Back
Cwestiynau ac Atebion Argae Parc y Rhath

24.09.2021


 

Gwaith a wnaed

Pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw Argae Parc y Rhath?

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal a chadw Argae Parc y Rhath, sy'n eiddo cyhoeddus, ac mae angen archwiliadau rheolaidd dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr (1975).

A fydd yn rhaid cau'r parc?

Bydd angen cau gwahanol rannau o'r parc ger yr argae yn ystod y gwaith ymchwilio i'r ddaear a'r camau adeiladu. Caiff yr holl gyfnodau y bydd yr argae ar gau eu cynllunio a rhoddir gwybod amdanynt i randdeiliaid cymunedol a thrigolion lleol ymlaen llaw.  Ceir diweddariadau rheolaidd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd. Os bydd newidiadau'n codi oherwydd amgylchiadau annisgwyl, rhoddir gwybod am y newidiadau hyn cyn gynted â phosibl.

Pryd mae'r gwaith cynnal a chadw i fod i ddechrau a beth mae'n debygol o'i gynnwys?

Mae gwaith Ymchwilio i'r Ddaear yn debygol o ddechrau ym mis Tachwedd 2021, lle bydd ymchwiliadau'n pennu cwmpas y prosiect a'r gwaith adeiladu ei hun. Yn dilyn ymgysylltu â'r gymuned, dylunio ac yn amodol ar benderfyniad cynllunio, bydd y gwaith adeiladu'n dechrau ym mis Tachwedd 2022 ac yn para tan ddiwedd 2023.

Faint o amser fydd y gwaith yn ei gymryd?

Bydd y gwaith Ymchwilio i'r Ddaear yn cymryd hyd at fis ym mis Tachwedd. Disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Tachwedd 2022 gan bara tan ddiwedd 2023.

A fydd y gwaith yn effeithio ar oleudy Parc y Rhath?

Nid oes unrhyw waith adeiladu wedi'i gynllunio yng nghyffiniau'r goleudy. Bydd y gwaith adeiladu yn canolbwyntio ar frig yr argae, llethr yr argae i'r parc a'r gorlifan.

Mae'n bosibl y caiff gwaith dadsiltio ei wneud yn y cyffiniau, ond dim ond tynnu silt sydd wedi cronni ers y tro diwethaf i'r gronfa ddŵr gael ei garthu y byddai'r gwaith hwnnw'n cynnwys.

A fydd angen cau Lake Road West neu Lake Road East er mwyn gwneud y gwaith?

Ar hyn o bryd, nid ydym yn rhagweld y bydd angen cau naill ai Lake Road West neu Lake Road East.

A fydd angen mesurau rheoli traffig yn naill ai Lake Road West neu Lake Road East wrth i'r gwaith gael ei wneud?

Mae'n debygol y bydd angen mesurau rheoli traffig ar adegau. Gan y bydd angen i draffig adeiladu a cherbydau dosbarthu fynd i mewn i'r parc a'i adael, efallai y bydd angen mesurau rheoli traffig er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y parc, y cyhoedd a staff adeiladu.

Newidiadau i'r ardal

A fydd effeithiau parhaol ar y fioamrywiaeth amgylchynol?

Bydd y dyluniad yn ceisio lleihau'r tarfu parhaol ar y parc cymaint â phosibl. 

Gall gwaith dros dro i gloddio ac unrhyw waith adeiladu i'r gorlifan effeithio ar fioamrywiaeth amgylchynol, ond gwneir pob ymdrech i adfer nodweddion presennol y parc ar ôl cwblhau'r gwaith, cyn belled ag y bo'n ymarferol.

A fydd y dirwedd yn newid o ganlyniad i'r gwaith?

Y bwriad yw gwneud cyn lleied o newidiadau â phosibl i'r dirwedd.

A fydd unrhyw goed yn cael eu symud er mwyn i'r gwaith gael ei wneud?

Bydd. Mae'n debygol y bydd angen symud rhai coed yn yr ardal i'r chwith o'r gorlifan (gan edrych i lawr yr afon), yn agos at Ardd Goffa Scott, er mwyn hwyluso'r gwaith o ailadeiladu'r gorlifan.  Byddwn yn ceisio disodli unrhyw goed sy'n cael eu cwympo.

A fydd unrhyw welliannau i fioamrywiaeth leol?

Gweithredir mesurau lliniaru ar gyfer unrhyw fioamrywiaeth bwysig y terfir arni.

Nid yw gwelliannau posibl wedi'u trafod eto.

Ymgysylltu â'r Gymuned a Rhanddeiliaid

Sut a phryd yr ymgysylltir â chymunedau lleol a rhanddeiliaid?

Caiff Cylchlythyr Cymunedol sy'n tynnu sylw at y gwelliannau i strwythur Argae Parc y Rhath ei gyhoeddi ar 24 Medi 2021 i randdeiliaid a'r ardal ymgynghori graidd.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth gymunedol am y prosiect, sy'n cynnwys :

  • Gweminar Zoom ar-lein

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Hydref

Amser: 6pm

Trwy Zoom

Cwblhewch y ffurflen gadw lle ar ein tudalen gwe.  Byddwn yn anfon dolen atoch i'r weminar cyn y digwyddiad.

  • Digwyddiadau galw heibio

Mae dau ddigwyddiad galw heibio wedi'u trefnu ym Mharc y Rhath:

Dydd Sadwrn 23 Hydref 9am-2pm

Dydd Mawrth 26 Hydref 9.30am-3.30pm

Cadwch lygad am ein canolfan wybodaeth ger gorlifan yr argae wrth ymyl man gwylio'r ceidwad. Galwch heibio i gael sgwrs gyda thîm y prosiect.

Sut y bydd y gymuned a rhanddeiliaid yn cael adborth ac yn cael gwybod am gynnydd y prosiect?

Croesewir adborth ar y prosiect drwyroathparkdam@grasshopper-comms.co.ukneuRhadbost GRASSHOPPER CONSULT. Cyhoeddir diweddariadau rheolaidd ar y prosiect, unrhyw newidiadau i fynediad oherwydd yr ymchwiliadau i'r ddaear, a gwaith pellach ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd a gwefan Awyr Agored Caerdydd, a chyhoeddir diweddariadau mewn cylchlythyrau i'r rheiny sy'n byw'n agos at y safle.

Pwy yr ymgynghorir ag ef am y prosiect?

Rydym wedi cynnal ymarfer mapio rhanddeiliaid helaeth sy'n nodi rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned y dylid ymgysylltu â nhw.

Mae ardal ymgynghori graidd wedi'i diffinio gyda 4831 o aelwydydd a 59 o fusnesau ar y stryd o amgylch Parc y Rhath a'r tir hamdden. 

Mae Grasshopper Communications yn arwain ymgysylltiadau â rhanddeiliaid rhanbarthol a lleol gan gynnwys y sectorau canlynol: treftadaeth, hamdden ac awyr agored, ffydd, gwasanaethau cyhoeddus, cyfleustodau a seilwaith, yr amgylchedd a chynaliadwyedd, twristiaeth a datblygu economaidd, addysg bellach a phrifysgol, trafnidiaeth, busnesau lleol, cyfleusterau cymunedol, ysgolion, grwpiau cymunedol a chydraddoldeb.

Mae Cyngor Caerdydd yn arwain ymgysylltiadau â rhanddeiliaid gwleidyddol gan gynnwys Aelodau'r Senedd a chynghorwyr wardiau.

Defnyddir datganiadau i'r wasg, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a phosteri yn y parc i hysbysu cymuned ehangach Caerdydd a thu hwnt.

Sut caiff barn y gymuned a rhanddeiliaid ei hystyried?

Rydym yn croesawu adborth ar y prosiect a byddwn yn ceisio mynd i'r afael â materion sy'n codi.

Gwybodaeth Ychwanegol

Beth yw effeithiau hirdymor y newid yn yr hinsawdd yn yr ardal?

Bydd y newid yn yr hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar lifogydd yng Nghymru.  Mae stormydd yn debygol o ddigwydd yn amlach ac o fod yn fwy difrifol, a fyddai'n gofyn i orlifan yr argae pasio llifogydd eithafol yn ddiogel.

Beth yw Deddf Cronfeydd Dŵr (1975)?

Rheoleiddir cronfeydd dŵr yng Nghymru a Lloegr dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 (a orfodir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru).Mae'r Ddeddf yn bodoli i ddiogelu'r cyhoedd drwy leihau'r risg o ddŵr yn cael ei ryddhau heb reolaeth o gronfeydd dŵr mawr, dyrchafedig a'r llifogydd peryglus y gall hyn eu hachosi.

Pam mae angen i ni reoli perygl llifogydd?

Mae Parc y Rhath yn fan cyhoeddus sy'n cael ei ddefnyddio'n fawr. Bydd rheoli perygl llifogydd yn sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol, gan felly diogelu bywydau a bywoliaethau, a sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel.

Beth yw Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd?

Mae Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn esboniad a dadansoddiad manwl sy'n ystyried perygl llifogydd o afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr a'r môr, a sut mae hyn yn effeithio ar unigolion, cymunedau a busnesau. 

Pwy sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd?

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r llyn, sy'n cynnwys rheoli'r perygl llifogydd, ac mae angen iddo gynnal archwiliadau rheolaidd (dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975).

Beth fydd yn digwydd os na fydd y gwaith gwella i'r argae yn cael ei wneud?

Diben y gwaith yw gwella gallu'r gronfa ddŵr i basio dŵr llifogydd yn ddiogel ac atal dŵr rhag cael ei ryddhau heb reolaeth a allai beryglu'r rheiny i lawr yr afon. Os na wneir y gwaith, mewn digwyddiad llifogydd eithafol gallai fod difrod i'r argae gan achosi i ddŵr y llyn gael ei ryddhau a hefyd lifogydd sylweddol cynyddol mewn ardaloedd i lawr yr afon.