Back
#DyfodolCadarnhaolCDYDD - Gyrru ymlaen i rowndiau terfynol F1 y DU!

 

06.08.2020

 

 

Llongyfarchiadau i dri thîm o Ysgol Bro Edern a rasiodd i'r llinell derfyn a chyrraedd ffeinalF1 Ysgolion y DU!

Mae F1 Ysgolion yn gystadleuaeth llemae myfyrwyr yn ffurfio timau F1 ac yn dylunio, gwneud, profi ac yna'n rasio ceir F1 mini mewn Ysgolion. O lwyddo, bydd timau'n cystadlu'n genedlaethol, gyda'r timau gorau yn ennill lle yn Rowndiau Terfynol y Byd F1 Ysgolion. 

Yn cystadlu yn rowndiau terfynol Rhanbarthol Cymru, aeth pob un o'r tri thîm -Hypernova, Imperium ac Astra - dros y llinell derfyn yn y safle cyntaf neu'r ail safle gan gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cenedlaethol y DU!

Dyluniodd y timau eu ceir ar bapur gartref yn ystod y cyfnod clo, a phan ddychwelon nhw i'r ysgol ym mis Medi, fe ddysgon nhw Fusion 360 a dylunio fersiwn CAD o bob car. Trwy waith caled ac ymroddiad, saethodd pob tîm am y brig drwy gynhyrchu darluniau Peirianneg, portffolios Menter a Dylunio a chyflwyniad digidol. Dyma'r canlyniadau:

Rowndiau Terfynol Rhanbarthol F1 Ysgolion: Cymru
Tîm Hypernova - Safle 1af! Dosbarth datblygu.
Tîm Imperium -2il safle! Car cyflymaf - Dosbarth datblygu.
Tîm Astra -2il safle! - Gorffeniad proffesiynol.

Dywedodd Dewi Thomas,Arweinydd Pwnc - Technoleg: "Gweithiodd y disgyblion mor galed drwy gyfnodau o ynysu, cau ysgolion a methu â chwrdd. Fe wnaethon nhw'n wych dim ond i gystadlu eleni; roedd y tu hwnt i'n disgwyliadau y bydden nhw'n dod yn gyntaf ac ail gyda phob un yn cyrraedd y rownd nesaf."

 

Dywedodd Tîm Hypernova: "CYNTAF! Methu credu ein bod ni wedi ennill Rowndiau Rhanbarthol DAT Cymru A'N bod ni'n mynd i Rownd Genedlaethol y DU! Llongyfarchiadau mawr i'n timau ysgol, Imperium ac Astra, am ddod yn ail yn DAT ac yn ail yn PRO. Maen nhw'n ymuno â ni yn Rownd Genedlaethol y DU!"

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\Child Friendly - positive news campaign\F1 in schools\Imperium - team pic.jpg

Dywedodd Tîm Imperium: "Hoffem nawr i ddiolch i chi am roi'r cyfle hwn i ni. Drwy gydol y misoedd anodd diwethaf, mae F1 wedi dod â ni at ein gilydd a'n cadw mewn cysylltiad drwy nifer o gyfnodau clo ac ynysu. Mae ein cariad a'n hangerdd dros F1 yn tyfu'n ddi-stop ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr bopeth y mae'r sefydliad hwn yn ei wneud i ni a'r cyfleoedd rydych chi'n eu rhoi i ni."

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\Child Friendly - positive news campaign\F1 in schools\Astra - team pic.jpg

 

Dywedodd Tîm Astra:"Hoffem ddiolch i chi am y cyfle anhygoel hwn! Cawsom gymaint o hwyl yn cystadlu a gwneud llawer o ffrindiau ar hyd y ffordd. Diolch am y cyfle anhygoel hwn - mae gennym i gyd atgofion anhygoel ac rydym i gyd wedi dysgu gwersi pwysig drwy'r profiad hwn."

Am gyflawniad anhygoel -llongyfarchiadau enfawr i Dîm Hypernova, Tîm Imperium a Thîm Astra!

 

Pob lwc ynrowndiau terfynol cenedlaethol y DU!

 

cid:image007.png@01D7855B.82180790Gall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy un o'r gwefannau canlynol:

👉https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/gwasanaethau-cymorth/cymorth-cyfrinachol 

👉https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/   

👉https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-ar-gyfer-pobl-ifanc/

👉http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/ 

👉https://www.caerdydd.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Gwasanaethau-i-bobl-ifanc/beth-nesaf/Pages/default.aspx

Rydym yn rhannu straeon ein plant a'n pobl ifanc bob wythnos arYstafell Newyddion Caerdydda'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant

Gobeithio y bydd y straeon hyn yn ddefnyddiol ac ysbrydoledig i chi.