Back
Ierdydd Ysgol Llawn Bwyd yn cael eu cyflwyno i ddeg o Ysgolion Cynradd Caerdydd

21/10/2021

Bydd Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â'relusen amgylcheddol, Trees for Cities (TfC)yndarparu deg Iard Ysgol Llawn Bwyd newydd ar draws y ddinas yn ystod 2021/22.

Mae'r rhaglen sydd wedi ennill sawl gwobr, yn trawsnewid tiroedd yr ysgol yn erddi ffrwythau a llysiau awyr agored bywiog, gyda'r nod o gael plant i gyffroi am dyfu a bwyta bwyd iach, wrth ddarparu adnoddau dysgu awyr agored gwerthfawr.

Mae'r ysgolion a ddewiswyd ar gyfer cam cyntaf y rhaglen yn cynnwys; Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd Meadowbank, Ysgol Gynradd Herbert Thompson, Ysgol Glan Morfa, Ysgol Pen y Pil, Ysgol The Hollies, Ysgol Bro Eirwg, Ysgol Gynradd Trowbridge, Ysgol Gynradd Greenway a Glan yr Afon.

Mae Trees for Cities yn gweithio'n agos gyda nhw i greu dyluniadau meysydd chwarae pwrpasol, lle gall yr ysgol gyfan ymuno yn y dasg o dyfu bwyd. Bydd pob prosiect fel arfer yn cynnwys popeth sydd ei angen i'r ysgol dyfu ei bwyd ei hun yn llwyddiannus gan gynnwys gwelyau wedi'u codi, tŷ gwydr, gwrtaith, abwydfa a sied offer yn ogystal â lle addysgu awyr agored i ddosbarth cyfan.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yng Nghaerdydd, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo'r defnydd o ofod awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae i blant. Rydym hefyd yn cydnabod y cyfoeth o fuddion sydd gan fannau gwyrdd i iechyd a lles ein dinasyddion ieuengaf. Mae hyn yn rhan o'n hagenda ar gyfer Caerdydd "wyrddach" yn ogystal ag annog deietau iachach.

"Rydym yn frwdfrydig i barhau i weithio gyda Trees for Cities i ehangu'r rhaglen am dair blynedd arall i gynnwys hyd at 40 o ysgolion eraill ar draws y ddinas. Mae hyn yn ein cefnogi i gyflawni ein Gweledigaeth Caerdydd 2030 a hyrwyddo amrywiaeth o gynlluniau ansawdd aer, plannu coed a gwyrddio cyfannol ar gyfer y dyfodol."

Mae'r gwaith cyntaf eisoes wedi'i gwblhau yn Ysgol Gynradd Coed Glas ac mae gwaith dylunio ar y gweill mewn sawl ysgol arall.

Dywedodd David Elliott, Prif Weithredwr Trees for Cities, "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd i ddylunio a chyflwyno amrywiaeth o brosiectau tyfu bwyd cyffrous ac ysbrydoledig i ysgolion Caerdydd. Bydd y fenter hon yn caniatáu i ddisgyblion elwa o fannau gwyrddach yn eu meysydd chwarae, cael rhagor o wersi awyr agored a deall yn fanylach o ble y daw eu bwyd.'

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Rwyf wrth fy modd bod Cyngor Caerdydd a Trees for Cities yn gweithio mewn partneriaeth, i hyrwyddo mannau gwyrdd yn llwyddiannus ar draws prifddinas Cymru. Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i fyw bywyd iach, ac mae'r prosiect hwn yn cefnogi ymhellach uchelgais Caerdydd o ddod yn ddinas UNICEF UK sy'n Dda i Blant, lle mae lleisiau a safbwyntiau plant wrth wraidd popeth a wnawn."


Home | Trees for Cities
 
@treesforcitiesinfo@treesforcities.org