Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli - 16/08/21

 16/08/21

13/8/21 Galwch heibio i'ch llyfrgell a hyb lleol

 

Mae Llyfrgelloedd a Hybiau Cymunedol ledled y ddinas yn paratoi i groesawu cwsmeriaid yn ôl drwy'r drysau, heb fod angen apwyntiad.

 

O ddydd Llun, 16 Awst, ni fydd angen trefnu apwyntiad i ymweld â llyfrgelloedd a hybiau i bori'r silffoedd llyfrau, defnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus neu ddefnyddio gofod astudio yn yr adeilad a gall cwsmeriaid alw heibio pan fydd yn gyfleus iddynt.

 

Bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn dal i fod ar waith y tu mewn i'r adeiladau a bydd yn ofynnol i gwsmeriaid wisgo mwgwd, oni bai eu bod wedi'u heithrio. Bydd nifer y bobl y tu mewn i'r adeilad ar unrhyw un adeg yn cael ei monitro'n ofalus ac weithiau efallai y bydd angen i rai cwsmeriaid aros y tu allan am gyfnod byr i ganiatáu i gwsmeriaid sydd eisoes y tu mewn adael.

 

Mae sesiynau galw heibio cyngor ariannol, heb i gwsmeriaid fod angen apwyntiad, hefyd yn dychwelyd i lyfrgelloedd a hybiau yr wythnos nesaf ac mae Tîm Cyngor Ariannol y Cyngor wedi'u paratoi i gynorthwyo preswylwyr gydag ystod o gymorth gan gynnwys cyngor ar gyllidebu, gwneud yn fawr o'ch incwm, hawlio budd-daliadau, grantiau neu ostyngiadau, cyngor ar ddyledion, cymorth ariannol i arbed tenantiaeth, cymorth gyda thlodi tanwydd a llawer mwy.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27276.html

 

12/08/21 - Gwastraff gardd Caerdydd yn symud i gasgliadau misol o Ddydd Sadwrn,

 

Bydd casgliadau gwastraff gardd yng Nghaerdydd yn newid o gasglu bob pythefnos i gasglu bob mis o Ddydd Sadwrn, 14 Awst, wrth i'r cyngor weithio i glirio ôl-groniad o wastraff gardd ar strydoedd y ddinas a achosir gan brinder gyrwyr HGV ledled y Deyrnas Gyfunol ac effeithiau pandemig COVID-19.

Bydd y Cyngor yn defnyddio gweddill mis Awst i gasglu unrhyw wastraff gardd sy'n weddill ar y stryd a gofynnir i breswylwyr adael eu gwastraff gardd allan i'w gasglu nes iddo gael ei godi. Byddwn yn ei gasglu cyn gynted ag y gallwn a diolchwn i chi am eich amynedd. 

Bydd y casgliad gwastraff gardd nesaf yn cael ei gynnal ar ôl penwythnos Gŵyl y Banc mis Awst, gyda chasgliad pellach bob mis drwy'r hydref.  Bydd y gwasanaeth parhaus hwn yn dibynnu ar fod gyrwyr ar gael. Darperir rhagor o wybodaeth am ddyddiau casglu tua diwedd mis Awst.

Credwn y bydd symud i gasgliadau gardd misol yn gynharach yn rhoi'r cyfle gorau i ni gynnal casgliadau gwastraff statudol - hynny yw gwastraff cyffredinol, gwastraff bwyd, gwastraff hylendid a deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Mae'n rhaid i gasglu'r ffrydiau gwastraff hyn fod yn flaenoriaeth i ni wrth i ni ddelio â'r effeithiau y mae prinder gyrwyr a'r pandemig yn eu cael ar ein gweithlu.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27272.html

 

Ac am ein Holi ac Ateb ar y newidiadau, ewch i https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27270.html

 

 

12/08/21 - Ysgolion Caerdydd yn dathlu canlyniadau TGAU

Mae disgyblion blwyddyn 11 yn dathlu eu canlyniadau TGAU heddiw gyda dros draean o'r graddau (34.5%) yn A*-A.

Ar ôl blwyddyn heriol arall oherwydd pandemig Covid-19, cafodd llawer o ddisgyblion eu canlyniadau'n rhithwir.

Ym mhrifddinas Cymru bu cynnydd o 2.8 pwynt canran mewn graddau A*-A yn 2021. Mae 77.7% o'r graddau yn A*-C a 98.3% yn A*-G. Mae'r rhain ar gyfer canlyniadau TGAU CBAC.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27265.html

 

11/08/21 - Gŵyl Caerdydd Sy'n Dda I Blant Yn Gadael Etifeddiaeth O Wenu

Mae miloedd o blant a phobl ifanc Caerdydd wedi bod yn gwenu o glust i glust wrth i ŵyl ganol dinas Gwên o Haf Caerdydd ddirwyn i ben, gan baratoi'r ffordd ar gyfer hyd yn oed mwy o hwyl sy'n dda i blant yr haf hwn.

