Back
Penodi Consortiwm yn Ymgeisydd Llwyddiannus ar gyfer Arena Dan Do newydd Caerdydd

16/09/21

Mae cael Arena Dan Do newydd gyda lle i 15,000 o bobl yng Nglanfa'r Iwerydd wedi cymryd cam arall ymlaen heddiw, a hynny ar ôl cwblhau'r Achos Busnes Llawn ac adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd i benodi'r cynigydd llwyddiannus sef consortiwm Live Nation, Oak View Group fel gweithredwyr a Robertson fel datblygwr.

Bydd yr arena dan do newydd yn creu cyrchfan o'r radd flaenaf i ymwelwyr yn y DU, a allai ddenu miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn a denu dros £100m y flwyddyn i'r economi leol.

Mae'r adroddiad i'r cabinet yn gofyn iddynt gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn, y Cytundeb Datblygu a dogfennau cyfreithiol cysylltiedig i godi'r arena dan do newydd ac i benodi'r Consortiwm yn ffurfiol fel y cynigydd llwyddiannus.

Ystyrir yr arena dan do newydd fel y darn olaf coll yn seilwaith y ddinas sydd ei angen i gadarnhau enw da rhyngwladol Caerdydd fel dinas y digwyddiadau mawr. Mae wedi bod yn uchelgais a dyhead ers amser gan wahanol weinyddiaethau'r Cyngor, sydd wedi clustnodi cyllidebau ers 2006 i helpu i wireddu cynnig a arweiniwyd gan y sector breifat, a'i gefnogi gan y Cyngor.

Mae'r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect o fewn 'amlen fforddiadwyedd' ar gyfer y prosiect a nodwyd ar ddechrau'r broses gaffael.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: Mae cymuned fusnes y ddinas wedi cefnogi'r prosiect ers blynyddoedd lawer, yn enwedig y sector lletygarwch. Bydd yr arena dan do newydd yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf yn y DU a bydd y manteision ariannol a ddaw yn ei sgil i Butetown a'r ardal ehangach yn sylweddol - gyda hyd at 2,000 o swyddi'n cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu a 1,000 o swyddi eraill ar waith pan fydd uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd yn cael ei wireddu.

"Drwy gyfrwng uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd, gwneir gwelliannau sylweddol i'r ardal gyhoeddus ac i gysylltiadau trafnidiaeth, a does dim dwywaith y bydd adfywio'r safle hwn yn rhoi hwb i gam nesaf yr adfywio ym Mae Caerdydd.

"Fel y gwnawn bob amser, rydym yn gweithio law yn llaw â'r sector preifat i gyflawni hyn. Nod y Cyngor erioed oedd darparu arena o'r radd flaenaf ar sail fasnachol. Mae'r Cyngor wedi cytuno i ddod o hyd i'r cyllid, a fydd yn cael ei adennill drwy brydles hirdymor gyda'r gweithredwyr, wedi'i warantu gan eu rhiant-gwmnïau."

Mae'r pandemig wedi golygu bod cwblhau'r Achos Busnes Llawn wedi cymryd ychydig fisoedd yn hirach na'r hyn oedd wedi'i ddisgwyl yn wreiddiol. Rydym yn rhagweld y bydd yr arena dan do ar agor i gwsmeriaid erbyn diwedd 2024 yn hytrach nag yn ystod gwanwyn 2024.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: "Rydym wedi bod yn ceisio symud y prosiect yn ei flaen cyn gynted ag y gallwn, er gwaethaf y pandemig, ac mae cryn dipyn o waith ychwanegol wedi gorfod cael ei wneud i gwblhau'r Achos Busnes Llawn i liniaru'r problemau sydd wedi codi o'r pandemig ac effeithiau'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae'r datblygwr wedi dechrau ymgynghori â busnesau a thrigolion lleol fel rhan o'r gwaith y mae angen iddynt ei wneud cyn cyflwyno cais cynllunio. Bydd y cais cynllunio ar gyfer yr arena'n cynnwys yr uwchgynllun ehangach ar gyfer yr ardal, gyda nifer o newidiadau i gynlluniau presennol y ffyrdd. Mae trigolion lleol wedi codi pryderon cynnar ynghylch cau Ffordd y Sgwner er enghraifft, y mae'r Cyngor wedi'u hystyried ac a fydd yn ceisio'u lliniaru.

Dywedodd Nick Harris, Cyfarwyddwr Eiddo Gweithredol Grŵp Robertson: "Rydym yn croesawu'r adroddiad sy'n cadarnhau ein statws, ochr yn ochr â'n partneriaid, i gyflawni cam un Glanfa'r Iwerydd, Uwchgynllun Butetown.  Mae hwn yn gam sylweddol tuag at gyflawni dyheadau'r Cyngor i greu cyrchfan fywiog i ymwelwyr ym Mae Caerdydd.

"Cawsom ein calonogi'n fawr gan yr adborth cadarnhaol a gafwyd yn ystod ein hymgynghoriadau cyhoeddus yn ddiweddar, ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'n partneriaid a'r Cyngor i baratoi'r cais cynllunio llawn a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref."

Dywedodd Graham Walters, Prif Swyddog Gweithredu Live Nation (Lleoliadau'r DU): "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu arena o'r radd flaenaf gyda Chyngor Caerdydd a'n partneriaid consortiwm OVG a Robertson, a fydd yn cynnig y budd mwyaf i'r gymuned leol a'r rhanbarth ehangach i greu un o brif gyrchfannau a lleoliadau diwylliannol Cymru. Mae gan Live Nation wybodaeth leol uniongyrchol sylweddol ar ôl gweithio yng Nghaerdydd ers dros ddau ddegawd a byddwn yn cadarnhau safle'r arena newydd fel canolfan ganolog ar gyfer adloniant byw gyda digwyddiadau o fri rhyngwladol."

