Back
Rhentu Doeth Cymru yn galw landlord didrwydded i gyfrif

 

 1/10/21

 

Mae landlord o Gymru a oedd wedi cael gwrthod trwydded gan Rhentu Doeth Cymru i gynnal gweithgareddau gosod a rheoli, wedi'i gael yn euog o reoli ei eiddo yn anghyfreithlon.

 

Parhaodd Derrick Morgan, o Crossways, Parc Newydd, Llansawel, i gyflwyno cytundebau tenantiaeth a chasglu rhent gan denantiaid oedd yn byw yn ei eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot, er iddo gael gwrthod trwydded gan Rhentu Doeth Cymru yn 2019.

 

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bob landlord ac asiant yng Nghymru sy'n gosod a rheoli eiddo rhent gael trwydded Rhentu Doeth Cymru.

 

Yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd Mr Morgan yn euog i fethu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynwyd fel rhan o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Fe'i cafwyd yn euog o ddau gyhuddiad arall o dan y Ddeddf gan gynnwys methu â chael ei drwyddedu i wneud gwaith gosod a rheoli eiddo. Cafodd ddirwy o £4,620 a gorchmynnwyd iddo dalu £2,500 mewn costau a gordal dioddefwr o £190.

 

Dechreuodd ymchwiliadau i bortffolio Mr Morgan ar ôl i Rhentu Doeth Cymru amau nad oedd yn bodloni'r gofyniad i benodi asiant trwyddedig i reoli ei eiddo, ar ôl i'w drwydded ei hun gael ei wrthod. Ni ddarparwyd gwybodaeth y gofynnwyd amdani am waith rheoli'r eiddo.

 

Fe wnaeth Mr Morgan benodi gwahanol asiantau i reoli ei eiddo ond parhaodd i gyflawni tasgau rheoli ei hun - yn groes i'r gofyniad i ddal trwydded i allu gwneud hynny.

 

Dywedodd y Cynghorydd Linda Thorne, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, awdurdod trwyddedu sengl Rhentu Doeth Cymru:  "Mae'r gofyniad i landlordiaid ac asiantau feddu ar drwydded Rhentu Doeth Cymru i ymgymryd â gweithgareddau gosod a rheoli eiddo yn y ddeddfwriaeth am reswm, a hynny er mwyn sicrhau bod unigolion sy'n cyflawni'r dyletswyddau hyn yn addas i wneud hynny ac wedi'u hyfforddi'n briodol yn eu hawliau a'u rhwymedigaethau.

 

"Yn anffodus, er iddo benodi asiantau trwyddedig i weithredu ar ei ran i reoli ei eiddo, parhaodd Mr Morgan i fod ynghlwm, gan gynnwys cysylltu'n uniongyrchol â thenantiaid, a nawr mae'n rhaid iddo dalu'r pris am y camgymeriad hwnnw.

 

"Mae hwn yn amser da i atgoffa'r holl denantiaid sy'n byw mewn llety rhent preifat sydd â landlord sy'n cyflawni dyletswyddau gosod neu reoli i wirio bod eu landlord wedi'i drwyddedu. Gellir cynnal gwiriadau yn gyflym ac yn ddienw drwy fynd i gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru yma: https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/

 

"Os nad yw eich landlord wedi’i drwyddedu, rhowch wybod i ni drwy ffonio 03000 133344 neu drwy'r wefan www.rhentudoeth.gov.cymru