Back
LLWYDDIANT I RAGLEN CYFOETHOGI GWYLIAU YSGOL CAERDYDD

22/9/2021

Yr haf hwn, manteisiodd dros 1200 o blant a phobl ifanc ar Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY) Caerdydd, sy'n golygu bod y niferoedd uchaf erioed wedi gallu mwynhau'r rhaglen gyffrous o ddarpariaeth chwaraeon ac addysgol, ochr yn ochr â phrydau maethlon iach.

Prif Ffigurau:

  • Manteisiodd mwy na 1200 o blant a phobl ifanc ar y ddarpariaeth yn ystod y 6 wythnos o wyliau'r ysgol
  • Cafodd dros 22,000 o brydau brecwast a chinio iach eu gweini gan dimau Arlwyo Addysg 
  • Rhoddwyd dros 5000 o fagiau bwyd i deuluoedd gan ddarparu dros 20,000 o brydau bwyd i ddisgyblion a'u teuluoedd i'w mwynhau gartref
  • Cyflwynwyd 2016 awr o ddarpariaeth mewn 28 ysgol ar draws y ddinas
  • Darparodd dros 30 o sefydliadau partner fwy na 1200 o sesiynau  
  • Derbyniodd 46 o aelodau staff ysgolion hyfforddiant i gyflwyno sesiynau addysg maeth

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwyf wrth fy modd bod cymaint o blant a phobl ifanc wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen Bwyd a Hwyl eleni ac roeddwn yn ffodus o gael mynychu rhai o'r sesiynau a phrofi'n uniongyrchol y ffyrdd y mae'r cynllun yn elwa ein cymunedau. 

"Mae mwy o deuluoedd nag erioed yn teimlo effeithiau'r pandemig, yn gymdeithasol ac yn ariannol.  Mae'r fenter hon yn sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd hwyliog ac addysgol a chwaraeon ynghyd â phrydau maethlon iach, sy'n cael eu darparu mewn amgylchedd diogel a meithringar i gynnig rhywfaint o ryddhad ariannol i deuluoedd tra bod ysgolion ar gau.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae'r fenterBwyd a Hwylarobryn yn rhoi cyfleoedd i blant gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a dysgu sgiliau newydd wedi eu darparu gan amrywiaeth o bartneriaid ledled y ddinas, wrth helpu i leddfu'r baich ariannol ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf.

Fel rhan o'r cynllun, darparwyd bagiau bwyd teulu i deuluoedd gan gynnwys cynhwysion a rysáit cam wrth gam a ddatblygwyd gan ddietegwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i'w hannog i baratoi, coginio a bwyta gyda'i gilydd.  Yn ogystal, darparodd sefydliadau partner amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys sesiynau gweithgarwch corfforol gan Chwaraeon Caerdydd, ymweliadau gan y gwasanaethau brys a llu o weithgareddau eraill megis criced, dawns, lansio rocedi, garddio, diogelwch dŵr a drama.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae'r cynllun yn ddibynnol ar wirfoddolwyr a phartneriaid ledled y ddinas, sydd gyda'i gilydd yn galluogi plant i ddysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd hwyliog a diogel. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i bob un ohonynt, a'u canmol am helpu i gynnal blwyddyn fwyaf llwyddiannus y cynllun Bwyd a Hwyl hyd yma."

Eleni, roedd cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru yn golygu y gallai'r rhaglen gael ei hymestyn i gynnwys cymunedau y tu hwnt i'r ardaloedd a dargedir ac a ariennir yn draddodiadol gan Lywodraeth Cymru, gan ganiatáu i dimau a phartneriaid RhCGY ymroddedig ledled Caerdydd helpu i sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth. 

Adborth gan ysgolion:

Siân Ponting, Cydlynydd RhCGY Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Fair: "Trwy amrywiaeth o weithgareddau, cafodd y plant cymorth i fagu eu hyder. Mae hyn wir wedi cefnogi'r plant sydd fel arfer yn swil iawn neu'n dawedog." 

"Yn ystod un gweithgaredd, gwnaeth y plant ardd fach fyw fwytadwy i fynd adref a fyddai'n parhau i dyfu a thyfu. Clywsom gan rieni fod rhai plant na fyddent fel arfer yn bwyta salad yn rhoi cynnig arni, sy'n gyswllt ardderchog â bwyta'n iach mewn ffordd gynaliadwy."

"Mae'n deg dweud bod pob plentyn a fynychodd y sesiynau maeth wedi gadael â sylfaen ardderchog ar gyfer y dyfodol, ac roedd y wybodaeth yr oeddent wedi'i chael yn glir i'w gweld, o roi cynnig ar fwydydd newydd i fwyta bwydydd iach yn lle bwydydd llawn siwgr - am ganlyniad rhagorol!"

Dywedodd Jo Blackmore, Cydlynydd RhCGY Ysgol Gynradd Pencaerau: "Roedd pob un o'n disgyblion a'n rhieni/gofalwyr yn hynod ddiolchgar a chefnogol i'r hyn yr oeddem yn ceisio'i gyflawni yn ystod y rhaglen Bwyd a Hwyl. Dywedodd sawl un o'n rhieni bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn wych a doedd y plant ddim am ddod adref.

"Roedd hi'n braf gweld plant sydd ddim yn meddwl eu bod nhw'n dda mewn chwaraeon, yn dysgu bod gemau egnïol yn cyfrif tuag at ffitrwydd, iechyd da a lles. Mae'r blasu bwyd a choginio wedi helpu'r plant i fod yn fwy hyderus wrth roi cynnig ar fwydydd newydd a deall beth sy'n dda iddyn nhw - a'r hyn oll wrth gael amser da."

Cafodd y cynllunBwyd a Hwylei ddatblygu gan dîm RhCGY Caerdydd yn 2015 ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno i weddill Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel enghraifft o Arfer Gorau ac mae wedi arwain at gydnabod mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth gwyliau fwyaf datblygedig yn y DU.