Dywedodd Tim Leiweke, Prif Swyddog Gweithredol a'r cyd-sylfaenydd: "Rwy'n falch iawn bod OVG yn datblygu lleoliad o safon uwch yn rhai o ddinasoedd mwyaf y byd, ac rwy'n falch iawn bod Caerdydd yn ymuno â'r rhestr honno. "Rydym yn llawn cyffro o gael gweithio gyda'n partneriaid Live Nation a Robertson i gynnig arena o'r radd flaenaf sy'n gallu dod â digwyddiadau gorau'r byd i Gaerdydd."

Bydd y Cytundeb Darparu yn cael ei lofnodi gyda Live Nation, Oak View Group a Chonsortiwm Robertson unwaith y byddan nhw a'r Cyngor wedi bodloni nifer o amodau gan gynnwys sicrhau caniatâd cynllunio. Y llinell amser ddiwygiedig ar gyfer codi'r Arena yw:

  • Medi 2021: Penderfyniad y Cabinet ar yr Achos Busnes Llawn a'r Cytundeb Darparu;
  • Hydref 2021: Cyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract a'r datblygwr i gyflwyno cais cynllunio;
  • Chwefror 2022 Penderfyniad cynllunio a gwaith cychwynnol ar y safle i ddechrau;
  • Mawrth 2022: Contract wedi'i lofnodi;
  • Ebrill 2022 Y gwaith adeiladu'n dechrau;
  • Yr Arena'n agor ddiwedd 2024.

 


  • Mae Cyngor Caerdydd, Live Nation Entertainment ac Oak View Group (OVG) - gyda Robertson Group fel datblygwyr - yn dod ag arena digwyddiadau o'r radd flaenaf i Gaerdydd. Yn arweinwyr mewn adloniant byw byd-eang, rheoli lleoliadau a gwerthu tocynnau, a chyda hanes o hyrwyddo sioeau yng Nghaerdydd yn mynd yn ôl i'r 1980au, mae Live Nation ac OVG ill dau yn adnabod y ddinas yn dda. Wrth ymuno â Robertson a gyflwynodd y TECA arobryn yn Aberdeen - un o ganolfannau digwyddiadau mwyaf cynaliadwy Ewrop - mae hwn yn dîm sydd â'r gallu i ddatblygu, adeiladu a gweithredu gofod digwyddiadau amlbwrpas o'r radd flaenaf yn llwyddiannus ar gyfer Glanfa'r Iwerydd, Butetown, Caerdydd, ac yn un sydd wedi ymrwymo'n llwyr i gael effaith gadarnhaol ac amlwg mewn cymunedau lleol.
  • Cyngor Caerdydd: Mae Cyngor Caerdydd wedi chwarae rhan ganolog yn adfywiad y ddinas yn y degawdau diwethaf. Fel un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, mae'r Cyngor wedi goruchwylio un o'r trawsnewidiadau mwyaf uchelgeisiol o unrhyw ddinas fawr yn y DU, gan weithio'n agos gyda'r sector preifat i ddenu datblygiadau mawr sydd wedi creu degau o filoedd o swyddi newydd.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu mwy o swyddi gwell i'w breswylwyr gan sicrhau, lle mae datblygu, bod hynny'n cael ei wneud er budd y bobl sy'n byw yno a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.www.caerdydd.gov.uk 

  • Robertson: Robertson yw un o'r busnesau adeiladu, seilwaith a gwasanaethau cynnal teuluol mwyaf yn y DU. Mae gennym dros 3,000 o weithwyr talentog yn gweithio ar safleoedd ac yn ein swyddfeydd rhanbarthol sy'n adnabyddus am eu penderfyniad i lwyddo, eu rhagoriaeth mewn gwasanaeth, eu dull tryloyw a'u meddwl arloesol.

Rydym yn falch o fod yn gyfrifol yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol, ac yn 2018 daeth Robertson yn un o'r cwmnïau cyntaf yn y sector amgylchedd adeiledig i gael ei achredu fel cwmni carbon niwtral. Fel busnes teuluol sydd â gwreiddiau cryf yn ei gymuned ei hun, mae'n rhoi pwys mawr ar greu cyfleoedd cyflogaeth a dysgu ym mhobman rydym yn gweithio - a'n bod yn gwneud hynny'n gynaliadwy. Ewch i www.robertson.co.uk

  • Live Nation:Live Nation Entertainment (NYSE: LYV) yw prif gwmni adloniant byw y byd ac mae'n cynnwys arweinwyr marchnad byd-eang: Ticketmaster, Live Nation Concerts, a Live Nation Media & Sponsorship. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.livenationentertainment.com
  • OVG: Cenhadaeth Oak View Group yw newid y ffordd y gwneir busnes o fewn y diwydiant cerddoriaeth, chwaraeon ac adloniant byw. Wedi'i sefydlu yn 2015 gan Tim Leiweke ac Irving Azoff, mae OVG yn creu lleoliadau o'r radd flaenaf sy'n gwthio ffiniau'r hyn a gredwyd oedd yn bosibl i gynnig y gorau mewn adloniant byw.

Gydag wyth adran ar draws pum swyddfa ryngwladol yn Llundain, Los Angeles, Efrog Newydd, Philadelphia, a Seattle, mae ei ddegawdau o brofiad byd-eang ac arweinyddiaeth bwrpasol yn cynnig yr ysgogiad a'r ystwythder i fod ar flaen y gad yn yr hyn sy'n llywio'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd - gan alluogi darparu lleoliadau unigryw i gynulleidfaoedd eu mwynhau am genedlaethau i ddod. Ewch i www.oakviewgroup.com