Back
Hwyl Hanner Tymor i’r Teulu
19/10/21

Os ydych chi'n chwilio i ddiddanu'r plant yr hanner tymor hwn, yna efallai y bydd yr ateb gan un o'n lleoliadau neu gyfleusterau ni... 

Dyma syniad o'r hyn sy'n digwydd ledled Caerdydd.  
 

HYBIAU A LLYFRGELLOEDD  

Mae llawer o bethau arswydus yn digwydd yn ein hybiau a'n llyfrgelloedd dros wyliau hanner tymor ond does dim i'w ofni – dim ond paratoi eich hun ar gyfer llwyth o hwyl yn ein digwyddiadau am ddim gan gynnwys 'Calan Gaeaf yn yr Hyb', helfeydd trysor, cerfio pwmpenni a llawer mwy o weithgareddau gydol yr wythnos. 

Bydd yr holl ffefrynnau arferol yn cael eu cynnal hefyd fel amser stori a rhigwm, Clwb Darllen, Amser Crefft a Chlwb Lego. 

Edrychwch ar yr holl weithgareddau sydd ar gael yn www.cardiffhubs.co.uk a chofiwch fod angen i chi archebu eich lle yn y gweithgaredd rydych am ei fynychu drwy ffonio eich hyb lleol.  

 

NEUADD LLANOFER  

Creu masg, 'Clwb Clai' ar thema Harry Potter, gwisg sgerbwd drwy argraffu sgrin, sesiynau actio Arbennig Calan Gaeaf ‘Let's Act’, a llawer mwy – mae'n mynd i fod yn hanner tymor arbennig yn Neuadd Llanofer.

Gweler y manylion isod:  

 

Dydd Llun 25 Hydref 

  

  

Beth? 

Pryd? 

Manylion 

 Actio 

10am-3pm 

Actio! Sesiwn Arbennig Calan Gaeaf 8+ oed £40 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030. 

 

  

Dydd Mawrth 26 Hydref 

  

  

Beth? 

Pryd? 

Manylion 

 Actio 

 

 10am-3pm 

 

Actio! Sesiwn Arbennig Calan Gaeaf 8+ oed £40 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030. 

 

  

Dydd Mercher 27 Hydref  

  

  

Beth? 

Pryd? 

Manylion 

 Paentio Calan Gaeaf  

10-12pm 

5-8 oed £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 Hetiau Calan Gaeaf  

 10-12pm 

 5-8 oed £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

Creu Masgiau Calan Gaeaf  

 1-3pm 

 5-8 oed £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 Pwmpenni Little Potters  

 10am-12pm 

 5-8 oed £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

Clwb Clai Calan Gaeaf 

1-3pm 

8+ oed £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 

  

Dydd Iau 28 Hydref  

  

  

Beth? 

Pryd? 

Manylion 

 Paentio 

 10am-12pm 

5-8 Oed Tân Gwyllt Deniadol £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 Clwb Clai  

 10am-12pm 

 8+ Oed - Crochenwaith ‘Harry Pottery’. £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 Crochenwyr Bach  

 1-3pm 

 8+ oed Ystlum ac Ysgub £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 

  

Dydd Gwener 29 Hydref  

  

  

Beth? 

Pryd? 

Manylion 

Artistiaid Bach  

10am-12pm 

 Hwyl Amlgyfrwng yr Hydref!  5-8 oed £7.50 am sesiwn 2 awr – archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 

 Clai Mosaig  

10am-12pm 

Pwmpenni Clai a Phenglogau mosaig disglair 8+ oed £7.50 am sesiwn 2 awr drwy - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 Clwb Clai  

10am-12pm 

Powlen Crochenwaith Calan Gaeaf.  8+ oed £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

 Crochenwyr Bach  

1-3pm 

Tŷ / Castell Ysbrydion Clai  5-8 oed. £7.50 am sesiwn 2 awr - archebwch drwy ffonio 029 2087 2030 

Gwisgoedd sgerbwd  

1-3pm 

Gwisgoedd penglog a sgerbwd ymoleuol drwy argraffu sgrin  8+ oed £7.50 am sesiwn 2 awr drwy ffonio 029 2087 2030 

 

PARCIAU A MANNAU CHWARAE 

Mae parciau Caerdydd bob amser yn edrych yn wych yn lliwiau'r hydref – a bydd anturiaethwyr bach wrth eu bodd yn darganfod y bywyd gwyllt ar garreg eu drws gydag un o'n llwybrau archwilio bywyd gwyllt y gellir ei lawrlwytho: https://www.outdoorcardiff.com/cy/llwybrau/dod-o-hyd-i-lwybr/llwybrau-bywyd-gwyllt/  

Ac os oes angen newid cyflymder arnynt, maen nhw'n siŵr o garu'r ardaloedd chwarae sydd newydd eu hadnewyddu ym Mharc Caedelyn, Glenmount, Adamscroft, Pentwyn, a Chaeau Llandaf.  

Anturiaethau Llwybr Gwyllt,Parc y Mynydd Bychan, Dydd Sadwrn Hydref 30, 3-5pm, Mwyyma.

Eisiau gwneud Caerdydd yn harddach lle ynghyd â helpu’r Gwenyn? Ymunwch â ni i helpu i roi cartref i natur ym Mharc Bute. Ymunwch â chymuned Pharmabees Caerdydd a Pharc Bute i Fiobledu Parc Bute a helpu i wella ac ail-wampio‘r ddôl blodau gwyllt. Dydd Mercher 27 Hydref, 10:30 am ac am 1:30 pm - Sesiynau Biobledu. 11:30 am ac am 2:30 pm – Sesiynau Ymarferol. Cyfarfod y tu allan i Gaffi’r Ardd Ddirgel /(Secret Garden Café)/ i’r Ganolfan Ymwelwyr (Visitor Centre). gallwch anfon e-bost at Anna ar:
afriendofbees@gmail.com

CASTELL CAERDYDD

Yn ogystal â’r Castell ei hun, mae yna gweithgareddau plant hanner tymor gwych yn digwydd sy’n sicr o ddarparu hwyl i’r teulu cyfan. Gan ei bod hefyd yn wythnos Calan Gaeaf, pa ffordd well i godi’ch ysbryd na thrwy fynychu un o’n digwyddiadau dychrynllyd o dda yng Nghastell Caerdydd! Mwy yma. 

BAE CAERDYDD 

Mae taith i Fae Caerdydd bob amser yn antur, ond beth am lawrlwytho'r Ap Wallace & Gromit: Trwsio’r Ddinas i'ch ffôn clyfar a'i wneud yn antur Realiti Estynedig?  

Mae'r teicŵn busnes Bernard Grubb wedi comisiynu'r ddeuawd enwog i dwtio'r ddinas mewn pryd ar gyfer ei ŵyl.  Mae llwyth o bethau i’w gwneud a phob math o ddyfeisiau i’w canfod – gan gynnwys y robot glanhau anferthol, 'Big LAD'.  

Ond mae help wrth law gan BERYL, Deallusrwydd Artiffisial ffyslyd ond cyfeillgar – efallai y gall hi helpu i ddod o hyd i Gromit, sydd wedi crwydro i rywle... 

Darganfyddwch fwy yma: https://www.thebigfixup.co.uk/fix-up-the-city