Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 10 Awst

10/08/21


Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd a diweddariad ar ganlyniadau'r arholiadau Safon Uwch.

#CadwCaerdyddynDdiogel

Dwylo. Wyneb. Gofod. Awyr Iach.

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r & Diwrnod ( 30 Gorffennaf - 5 Awst)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

9Awst 2021, 09:00

 

Achosion:425

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth:115.8(Cymru:135.7achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi:4,869

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth:1,327.1

Cyfran bositif:8.7%(Cymru:9.9%cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro -10  Awst

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol691,857(Dos 1:  360,361 Dos 2:331,496)

 

  • 80 a throsodd:20,707  / 94.6% (Dos 1)20,347 / 92.9% (Dos 2)
  • 75-79:15,084 / 96.3%(Dos 1)14,874 / 94.9%(Dos 2)
  • 70-74:21,461 / 95.6% (Dos 1)21,286 / 94.8%(Dos 2)
  • 65-69:  21,954 / 94.1%(Dos 1)21,642 / 92.8%(Dos 2)
  • 60-64:  26,014 / 92.2%(Dos 1)  25,604 / 90.7%(Dos 2)
  • 55-59:29,325/ 90.1%(Dos 1)28,700 / 88.1%(Dos 2)
  • 50-54:28,948 / 87.6%(Dos 1)28,127 /85.2%(Dos 2)
  • 40-49:  54,898 / 81%(Dos 1)52,373/ 77.3%(Dos 2)
  • 30-39:59,453 / 74.3%(Dos 1)54,244/ 67.7%(Dos 2)
  • 18-29:77,598 / 75.1%(Dos 1)64,990 / 62.9%(Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal:  1,894 / 98.5%(Dos 1)  1,865 / 97%(Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed:11,302 / 93.8%(Dos 1)11,059 / 91.8%(Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:  46,074 / 89.6% (Dos 1)  44,110 / 85.8% ((Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Ysgolion Caerdydd yn dathlu canlyniadau Safon Uwch

 

Roedd ysgolion a myfyrwyr Caerdydd yn dathlu llwyddiannau Safon Uwch heddiw gyda chynnydd yn nifer y myfyrwyr a gafodd raddau A* ac A.

Ym mhrifddinas Cymru llwyddodd 55.3% o fyfyrwyr i gael 3 graddau A* -A, chafodd 94.3% 3 graddau A* - C, a chafodd 99.9% raddau A* i E.

Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru gyfan yn dangos bod 21.3% o ddisgyblion wedi llwyddo i gael graddau A*, sy'n 5% yn uwch na'r llynedd; cafodd 48.3% raddau A*-A, sy'n 6.5% yn uwch na 2020; a llwyddodd 99.1% i gael graddau A*-E.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd, "Mae ein hathrawon, ein hysgolion a'n myfyrwyr i gyd wedi gwneud gwaith aruthrol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n credu bod y sgiliau newydd a'r gwydnwch y mae ein myfyrwyr wedi'u datblygu yn wyneb y pandemig wedi bod o fudd iddynt a bydd yn parhau'n fuddiol iddynt ym mha beth bynnag maen nhw'n dewis ei wneud nesaf. Mae'r gwaith caled a'r ymroddiad y mae ein hathrawon a'n staff ysgol wedi'u dangos wrth ddatblygu asesiadau a sicrhau bod eu myfyrwyr wedi paratoi mor dda wedi creu argraff fawr arnaf. Mae'n wych gweld ein pobl ifanc yn gwneud yn dda iawn yn wyneb adfyd. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni'r canlyniadau hyn."

 

Meddai Melanie Godfrey, Cyfarwyddwr Addysg, Caerdydd, "Rwy'n falch iawn o weld bod yr holl waith caled a'r ymrwymiad sydd wedi'u dangos gan athrawon a phobl ifanc wedi cael eu gwobrwyo yn wyneb yr hyn a oedd yn flwyddyn heriol dros ben. Roedd COVID yn gorfodi athrawon a myfyrwyr i addasu i ffyrdd newydd o weithio a dysgu, ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos pa mor dda yr oedd ein myfyrwyr yn ymdopi â'r heriau a ddaeth yn sgil COVID. Mae'r holl ganlyniadau hyn yn seiliedig ar broses drylwyr o gymedroli mewnol, gwirio allanol a sicrhau ansawdd. Mae ein myfyrwyr, sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau'r canlyniadau hyn, yn gallu edrych ymlaen yn awr at ddechrau ar gam nesaf eu bywydau. Dymunaf y gorau iddynt ym mha beth bynnag y maent yn dewis ei wneud."

Mae amrywiaeth o gyngor a chymorth i fyfyrwyr sy'n ystyried eu cam nesaf ar gael ymahttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Gwasanaethau-i-bobl-ifanc/beth-nesaf/Pages/default.aspx