Back
Annog trigolion i barhau i ymweld â Pharc Bute a’i fwynhau wrth i waith adfer barhau yn dilyn fandaliaeth


20.09.2021

 

 

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi diolch i drigolion a ddaeth i ddangos eu cefnogaeth i Barc Bute ar ôl i filoedd o bunnoedd o ddifrod gael ei achosi gan fandaliaid.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Roedd yn galonogol iawn gweld cymaint o bobl yn dod allan i ddangos eu cefnogaeth i'r parc, ac am yr holl waith y mae timau ein parciau a'n gwirfoddolwyr yn ei wneud bob dydd, gan ei wneud yn drysor hardd, gwyrdd, yng nghanol Caerdydd.

 

"Yn dilyn y fandaliaeth ddifrifol a gyflawnwyd yno, mae timau parciau Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n galed yn sicrhau fod y parc yn ddiogel ac atgyweirio'r difrod wrth weithio gyda'r heddlu a chefnogi'r rhai y mae'r drosedd yn effeithio arnynt.

 

"Mae gwerth degau o filoedd o bunnoedd o ddifrod wedi'i wneud, fodd bynnag, mae timau wedi bwrw ati i ddechrau ar y gwaith o atgyweirio'r parc, gan gynnwys:

 

  • Y gwaith sy'n rhaid ei wneud i sicrhau bod y parc yn ddiogel i drigolion barhau i ymweld ag ef a'i fwynhau.
  • Mae'r holl botiau blodau sydd wedi'u fandaleiddio wedi'u hadfer, gyda gwaith ailblannu yn dal i fynd rhagddo.
  • Mae biniau sbwriel wedi'u hailosod.
  • Mae arwyddion a ddifrodwyd wedi'u casglu a byddant yn cael eu hailosod cyn bo hir.
  • Mae seiri meini yn cael eu gwahodd i ddod i'r safle i weld y difrod a chynnig dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith o drwsio'r gwaith cerrig ar Bont yr Arglwyddes Bute.
  • Mae gwaith atgyweirio ar y ceblau ffibr optig wedi'i gwblhau.Adferwyd y rhyngrwyd i'r adeiladau ac mae'r gorchudd y pibelli dŵr wedi'i ailosod. 
  • Mae ystafelloedd newid y Gored Ddu y torrwyd i mewn iddynt a'u difrodi wedi'u diogelu gyda drysau a chloeon newydd.

"Rwy'n gwybod bod y ddinas gyfan yn tristau ac wedi'i chynhyrfu gan y fandaliaeth ddisynnwyr hon, felly roedd yn wych gweld cefnogaeth o'r fath i'r parc. Rydym am i bawb wybod na ddylent adael i'r hyn sydd wedi digwydd eu hatal rhag dod i'r parc a mwynhau ei holl harddwch."
 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Hoffwn ddiolch i bawb am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i adfer Parc Bute. 

 

"Rydym wedi cael ymateb ardderchog gan y gymuned ac mae'n wych gweld pawb yn tynnu at ei gilydd yn wyneb fandaliaeth mor ofnadwy.

 

"Mae ysbryd cymunedol wedi cael ei drafod llawer yn ystod y pandemig, felly mae'n wych gweld yr holl gefnogaeth i Barc Bute a'n timau parciau.

 

"Mae ein timau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i atgyweirio'r hyn y gallant ac asesu hyd a lled y difrod.

 

"Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac mae'r tîm yn parhau i gyfrannu gwybodaeth tra bod y lluniau teledu cylch cyfyng yn cael eu hadolygu.

 

"Anogir unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111."