Back
Datrysiad am ddim os bydd ymyrraeth deledu'n digwydd yng Nghaerdydd

15/10/21 

Mae rhwydweithiau symudol yn cael eu gwella yng Nghaerdydd gan roi hwb i gyflymder, perfformiad a chwmpas.  Mae siawns fach y gallai'r uwchraddiadau hyn achosi ymyrraeth i signalau teledu a dderbynnir drwy'r awyr fel Freeview, BT, TalkTalk a YouView. 

Gallai symptomau gynnwys sain ysbeidiol, delweddau mewn blociau (picseleiddio) neu golli signal teledu.

Mae cymorth am ddim ar gael gan Restore TV.  Rôl Restore TV yw sicrhau bod pobl yn gallu parhau i fwynhau'r teledu am ddim pan fydd signalau ffôn symudol yn cael eu huwchraddio yn eu hardal. Mae'n rhoi cymorth i unrhyw un sy'n profi ymyrraeth â gwasanaethau teledu a achosir gan signalau ffonau symudol.  Mae Restore TV yn cynnig cymorth ychwanegol i bobl sy'n 75 oed neu'n hŷn, sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall neu'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol: Taliadau Annibyniaeth Bersonol; lwfans gweini; lwfans gweini cyson neu Gymorth Symudedd Pensiynwyr Rhyfel.

Dywedodd Ben Roome, Prif Swyddog Gweithredol Restore TV:  "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r teledu i hysbysu, diddanu a darparu cwmni croeso.  Mae Restore TV yn bodoli i sicrhau y gall pob un o'n gwasanaethau barhau i gael mynediad am ddim i weld teledu wrth i wasanaethau ffonau symudol gael eu gwella ledled y wlad."

"Os ydych chi'n gweld ymyrraeth signalau teledu newydd, rydyn ni wrth law i'ch helpu i ddatrys y mater.  Gallwn anfon hidlydd Restore TV, yn rhad ac am ddim, i chi ffitio rhwng eich cebl erial a'ch teledu neu flwch pen set i gael gwared ar signalau ffonau symudol a'ch galluogi i wylio teledu am ddim fel arfer. Mae cyfarwyddiadau llawn wedi'u cynnwys, a gallwn ddarparu cyngor pellach ar-lein a dros y ffôn os oes angen.

"Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gosod yr hidlydd yn datrys unrhyw broblemau, ond os nad yw hyn yn gweithio, efallai y byddwn hefyd yn gallu trefnu ymweliad dilynol gan beiriannydd Restore TV heb unrhyw gost, yn dibynnu ar gymhwysedd."

Nid yw teledu cebl a lloeren, fel Sky neu Virgin yn cael eu heffeithio. Fodd bynnag, gall gwylwyr sydd â'r gwasanaethau hyn, sydd hefyd yn gwylio'n teledu am ddim drwy erial, gael hidlydd Restore TV am ddim.

Mae trigolion yn fwy tebygol o gael eu heffeithio os ydynt yn byw mewn ardal sydd â derbyniad teledu digidol gwan, neu fod ganddynt  atgyfnerthydd signalau teledu ac y mae'r erial deledu yn agos at fast ffonau symudol.

Ar gyfer preswylwyr mewn fflatiau neu adeiladau cymunedol, mae Restore TV yn rhoi cymorth i landlordiaid neu reolwyr eiddo i ddatrys y broblem.

Dylai unrhyw wyliwr, sy'n profi ymyrraeth newydd ar eu signalau teledu am ddim, gysylltu â Restore TV ar:

       0808 13 13 800 (am ddim o linellau tir a ffonau symudol)

       restoretv.uk

I gael rhagor o wybodaeth ewch i  restoretv.uk

Mae Restore TV yn rhaglen annibynnol a grëwyd i sicrhau bod holl wylwyr y DU yn parhau i gael sianeli am ddim, fel Freeview, BT, TalkTalk a YouView, neu'n cael cynnig dewis arall addas, os yw signalau symudol yn achosi ymyrraeth deledu.