Back
Hope, 7 oed, yn rhedeg her 50km ar ran Cartref Cŵn Caerdydd


27.09.2021

 

Mae Hope O'Reilly, sy'n 7 mlwydd oed, wedi ymgymryd â'r her o redeg 50k yn ystod mis Medi er mwyn helpu i godi arian tuag at ailwampio Cartref Cŵn Caerdydd.

 

Dywedodd Hope, sy'n dwlu ar gŵn: "Rwy'n gwneud yr her achos mae gen i gi ac roeddwn i eisiau ei chyflawni ar gyfer y cŵn eraill gan fy mod i'n gwybod pa mor braf ydyn nhw i bobl, felly rydw i eisiau codi arian ar eu cyfer."

Dywedodd Lisa Freeman, mam Hope, "Rwy'n hynod falch o Hope. Mae hi mor benderfynol o wneud yr her hon a chodi cymaint o arian â phosibl ar gyfer Cartref Cŵn Caerdydd.

"Mae gan Hope galon fawr ac mae ei gweld yn gwisgo ei sgidiau ymarfer ar ôl diwrnod hir yn yr ysgol i gyflawni mwy o filltiroedd yn gwneud i mi wenu gyda chymaint o falchder"

Mae Hope, sydd newydd ddechrau yn yr ysgol iau, yn rhedeg y cilometrau ar ôl ysgol ac ar y penwythnosau.

Yn gynharach y mis hwn, gwahoddwyd Hope a'i theulu i Gartref Cŵn Caerdydd lle llwyddodd i gwrdd â rhai o'r ffrindiau pedair coes y mae'n codi arian ar eu cyfer.

Dywedodd Maria Bailie, Rheolwr y Cartref Cŵn, "Waw! Am her anhygoel i blentyn 7 oed.

"Rydym mor falch o Hope ac mor ddiolchgar iddi am ymgymryd â'r her bersonol hon i helpu cŵn Caerdydd.

"Diolch Hope a phob lwc gyda chyflawni dy darged, rwyt ti'n anhygoel."

Ar hyn o bryd mae Hope yn chwalu ei tharged codi arian ac mae ganddi lai na 17km i'w rhedeg erbyn diwedd y mis.

Ar y diwrnod olaf, ddydd Iau 30 Medi, bydd holl ffrindiau Hope yn ymgynnull yng ngerddi'r Faenor ar gyfer milltir olaf Hope.

I gyfrannu at her anhygoel Hope, ewch i'w thudalen JustGiving: www.justgiving.com/fundraising/hope-o-reilly

Pob lwc i ti Hope!