Back
#DyfodolDaCDYDD – Morgan, 18, yn dilyn ei freuddwyd â Heddlu De Cymru

20.08.2021 

cid:image002.png@01D795B8.C50DB550

 

Morgan[i'r dde o Michael Sheen]

 

"Nid yw Morgan byth yn rhoi'r gorau iddi. Pe gallech roi ei frwdfrydedd a'i natur benderfynol a'i werthu, byddech yn gwneud ffortiwn."

 

Dyma eiriau Arolygydd yr Heddlu Jones am un o'u Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu gyda Heddlu De Cymru.

 

Mae Morgan, 18, wedi bod yn Wirfoddolwr Ieuenctid yr Heddlu ers tair blynedd. Mae ganddo ei heriau personol ei hun ar ffurf anabledd, ond mae'n gwrthod caniatáu i hyn ei ddal yn ôl neu ei atal rhag gwirfoddoli a helpu eraill.

 

Gan wybod y gallai ei anabledd fod yn rhwystr i weithio o fewn amgylchedd plismona, gwnaeth ei waith ymchwil ei hun gan ddarganfod bod Swyddog gyda'i anabledd ef yn gweithio o fewn Tîm Plismona Bro yng Ngwasanaethau'r Heddlu Metropolitanaidd.

 

Mae gan Morgan gyfoeth o wybodaeth am Heddlu De Cymru a byddai hefyd yn mynychu'r stablau a'r cytiau cŵn ar y penwythnos lle byddai'n gweithio i sicrhau bod Ceffylau a Chŵn yr Heddlu yn derbyn gofal.

 

Nid yw Morgan byth yn rhoi'r gorau iddi, mae ei natur benderfynol yn golygu, pan fydd yn syrthio, y bydd bob amser yn codi ac yn parhau â gwên ar ei wyneb. Mae wedi gwneud nifer o ymdrechion i ddod o hyd i waith o fewn amgylchedd plismona gan golli allan o drwch blewyn ar rôl yn adran Partneriaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Heddlu Gwent, mae'n aros i gael ei ystyried ar gyfer cynllun prentisiaeth Heddlu Gwent ac yn fwyaf diweddar oherwydd ei ddyfalbarhad sicrhaodd swydd weinyddol banc gyda Heddlu De Cymru.

 

Dymunwn bob lwc i Morgan ar gyfer y dyfodol.

 

gGall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy ymweld ag un o'r gwefannau canlynol:

 

👉https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/gwasanaethau-cymorth/cymorth-cyfrinachol 

👉https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/eich-lles/   

👉https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-ar-gyfer-pobl-ifanc/

👉http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/

👉www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Rydym yn rhannu straeon ein plant a'n pobl ifanc bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant

 

Gobeithiwn y bydd y straeon hyn yn ddefnyddiol ac yn eich ysbrydoli chi.