Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 19 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn datgelu'r cynllun gweithredu diweddaraf ar gyfer Caerdydd; mae ymgynghoriad wyth wythnos ar Strategaeth Fysiau newydd Caerdydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a hwyl Hanner Tymor i'r Teulu.

 

Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn datgelu'r cynllun gweithredu diweddaraf ar gyfer Caerdydd

Mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol wedi datgelu cynlluniau newydd mawr yn ei adroddiad diweddaraf i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn y ddinas.

Mae'r adroddiad diweddaraf yn manylu ar ail gylch y cynigion ar gyfer Caerdydd: 

  • Ysgol Gynradd Mount Stuart fydd yr ysgol gyntaf yng Nghaerdydd i dreialu Hyfforddiant Gwrth-Hiliaeth a gafodd ei greu gan Rachel Clarke, Dirprwy Bennaeth ac wyres Betty Campbell, pennaeth du cyntaf Cymru a hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth.

    Nod y pecyn cymorth yw Addysgu, Grymuso a Gwella ysgolion gyda'r adnoddau, y cymorth a'r sgiliau i helpu i wneud newid systematig. Mae'r Tasglu wrthi'n ceisio ymgysylltu â mwy o ysgolion ledled y ddinas.

 

  • Cyflwyno rhaglen 5 cam i gynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig mewn ysgolion drwy asesu'r rhwystrau a rhoi cymorth i Gynorthwywyr Addysgu sydd am ymuno â'r proffesiwn addysgu.

    Amcangyfrifir bod tua 1.5% o'r gweithlu addysgu yng Nghaerdydd yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, ond mae tua 8% o'r cynorthwywyr addysgu yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol.

 

  • Ymuno â Chynllun Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau i gynnig cyfleoedd cyflogaeth lefel mynediad i bobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 16-24 oed yng Nghaerdydd a allai fod angen help llaw i gael profiad i ddechrau eu gyrfa.
     

Gweithio mewn partneriaeth â Monumental Welsh Women i sefydlu Darlith Betty Campbell flynyddol mewn cydweithrediad â Mis Hanes Pobl Dduon a Gŵyl Lyfrau Caerdydd a chefnogi Straeon Caerdydd i ddathlu unigolion blaenllaw du o Gymru yn hanes Cymru a Chaerdydd.

Mae'r Tasglu, a gynigiwyd gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth drasig George Floyd yn UDA a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU, wedi bod yn gweithio ar gyfres o gynigion i helpu i wella bywydau a chyfleoedd cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae'r cynigion hyn yn dangos y cynnydd cyflym a wnaed diolch i waith caled y Tasglu, i sefydlu'r hyn y gallwn ei wneud i helpu i gefnogi ein trigolion Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd. 

"Nid siop siarad yw hon lle rydym yn ailadrodd yr un hen drafodaethau, yn hytrach mae'r cynigion hyn yn ymateb i rai o wir anghenion ein cymunedau.

"Byddwn yn ceisio mynd â'r cynigion hyn yn gyflym drwy broses gymeradwyo'r Cabinet, fel y gallwn, drwy weithio gyda'n partneriaid, geisio eu gweithredu'n gyflym a pharhau i sbarduno newid cadarnhaol yn y ddinas."

Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, y Cynghorydd Saeed Ebrahim: "Gwnaethom ymgynghori â'r gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn ôl ym mis Awst 2020 i gasglu barn ar beth ddylai blaenoriaethau'r Tasglu fod.

"Mae cymaint i'w wneud o hyd, ond mae'r cynigion hyn yn deillio o anghenion gwirioneddol ac, ar ran y Tasglu, rwy'n edrych ymlaen at gymryd camau ystyrlon."

Bydd cynigion y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn cael eu hanfon at y Cabinet mewn adroddiad blynyddol ym mis Rhagfyr.

