Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 17 Awst

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: HQ Theatres yw gweithredwr newydd y Theatr Newydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

HQ Theatres yw gweithredwr newydd y Theatr Newydd

HQ Theatres (HQ) - rhan o fusnes adloniant byw rhyngwladol premiwm Trafalgar Entertainment  - yw gweithredwr swyddogol newydd Theatr Newydd Caerdydd, ar ôl diwedd llwyddiannus proses ymgeisio gystadleuol a gynhaliwyd gan Gyngor Caerdydd.  Bydd HQ yn arwyddo'r brydles ar gyfer yr adeilad ddydd Llun 16 Awst ac mae'n bwriadu ailagor yn llawn ddydd Sul 19 Medi.

Y theatr Edwardaidd 115 mlwydd oed, gyda lle i 1,144 o bobl, yw'r 12fed lleoliad i'w redeg gan HQ Theatres. Nhw yw'r cwmni arbenigol mwyaf yn y DU sy'n rhedeg theatrau rhanbarthol.  Bydd y trefniadau prydlesu am y cyfnod y bydd HQ yn rhedeg y theatr yn y brifddinas yn para am 25 mlynedd a bydd staff presennol y Theatr Newydd yn trosglwyddo i gyflogaeth HQ.

O dan gynlluniau'r cwmni bydd rhaglenni yn parhau i gael eu datblygu ar gyfer y Theatr Newydd a bydd buddsoddiad sylweddol gyda'r nod o wella ardaloedd blaen y tŷ ac i ddiogelu a gwella adeiledd y theatr.  Mae gan y cwmni gynlluniau hefyd i sefydlu swyddogaeth Gymunedol ac Addysgol bwrpasol i wreiddio'r lleoliad ymhellach yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu - ac mae ganddo uchelgais i weithio gyda sefydliadau diwylliannol, celfyddydol ac adloniant yn y ddinas i ddatblygu dull o raglennu ar draws y ddinas.

Bydd y Theatr Newydd hefyd yn cael ei defnyddio i lansio sioeau newydd, a gyflwynir drwy gysylltiadau HQ â chynhyrchwyr mwyaf blaenllaw'r DU.

Mae'r cytundeb rhwng HQ Theatres a Chyngor Caerdydd yn dangos pa mor gryf yw hyder buddsoddwyr yn y sector diwylliannol wrth iddo wella o effeithiau economaidd ysgubol y pandemig a gaeodd y rhan fwyaf o leoliadau am dros flwyddyn.  Enillodd HQ y cais am y Theatr Newydd yn 2019, ond fe gafodd y cynlluniau gweithredu eu gohirio yn ystod y pandemig.

Bydd y Theatr Newydd yn ailagor ei drysau ar 19 Medi gyda pherfformiad gan Simon Amstell, ac yna bydd digwyddiad carped coch ysblennydd a pherfformiad o'r sioe gerdd hynod boblogaidd ledled y byd, Priscilla Queen of the Desert o 20 Medi.

Ym mis Mawrth 2021, prynwyd HQ Theatres gan Syr Howard Panter a grŵp Trafalgar Entertainment (TE) y Fonesig Rosemary Squire - buddsoddwr blaenllaw pwysig mewn theatrau yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn dilyn buddsoddiad mawr gwerth miliynau o bunnoedd, ailagorodd TE Theatr Trafalgar Llundain gyda'r Jersey Boys ym mis Gorffennaf a dadorchuddiodd ei ganolfan sinema bwtîc gyntaf yn Chiswick, Llundain. Mae'r cwmni hefyd ar fin agor yTheatr Frenhinol â 1,200 sedd yn Sydney ac yn ddiweddar cyhoeddodd gynlluniau i agor adeilad arloesol Theatr Olympia, y theatr barhaol newydd fwyaf i agor yn Llundain ers y 1970au.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r Theatr Newydd wedi diddanu cynulleidfaoedd mas draw ers 115 o flynyddoedd gan greu llawer o atgofion gwych i genedlaethau o theatr-garwyr Caerdydd. Felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod i gytundeb sy'n diogelu swyddi a dyfodol y theatr, gan sicrhau y bydd llawer mwy o genedlaethau'n cael eu diddanu am lawer mwy o flynyddoedd i ddod.

"HQ Theatres yw un o'r prif gwmnïau sy'n rhedeg theatrau yn y DU ac mae eisoes wedi chwarae rhan fawr yn llwyddiant y Theatr Newydd, gan gynhyrchu pantomeim mwyaf Cymru yno am yr 20 mlynedd diwethaf drwy Qdos Entertainment. Maent yn deall cynulleidfaoedd Caerdydd ac rydym yn hyderus y bydd y Theatr Newydd yn ffynnu oherwydd eu gwybodaeth a'u harbenigedd.

"Rwyf i fy hun yn edrych ymlaen at weld y llen yn codi ar yr oes newydd hon yn y Theatr Newydd ac, nawr bod cyfyngiadau'r cyfnod clo yn cael eu llacio, rydym yn aros yn eiddgar i weld y Theatr Newydd yn ailagor ym mis Medi ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i'r gweithredwyr newydd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27285.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (06 Awst - 12 Awst)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

16 Awst 2021, 09:00

 

Achosion: 549

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 149.6 (Cymru: 184.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,066

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,380.7

Cyfran bositif: 10.8% (Cymru: 12.8% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 17 Awst

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  696,267 (Dos 1: 362,859 Dos 2:  333,408)

 

  • 80 a throsodd: 20,692 / 94.6% (Dos 1) 20,332 / 93% (Dos 2)
  • 75-79: 15,083 / 96.3% (Dos 1) 14,878 / 95% (Dos 2)
  • 70-74: 21,464 / 95.6% (Dos 1) 21,300 / 94.9% (Dos 2)
  • 65-69: 21,957 / 94.1% (Dos 1) 21,662 / 92.9% (Dos 2)
  • 60-64: 26,016 / 92.2% (Dos 1) 25,615 / 90.8% (Dos 2)
  • 55-59: 29,327 / 90.1% (Dos 1) 28,736 / 88.3% (Dos 2)
  • 50-54: 28,972 / 87.7% (Dos 1) 28,184 / 85.3% (Dos 2)
  • 40-49: 55,023 / 81.2% (Dos 1) 52,576 / 77.6% (Dos 2)
  • 30-39: 59,695 / 74.5% (Dos 1) 54,675 / 68.3% (Dos 2)
  • 18-29: 78,021 / 75.4% (Dos 1) 66,242 / 64% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,889 / 98.5% (Dos 1) 1,860 / 97% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,312 / 93.9% (Dos 1) 11,071 / 91.9% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,102 / 89.7% (Dos 1) 44,214 / 86% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser