Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 14 Medi

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: trigolion yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i lunio dyfodol Caerdydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; trefniadau cau ar y gweill: Morglawdd Bae Caerdydd; a gorchymyn i dipiwr anghyfreithlon dalu dros £300 yn Llys Ynadon Caerdydd.

 

Trigolion yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i lunio dyfodol Caerdydd

Mae barn trigolion Caerdydd, a gasglwyd mewn ymgynghoriad cyhoeddus, yn helpu i lywio sut y bydd prifddinas Cymru yn datblygu ac yn tyfu dros y 15 mlynedd nesaf.

Yn gynharach eleni gofynnodd Cyngor Caerdydd i drigolion, ac ystod eang o sefydliadau, grwpiau a chyrff cyhoeddus, am eu barn ar y weledigaeth a'r amcanion drafft ar gyfer ei Gynllun Datblygu Lleol newydd.

Nododd canlyniadau'r ymgynghoriad, a gafodd 1,215 o ymatebion, y canlynol:

 

  • Cefnogaeth gyffredinol ar gyfer lefelau is o dwf tai a thwf swyddi canolig.
  • Ffefrir yn gryf ddefnyddio safleoedd tir llwyd.
  • Gwell mynediad i fannau gwyrdd fel prif flaenoriaeth ar gyfer gwella iechyd a lles.
  • Creu cymdogaethau 15 munud, mynediad i fannau gwyrdd a theithio llesol fel y 3 dull pwysicaf o ymateb i'r pandemig.
  • Darparu cyfleusterau cymunedol, lleihau troseddu a darparu llwybrau beicio da fel y 3 blaenoriaeth bwysicaf ar gyfer gwella cymdogaethau.
  • Roedd dwy ran o dair o'r ymatebwyr yn cytuno â'r weledigaeth ddrafft, gan raddio mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, amgylcheddau iachach a diogelu seilwaith gwyrdd fel eu 3 blaenoriaeth uchaf yn nhrefn eu pwysigrwydd.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd adroddiad gan y cyngor, a gaiff ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 23 Medi, yn argymell bod fersiynau diwygiedig o weledigaeth ac amcanion y CDLl, gan gynnwys newidiadau pwysig a manylion ychwanegol sylweddol, yn cael eu cymeradwyo.

Mae'r dogfennau allweddol hyn yn rhan annatod o'r cam nesaf yn y broses o lunio'r CDLl newydd, sef ymgynghori ar opsiynau strategol ar gyfer datblygu yn y ddinas.

Cynhelir cyfres o Grwpiau Ffocws a digwyddiadau dinasyddion rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror 2022 i lywio'r gwaith o baratoi "Strategaeth a Ffefrir" yr ymgynghorir arni yn hydref 2022. 

Gwnaed newidiadau i nifer o feysydd o weledigaeth ac amcanion drafft mewn ymateb i ganlyniadau'r ymgynghoriad, ac mae fersiwn lawn ohono ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd. Mae rhai enghreifftiau o'r newidiadau hyn yn cynnwys:

 

  • Cyflwyno cyfeiriad at "gartrefi carbon isel" newydd yn lle "cartrefi newydd".
  • Newid o gyfeirio at ddinas sy'n "haws symud o'i chwmpas" i ddinas sy'n ail-lunio symudiad o amgylch "craidd o deithio llesol (cerdded a beicio) a defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus."
  • Cyfeiriadau newydd at flaenoriaethu cyfleoedd ar gyfer cartrefi newydd a chyfleoedd cyflogaeth mewn dinasoedd a chanolfannau lleol a "lleoliadau tir llwyd cynaliadwy".
  • Symudiad o siarad am "ofalu am" asedau naturiol, hanesyddol a diwylliannol y ddinas, i'w "gwella".

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r CDLl newydd yn mynd i lunio golwg a theimlad Caerdydd am flynyddoedd i ddod, felly roedd yn bwysig iawn i ni glywed ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau ar y cam cynnar hwn, a cheisio adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd wrthym yn y weledigaeth a'r amcanion diwygiedig.

"Rydym ar gam allweddol yn natblygiad y ddinas. Mae Caerdydd yn ddinas fywiog, gyffrous sy'n tyfu'n gyflym, ond yn yr angen i addasu i newid yn yr hinsawdd ac adfer o'r pandemig, mae'n wynebu heriau mawr.

"Rydym i gyd am i Gaerdydd fod yn ddinas gynaliadwy sy'n chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd - ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd tai fforddiadwy a chymunedau cysylltiedig. Gall barhau i ysgogi economi Cymru mewn byd ar ôl COVID, a bod yn fan lle gall pobl fyw bywydau iach a hapus mewn amgylchedd glân a fforddiadwy.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn yn yr ymgynghoriad cyntaf hwn ac a'n helpodd i gymryd cam arall tuag at gyflawni ein huchelgeisiau."

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (03 Medi - 09 Medi)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

13 Medi 2021, 09:00

 

Achosion: 1,463

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 398.7 (Cymru: 510.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,837

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,681.1

Cyfran bositif: 14.9% (Cymru: 18.0% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 14 Medi

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  707,298 (Dos 1: 369,224 Dos 2:  338,074)

 

  • 80 a throsodd: 20,577 / 94.6% (Dos 1) 20,304 / 93.3% (Dos 2)
  • 75-79: 15,059 / 96.3% (Dos 1) 14,861 / 95.1% (Dos 2)
  • 70-74: 21,448 / 95.7% (Dos 1) 21,311 / 95.1% (Dos 2)
  • 65-69: 21,957 / 94.2% (Dos 1) 21,672 / 93% (Dos 2)
  • 60-64: 26,022 / 92.3% (Dos 1) 25,669 / 91.1% (Dos 2)
  • 55-59: 29,357 / 90.2% (Dos 1) 28,801 / 88.5% (Dos 2)
  • 50-54: 28,996 / 87.8% (Dos 1) 28,242 / 85.5% (Dos 2)
  • 40-49: 55,260 / 81.5% (Dos 1) 53,008 / 78.2% (Dos 2)
  • 30-39: 60,288 / 75.2% (Dos 1) 55,738 / 69.5% (Dos 2)
  • 18-29: 79,196 / 76.3% (Dos 1) 68,962 / 66.4% (Dos 2)
  • 16-17: 3,812 / 70.1% (Dos 1) 280 / 5.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,857 / 98.5% (Dos 1) 1,834 / 97.3% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,344 / 93.7% (Dos 1) 11,063 / 91.4% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,251 / 90% (Dos 1) 44,484 / 86.5% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Trefniadau Cau ar y gweill: Morglawdd Bae Caerdydd

Oherwydd digwyddiadau â thocynnau a gynhelir ar Bentir Alexandra, bydd safle'r Morglawdd ar gau i bobl heb docynnau o gylchfan Porth Teigr i'r rhan o'r Morglawdd sydd agosaf at Benarth ar:

 

  • Dydd Iau 16 Medi o 4.30pm tan hanner nos
  • Dydd Gwener 17 Medi o hanner dydd tan 12.30am
  • Dydd Sadwrn 18 Medi o hanner dydd tan 12.30am
  • Dydd Sul 19 Medi o hanner dydd tan hanner nos

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Bydd y Morglawdd ar agor i bawb tan 4.30pm ddydd Iau a than hanner dydd ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul.

"O'r adegau hyn tan hanner nos ar ddydd Iau a dydd Sul a than 12:30am ar ôl y Gwyliau Titan ar y penwythnos, i ddeiliaid tocynnau yn unig y bydd y safle ar agor.

"Os ydych yn teithio o Benarth, gwnewch yn siŵr eich bod ar Ochr Caerdydd y Morglawdd cyn i'r safle gau. Bydd yr holl fynediad i'r gigs ar ochr Caerdydd y Morglawdd lle bydd diogelwch, gwiriadau tocynnau meddal a gwiriadau COVID yn cael eu sefydlu gan drefnwyr y digwyddiad.

"Os oes gennych chi docyn, bydd y fynedfa a'r allanfa ar gyfer y digwyddiadau ger cylch fan Porth Teigr, pen y Bae Rhodfa'r Morglawdd.

"Bydd hyd at 11,000 o ddeiliaid tocynnau yn y digwyddiadau hyn bob dydd felly byddai'n anodd, os nad yn amhosibl, i gymudwyr neu feicwyr groesi'r Morglawdd yn ddiogel.

"Mae gweithredoedd proffil-uchel fel hyn yn denu llawer o ddiddordeb a phetai'r Morglawdd yn aros ar agor, gallai torfeydd mawr gasglu. Bydd cau'r safle yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â thorfeydd mawr yn casglu yn yr ardal, gan gynnwys rhwystro mynediad i bobl sy'n cymudo neu'n cerdded, atal cerbydau brys rhag cael mynediad i'r ardal os oes angen, risg o orlenwi a thagfeydd wrth fynd i mewn ac wrth ymadael â'r digwyddiadau, a'r potensial i bobl heb docynnau fynd i mewn i'r digwyddiad, a allai arwain at sefyllfa fel a welwyd ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Wembley yn ddiweddar.

"Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiadau gael eu cynnal ym Mhentir Alexandra ers cyn y pandemig acr ydym am i bawb gael dychwelyd i ddigwyddiadau awyr agored yn y lleoliad hwn yn ddiogel a mwynhau yr un pryd."

Bydd arwyddion am y cau yn yr ardal yn gynnar yr wythnos nesaf, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Awdurdod yr Harbwr:

https://www.cardiffharbour.com/cy/

 

Gorchymyn i dipiwr anghyfreithlon dalu dros £300 yn Llys Ynadon Caerdydd

Cafodd Sherifa Actie, 27 oed o Beauchamp Street, Caerdydd, Orchymyn i dalu £300 a Rhyddhad Amodol am 12 mis yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth diwethaf (Medi 7) am dipio nifer fawr o fagiau du yn anghyfreithlon mewn lôn gefn yn agos i'w heiddo.

Ar ddydd Mawrth 5 Mai, 2020, derbyniodd y cyngor gŵyn am dipio anghyfreithlon yn lôn gefn Beauchamp Street a Plantagenet Street. Pan gyrhaeddodd y swyddog gorfodi'r safle, canfuwyd nifer fawr o fagiau du wedi'u tipio'n anghyfreithlon - yn llawn pridd uchaf - gyda thystiolaeth yn cysylltu'r gwastraff yn ôl ag eiddo Miss Actie.

Pan gyrhaeddodd y swyddog yr eiddo, roedd yn amlwg bod Miss Actie yn cael patio wedi'i adeiladu yn ei gardd gefn. Derbyniodd Miss Actie fod y pridd wedi dod o'i gardd ac esboniodd wrth y swyddog fod trefniadau'n cael eu gwneud i'w symud. Ni chafodd y gwastraff a oedd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ei symud oddi yno erbyn 26 Mai 2020, felly rhoddwyd camau gorfodi ar waith, gan fod cwynion pellach wedi dod i law gan y cyhoedd.

Cyhoeddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig ar 1 Rhagfyr ac ni chafodd ei dalu, felly rhestrwyd yr achos ar gyfer camau cyfreithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Dylai'r achos hwn fod wedi cael ei ddatrys cyn iddo fynd i'r llys. Os ydych yn cael gwaith wedi ei wneud i'ch eiddo, chi sy'n gyfrifol am y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu ac mae angen i chi gyllidebu i'w symud.

"Nid yw gwaredu gwastraff mewn lôn gefn, fel ei fod yn rhwystro eraill ac yn gwneud i'r ardal leol edrych yn hyll, yn dderbyniol. Mae'r achos hwn yn dangos yn glir y byddwn yn mynd â'r achos i'r llys ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r achos drwy'r cyfryngau os na fydd unigolyn yn talu Hysbysiad Cosb Benodedig pan gaiff ei ddal."