Back
Ymgynghoriad cyhoeddus nawr ar agor ar y cynigion i gynyddu darpariaeth Caerdydd i blant a phobl ifanc ag anghenion dysg

12/10/2021

Mae ymgynghoriad cyhoeddus sy'n gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ddweud eu dweud ar gynigion i gynyddu'r ddarpariaeth yng Nghaerdydd, ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) bellach ar agor.

Gellir cyflwyno barn ar ddau gynllun i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw am ddarpariaeth ADY yn yr oedran cynradd ac ehangu'r cymorth i ddysgwyr gydag anghenion iechyd emosiynol ac lles ac Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC).

Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Cynyddu capasiti yn Ysgol Arbennig y Llys o 42 i 72 o leoedd a throsglwyddo'r ysgol i adeiladau newydd ar draws dau safle gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o fis Medi 2025. Byddai'r safleoedd ar dir yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed ac yn defnyddio safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn Llanrhymni, yn dilyn trosglwyddo'r ysgol i adeiladau newydd ar ddatblygiad St Edern.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer hyd at 20 o blant oedran cynradd ag Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) yn Ysgol Gynradd Moorland.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, os ânt yn eu blaen, gallai'r cynigion hefyd weld Ysgol y Court, y mae ei chyflwr wedi ei nodi fel gwael neu anaddas, yn cael ei hadnewyddu a'i hehangu gydag adeiladau newydd o dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry; "Yng Nghaerdydd, mae lefel y cymorth, y sgiliau a'r cyfleusterau sydd ar gael mewn ysgolion wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu eu bod wedi dod yn fwy cynhwysol ac yn gallu diwallu anghenion y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol. Mae 17 Canolfan Adnoddau Arbenigol wedi'u sefydlu ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu a datblygu Ysgolion Riverbank ac Woodlands.

"Fodd bynnag, mae twf poblogaeth disgyblion a chymhlethdod cynyddol anghenion rhai dysgwyr wedi golygu bod y gofyniad am ddarpariaeth arbenigol wedi cynyddu. Mae cyfraddau goroesi gwell ar gyfer plant sy'n cael eu geni ag anableddau sylweddol sy'n arwain at anableddau difrifol a chymhleth hefyd wedi cynyddu, sy'n golygu bod nifer y disgyblion sydd angen lle mewn ysgol arbennig neu Ganolfan Adnoddau Arbenigol wedi parhau i dyfu.

"Bydd y cynigion ar gyfer Ysgol y Court  ac Ysgol Gynradd Moorland yn rhoi'r gallu i Gaerdydd gynyddu'r dewis sydd o ran darpariaeth gan helpu i sicrhau bod ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn gallu manteisio ar arbenigedd ac amgylcheddau arbenigol, fel y gallant ffynnu yng Nghaerdydd a gwireddu eu potensial ar gyfer y dyfodol."

"Bydd barn trigolion, disgyblion, ysgolion a'u cymunedau i gyd yn chwarae rhan fawr yn y ffordd y mae'r cynlluniau'n cael eu datblygu a byddwn yn annog pobl i ddweud eu dweud er mwyn ein helpu i lunio'r cynlluniau hanfodol a chyffrous hyn."

Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd saith Ysgol Arbennig, pum dosbarth llesiant cynradd, Uned Cyfeirio Disgyblion arbenigol a dosbarth lleferydd ac iaith cynradd. Cynhelir 17 Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) hefyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y ddinas, sy'n galluogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) i lwyddo mewn amgylchedd ysgolion y brif ffrwd.

I ddweud eich dweud am y cynlluniau, ewch i:www.caerdydd.gov.uk/cynigionysgolionADY

Cynhelir yr ymgynghoriad o ddydd Llun 11 Hydref i ddydd Llun 22 Tachwedd.
 

Gellir darparu'r ddogfen hon ar ffurf Braille a gellir darparu gwybodaeth hefyd mewn iaith gymunedol, cysylltwch â C2C ar 029 2087 2720 i drefnu hyn.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar-lein drwy Microsoft Teams ddydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021 am 5.30pm - 7pm

 

Os hoffech fynychu cyfarfod ar-lein cysylltwch â ni drwy e-bost:ymatebionysgolion@caerdydd.gov.ukgan ddweud pa gyfarfod yr hoffech ei fynychu. Byddwn yn anfon dolen a chyfarwyddiadau atoch ar sut y gallwch gael mynediad i'r cyfarfod.