 

Mae ymgynghoriad wyth wythnos ar Strategaeth Fysiau newydd Caerdydd

Mae strategaeth newydd, sy'n ceisio dyblu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau yng Nghaerdydd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer, allan nawr ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae'r ymgynghoriad wyth wythnos yn gofyn am farn ar strategaeth naw pwynt Cyngor Caerdydd i wella gwasanaethau bws yn y ddinas i drigolion a chymudwyr, gan gynnwys:

 

  • Cyflwyno prisiau rhatach;
  • Gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru (TrC) i ddatblygu system docynnau integredig sy'n gweithio gyda'r Metro;
  • Cael mwy o fysiau allyriadau isel ar y ffordd;
  • Adeiladu seilwaith a fydd yn gwneud teithio ar fysiau yn haws ac yn gynt; a
  • Creu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

 

I lenwi'r arolwg byr a rhoi eich barn, ewch i:

https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=163284379253

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn dibynnu ar fysiau i gyrraedd y gwaith a symud o gwmpas y ddinas fel rhan o'u bywydau bob dydd. Felly, os gallwn wneud teithiau'n gyflymach, yn fwy cyfforddus, yn rhatach ac yn fwy dibynadwy, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl -

"Rwy'n credu y bydd argyhoeddi'r cyhoedd i fynd allan o'u ceir ac i deithio ar fws, cerdded neu ar feic i'r gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ni wynebu'r argyfwng hinsawdd a chydnabod bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â thagfeydd a llygredd aer yn ein dinasoedd.

"Os ydyn ni am wneud hynny yna rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i'r gwasanaethau bws wella.  Mae angen i bobl wybod bod bysiau'n fforddiadwy, yn lân, yn dda i'r amgylchedd, yn gyfforddus ac yn gallu eu cludo yn hawdd ac yn effeithiol i'r man lle mae angen iddynt fod. Rhaid iddo fod yn ddidrafferth a rhaid iddo fod yn wasanaeth o safon.  Dyna pam rydym wedi llunio strategaeth naw pwynt gyda syniadau i drawsnewid teithio ar fysiau yn y ddinas. Mae'n strategaeth y credwn y gall ddechrau symud pobl allan o'u ceir ac ar i drafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i wella'r amgylchedd i bawb."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27792.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (08 Hydref - 14 Hydref)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

18 Hydref 2021, 09:00

 

Achosion: 2,859

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 779.2 (Cymru: 585.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 11,880

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,237.9

Cyfran bositif: 24.1% (Cymru: 20.1% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Hydref

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  749,888 (Dos 1: 374,110 Dos 2:  344,060)

 

  • 80 a throsodd: 20,435 / 94.6% (Dos 1) 20,225 / 93.6% (Dos 2)
  • 75-79: 15,016 / 96.4% (Dos 1) 14,846 / 95.3% (Dos 2)
  • 70-74: 21,409 / 95.7% (Dos 1) 21,279 / 95.1% (Dos 2)
  • 65-69: 21,959 / 94.2% (Dos 1) 21,702 / 93.1% (Dos 2)
  • 60-64: 26,038 / 92.4% (Dos 1) 25,699 / 91.2% (Dos 2)
  • 55-59: 29,393 / 90.3% (Dos 1) 28,872 / 88.7% (Dos 2)
  • 50-54: 29,072 / 88.1% (Dos 1) 28,386 / 86% (Dos 2)
  • 40-49: 55,476 / 81.8% (Dos 1) 53,433 / 78.8% (Dos 2)
  • 30-39: 60,872 / 75.7% (Dos 1) 56,807 / 70.7% (Dos 2)
  • 18-29: 80,408 / 76.9% (Dos 1) 71,512 / 68.4% (Dos 2)
  • 16-17: 4,003 / 73.1% (Dos 1) 291 / 5.3% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,176 / 98.1% (Dos 1) 2,145 / 96.7% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,247 / 94.2% (Dos 1) 11,035 / 92.5% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,194 / 90.2% (Dos 1) 44,534 / 86.9% (Dos 2)

 

Hwyl Hanner Tymor i'r Teulu

Os ydych chi'n chwilio i ddiddanu'r plant yr hanner tymor hwn, yna efallai y bydd yr ateb gan un o'n lleoliadau neu gyfleusterau ni...

Dyma syniad o'r hyn sy'n digwydd ledled Caerdydd:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27804.html