Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 11/10/21

 

08/10/21 - Cam nesaf cynigion Ysgol Uwchradd Cathays

Bydd argymhellion i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays newydd yn cael eu cyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ar ddiwedd y mis.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27716.html

 

08/10/21 - Cynlluniau i ehangu ac ad-drefnu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae cynlluniau sylweddol i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY, Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) ac anghenion iechyd a lles wedi'u datgelu gan Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27714.html

 

08/10/21 - Datgelu cynlluniau i hybu cyfleoedd addysg Gymraeg ledled Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu strategaeth 10 mlynedd i gynyddu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27712.html

 

08/10/21 - Gweithio Tuag at Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn

Gall Caerdydd gymryd cam tuag at fod y ddinas gyntaf sy'n dda i bobl hŷn yng Nghymru yr wythnos nesaf wrth i'r awdurdod ystyried ymuno â rhwydwaith byd-eang o gymunedau sy'n dda i bobl hŷn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27710.html

 

08/10/21 - Hwb ariannol i Ysgol Farchogaeth Caerdydd diolch i'r Grŵp Cyfeillion

Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd wedi cael hwb ariannol i ddarparu ysgol awyr agored newydd a gwell i farchogwyr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27706.html

 

06/10/21 - Tîm Tai yn Gyntaf Caerdydd yn cyrraedd y brig!

Mae tîm Tai yn Gyntaf Cyngor Caerdydd wedi cipio gwobr genedlaethol am ei gyfraniad rhagorol i'r sector tai yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27695.html

 

06/10/21 - Adnewyddu Ardal Chwarae Caeau Llandaf

Mae gwaith gwella i adnewyddu un o ardaloedd chwarae Caerdydd wedi dechrau'r mis hwn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27693.html