (AQA) a bydd yn cychwyn ar gwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ym mis Medi 2021.

I ddathlu llwyddiannau Tyler, cyflwynodd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd feic iddo i'w helpu i'w gael yn ôl a blaen i'r coleg a pharhau i gefnogi ei iechyd corfforol a meddyliol cadarnhaol.

Dwedodd Tyler: "Dwi nawr yn teimlo'n hyderus a dwi'n mwynhau gadael y tŷ. 

Diolch i'm Mentor Ieuenctid am fy helpu i weld y gall pethau fod yn wahanol, a gellir ymddiried mewn pobl"

Diolch yn fawr iawn i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd am bopeth rydych yn ei wneud i gefnogi pobl ifanc ein dinas.

gGall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy un o'r gwefannau canlynol:

👉https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/gwasanaethau-cymorth/cymorth-cyfrinachol 

👉https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/   

👉https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-ar-gyfer-pobl-ifanc/

👉http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/ 
 

👉www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Rydym yn rhannu straeon ein plant a'n pobl ifanc bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant

Gobeithio y bydd y straeon hyn yn ddefnyddiol ac ysbrydoledig i chi.