Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 31 Awst

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cymerwch y camau sydd eu hangen i gadw dysgwyr yn ddiogel ac yn dysgu; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Cymerwch y camau sydd eu hangen i gadw dysgwyr yn ddiogel ac yn dysgu

Gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ailagor yn dilyn gwyliau'r haf, gofynnir i rieni, gwarcheidwaid a dysgwyr yng Nghymru gymryd rhai camau i helpu i gadw risg COVID-19 i lawr a dysgwyr yn dysgu.

Cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i deuluoedd a dysgwyr barhau i ddilyn y canllawiau ar ynysu, profi a brechu, er mwyn lleihau'r risg o ledu COVID-19 yn ein lleoliadau addysg.

 

  • Cael y brechlyn os yw'n cael ei gynnig i chi.
  • Golchi dwylo'n rheolaidd.
  • Dylai unrhyw staff neu ddysgwr sydd â symptomau COVID-19 - waeth pa mor ysgafn - aros gartref a threfnu prawf PCR yn eu canolfan brofi agosaf.
  • Dylai staff mewn ysgolion cynradd - a staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau - sydd heb symptomau gymryd dau brawf llif unffordd, tri diwrnod ar wahân, yn ystod yr wythnos cyn eu diwrnod cyntaf yn ôl. Os yw'r prawf yn gadarnhaol dylent hunanynysu, a threfnu prawf PCR.
  • Ar ddechrau'r tymor newydd, dylai staff mewn ysgolion cynradd a staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau nad ydynt yn dangos symptomau barhau i gymryd profion llif unffordd cyflym rheolaidd ddwywaith yr wythnos, ac adrodd ar y canlyniadau ar-lein.
  • Dylai Dysgwyr Blynyddoedd 7 ac uwch barhau i wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i'r ysgol a choleg.

 

Dylai staff a dysgwyr ddefnyddio unrhyw brofion llif unffordd sydd ganddynt ar eu haelwyd yn gyntaf, neu archebu profion ar-lein am ddim (https://test-for-coronavirus.service.gov.uk/order-lateral-flow-kits), neu eu casglu o fannau casglu cymunedol neu fferyllfeydd. Bydd ysgolion yn darparu profion llif unffordd yn ystod y tymor.

Mae cymryd y profion yn rheolaidd - yn enwedig ar adegau pan fo nifer yr achosion yn uwch - yn cynyddu'r siawns o adnabod staff heintus neu ddysgwyr cyn iddynt adael y tŷ i fynd i'r ysgol a lledaenu'r feirws yn ddiarwybod i'w ffrindiau neu eu teulu.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (19 Awst - 25 Awst)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

29 Awst 2021, 09:00

 

Achosion: 1,111

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 302.8 (Cymru: 386.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 7,453

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,031.3

Cyfran bositif: 14.9% (Cymru: 18.7% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 27 Awst

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  703,059 (Dos 1: 367,717 Dos 2:  335,342)

 

  • 80 a throsodd: 20,637 / 94.6% (Dos 1) 20,282 / 93% (Dos 2)
  • 75-79: 15,074 / 96.3% (Dos 1) 14,869 / 95% (Dos 2)
  • 70-74: 21,456 / 95.7% (Dos 1) 21,312 / 95% (Dos 2)
  • 65-69: 21,960 / 94.2% (Dos 1) 21,666 / 92.9% (Dos 2)
  • 60-64: 26,021 / 92.3% (Dos 1) 25,650 / 91% (Dos 2)
  • 55-59: 29,341 / 90.2% (Dos 1) 28,764 / 88.4% (Dos 2)
  • 50-54: 28,996 / 87.8% (Dos 1) 28,242 / 85.5% (Dos 2)
  • 40-49: 55,161 / 81.4% (Dos 1) 52,824 / 78% (Dos 2)
  • 30-39: 60,050 / 74.9% (Dos 1) 54,145 / 68.8% (Dos 2)
  • 18-29: 78,708 / 75.9% (Dos 1) 67,537 / 65.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,876 / 98.5% (Dos 1) 1,852 / 97.3% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,305 / 93.3% (Dos 1) 11,064 / 91.3% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,186 / 89.8% (Dos 1) 44,357 / 86.3% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser