Back
Lansio rheolau newydd i orfodi perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol

30.09.2021

Daw Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) newydd, a gynlluniwyd i helpu i wella mannau cyhoeddus a gwyrdd, i rym ar draws y ddinas o ddydd Llun, 4 Hydref.

Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn caniatáu i gyngor Caerdydd gymryd camau yn erbyn perchnogion cŵn sy'n caniatáu i'w hanifeiliaid anwes faeddu mewn ardal o dir cyhoeddus heb lanhau ar eu hôl.

Mae'r Gorchymyn, a lansiwyd yn dilyn ymgynghoriad llawn, hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i:

  • unrhyw berson sy'n gyfrifol am gi gario bagiau gwastraff baw cŵn a'u dangos os yw Swyddog y Cyngor neu'r Heddlu'n gofyn iddynt wneud hynny;
  • cadw cŵn ar dennyn ym mhob mynwent sy'n eiddo i ac/neu a gynhelir gan Gyngor Caerdydd;
  • Cadw cŵn dan reolaeth briodol mewn mannau cyhoeddus; a
  • ni chaniateir cŵn mewn rhai mannau cyhoeddus gan gynnwys ardaloedd chwaraeon neu chwarae wedi'u ffensio.

Gall cerddwyr cŵn barhau i ddefnyddio ardaloedd lle ceir caeau chwarae awyr agored pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.  Fodd bynnag, gofynnir i gerddwyr cŵn fod yn ymwybodol o ddefnyddwyr y caeau a'r gofyniad i gario bagiau baw cŵn i glirio ar ôl eu hanifeiliaid anwes bob amser. 

Os na chydymffurfir â gofynion y gorchymyn, gallai swyddog awdurdodedig gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig hyd at £100 a allai godi i £1,000 os na chaiff ei dalu.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury,yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, "Gwnaed yr ymrwymiadau hyn yn dilyn ymgynghoriad helaeth dros dair blynedd ynghylch y rheolaethau cŵn.

"Cawsom dros 6,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac ymgysylltom yn uniongyrchol â grwpiau cŵn a grwpiau defnyddwyr agored i niwed i esbonio'r rheolaethau, a roddodd y gallu i ni ddeall y ffordd orau o reoli pryderon heb effeithio ar fywydau pobl a lles eu cŵn.

 

"Bydd eithriadau ar gyfer pobl sydd ag anabledd sy'n effeithio ar eu symudedd, eu deheurwydd, eu cydlyniad corfforol neu eu gallu i godi neu symud eitemau pob dydd neu mewn perthynas â chŵn sydd wedi eu hyfforddi gan elusen gofrestredig ac y mae pobl yn ddibynnol arnynt i'w helpu.

"Bydd arwyddion rheolaethau cŵn yn cael eu gosod ar draws y ddinas a fydd yn cefnogi ymgyrchoedd 'Caerdydd sy'n Dda i Blant' ac 'Awyr Agored Caerdydd' i wella amgylchedd y ddinas i blant a hybu defnyddio mannau awyr agored ledled Caerdydd i bawb. 

"Mae'r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu cŵn ac nid ydym eisiau eu gwahardd nhw rhag mwynhau'r mannau agored sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n perchnogion cŵn cyfrifol sy'n glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes a phwysleisio pwysigrwydd cario bagiau gwastraff cŵn priodol wrth fynd am dro."

Gellir addasu Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus a chaiff ei adolygu o leiaf bob 3 blynedd er mwyn sicrhau bod unrhyw reolaethau'n parhau'n briodol.

Mae'r gorchymyn bellach yn fyw ar y wefan a gall yr ymgyngoreion  dod o hyd i'r gorchymyn yma  ynghyd â'r cynlluniau/mapiau.