Mae'r fiesta teuluol tair wythnos ar lawnt Neuadd y Ddinas Caerdydd, a ddenodd mwy nag 8,500 o ymwelwyr, wedi bod yn rhan annatod o raglen ddigwyddiadau haf y cynllun dinas sy'n dda i blant ar hyd a lled Caerdydd, gan ddarparu gweithgareddau i blant a phobl ifanc Caerdydd yn seiliedig ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys gwyddoniaeth a thechnoleg, y celfyddydau creadigol, chwaraeon ac antur, chwarae a hwyl i'r teulu.

Daeth tua 22 o bartneriaid swyddogol ynghyd i ddarparu ystod eang o weithgareddau, o roi cynnig ar gamp newydd yn y flwyddyn Olympaidd i wylio arddangosiadau ar lawnt drwy garedigrwydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Roedd y safle hefyd yn cynnal sgiliau syrcas, twrnameintiau pêl-droed bwrdd, arddangosfeydd BMX, gweithgareddau celf a chrefft, perfformiadau theatr a cherddoriaeth fyw a llawer mwy!

 

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, nid yw Gwên o Haf wedi dod i ben eto a bydd yn parhau i ddarparu rhaglen lawn o weithgareddau mewn cymunedau ledled y ddinas am weddill y gwyliau ysgol chwe wythnos. Gellir archebu'r gweithgareddau cymunedol am ddim drwy fynd i https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27252.html

 

 

9/08/21 - Ymgynghoriad ar y Map Teithio Llesol drafft i ddechrau 

 

Bydd cynllun i annog teuluoedd i baratoi, coginio a bwyta prydau gyda'i gilydd yn gweld mwy nag 20,000 o brydau bwyd yn cael eu darparu yn ystod gwyliau'r haf eleni.

Bydd mwy na 5,000 o fagiau bwyd i deuluoedd, sy'n cynnwys cynhwysion a ryseitiau cam wrth gam wedi'u datblygu gan ddeietegwyr o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn cael eu dosbarthu i deuluoedd ledled y ddinas.

Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru mae Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY) arobryn Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i blant gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a dysgu sgiliau newydd gyda chymorth amrywiaeth o bartneriaid ledled y ddinas, gan helpu i leddfu'r baich ariannol ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27240.html

 

9/08/21 - #DyfodolCadarnhaolCdydd - Merch ifanc yn cerdded dros les ac yn newid cyfeiriad ei dyfodol

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o Adran Addysg Cyngor Caerdydd ac yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i gefnogi eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol drwy amrywiaeth o gyfleoedd. 

 

Yn ystod y pandemig, maent wedi parhau i gynnig rhai o'u gwasanaethau ar adeg pan oedd eu hangen fwyaf ar rai pobl ifanc.

Roedd Nikita, 13, yn dioddef o orbryder ac yn cael trafferth cysylltu â'r ysgol, felly dechreuodd Mentor Ieuenctid o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd fynd â hi am dro lles a dosbarthu parsel bwyd bob wythnos. Yn raddol, fe wnaethon nhw adeiladu perthynas gref.

Datblygodd Nikita ddigon o hyder i wirfoddoli yng Nghartref Cŵn Caerdydd, wedi'i symbylu gan ei chariad at anifeiliaid.

Drwy gydol y cyfnod clo, buont yn gweithio gyda'i gilydd drwy heriau coginio ar-lein a theithiau cerdded llesiant gan gadw pellter cymdeithasol. Ar ôl i'r rheolau gael eu llacio, penderfynodd y bobl ifanc oedd yn defnyddio'r gwasanaeth eu bod am gael grŵp ieuenctid llesiant gan eu bod wedi bod yn siarad ar-lein ond nad oeddent erioed wedi cyfarfod wyneb yn wyneb.

Dechreuodd y grŵp gyfarfod ar ddydd Mercher, gan fynd ar deithiau cerdded natur, coginio a gwneud gwaith yn gysylltiedig â chwrs datblygiad proffesiynol (AQA) yng nghanolfan Gabalfa. Mae'r ganolfan yn cynnal grŵp yr oedd gan Nikita ddiddordeb yn ei fynychu ac - rydym yn falch o fedru dweud - cynigiwyd lle iddi ac mae wedi cyflawni cofnod presenoldeb o 100%.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27238.html