Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 22 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Trefniadau casglu gwastraff gardd y gaeaf a'r Nadolig; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a Holi Caerdydd 2021.

 

Trefniadau casglu gwastraff gardd y gaeaf a'r Nadolig

I helpu trigolion i glirio dail, bydd casgliadau gwastraff gardd Caerdydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Tachwedd - mis yn hwyrach na'r llynedd.

Bydd hyn yn sicrhau bod trigolion ledled y ddinas yn derbyn casgliad gwastraff gardd yn ystod mis Tachwedd.

Bydd casgliadau Gwastraff Gardd mis Tachwedd yn cael eu cynnal ar y dyddiadau hyn yn yr ardaloedd canlynol -Casgliadau gwastraff gardd (caerdydd.gov.uk)

Yna bydd y casgliadau gwastraff gwyrdd arferol yn ailddechrau o 15 Mawrth 2022 - ond bydd casgliadau penodol yn cael eu cynnig ar gyfer coed Nadolig go iawn ym mis Ionawr. Bydd mwy o fanylion am y gwasanaeth hwn ar gael ym mis Rhagfyr felly dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth neu lawrlwythwch yr ap CardiffGov i'ch ffôn o Apple Store neu Google Play. Mae 50,000 o drigolion eisoes yn defnyddio'r ap i gael mynediad at wasanaethau'r cyngor.

Ac eithrio gwyliau banc, bydd y canolfannau ailgylchu yng Nghlos Bessemer a Ffordd Lamby yn parhau ar agor dros y gaeaf, felly gellir dod â gwastraff ailgylchu a gwastraff gardd i'r cyfleusterau hyn hefyd -Casgliadau gwastraff gardd (caerdydd.gov.uk)

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân a'r Amgylchedd: "Mae'r prinder gyrwyr HGV a'r cyfraddau COVID cynyddol yn y ddinas yn golygu bod yn rhaid i ni flaenoriaethu gwasanaethau wrth i ni baratoi i wynebu'r pwysau ychwanegol a ddaw yn sgil y gaeaf. Mae swm y gwastraff gwyrdd sy'n cael ei gasglu yn y ddinas yn gostwng bron i 50% rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr a gwyddom fod hyn yn parhau drwy gydol Ionawr, Chwefror a Mawrth. O ystyried y ffigurau hyn, mae'r cyngor wedi tocio'r casgliadau gwastraff gwyrdd i wneud y mwyaf o gasgliadau gwastraff a'r staff sydd ar gael yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Mae'r Nadolig bob amser yn gyfnod prysur iawn i'n criwiau casglu gwastraff, sy'n casglu cardfwrdd, ailgylchu a gwastraff cyffredinol - gan fod trigolion yn cynhyrchu llawer mwy o'r mathau hyn o wastraff dros yr ŵyl. Bydd criwiau sydd fel arfer yn casglu gwastraff gardd yn cael eu symud i helpu eu cydweithwyr ar rowndiau casglu eraill i sicrhau y gellir casglu'r gwastraff statudol."

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11 Hydref - 17 Hydref)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

21 Hydref 2021, 09:00

 

Achosion: 3,034

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 826.9 (Cymru: 681.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 11,983

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,266.0

Cyfran bositif: 25.3% (Cymru: 22.9% cyfran bositif)

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (15/10/21 i 21/10/21)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 1251

  • Disgyblion a myfyrwyr = 1166
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 85

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 20 Hydref

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  749,888 (Dos 1: 374,110 Dos 2:  344,060)

 

  • 80 a throsodd: 20,357 / 94.6% (Dos 1) 20,158 / 93.7% (Dos 2)
  • 75-79: 15,002 / 96.4% (Dos 1) 14,842 / 95.4% (Dos 2)
  • 70-74: 21,407 / 95.8% (Dos 1) 21,278 / 95.2% (Dos 2)
  • 65-69: 21,967 / 94.2% (Dos 1) 21,721 / 93.2% (Dos 2)
  • 60-64: 26,064 / 92.4% (Dos 1) 25,738 / 91.2% (Dos 2)
  • 55-59: 29,435 / 90.3% (Dos 1) 28,927 / 88.8% (Dos 2)
  • 50-54: 29,113 / 88.1% (Dos 1) 28,458 / 86.1% (Dos 2)
  • 40-49: 55,476 / 81.8% (Dos 1) 53,433 / 78.8% (Dos 2)
  • 30-39: 61,135 / 75.9% (Dos 1) 57,235 / 71.1% (Dos 2)
  • 18-29: 81,023 / 77.2% (Dos 1) 72,435 / 69% (Dos 2)
  • 16-17: 4,034 / 73.6% (Dos 1) 304 / 5.5% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,151 / 98.2% (Dos 1) 2,119 / 96.8% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,265 / 94.4% (Dos 1) 11,068 / 92.8% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,180 / 90.2% (Dos 1) 44,558 / 87.1% (Dos 2)

 

Holi Caerdydd 2021:  Lleisiwch eich barn

Mae trigolion Caerdydd a phawb sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn y ddinas yn cael eu hannog i rannu eu barn ar eu profiadau o wasanaethau.

Mae arolwg blynyddol Holi Caerdydd wedi lansio i gasglu barn pobl ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn y ddinas a meysydd y mae angen eu gwella.

Mae'r adborth a gesglir o'r arolwg yn helpu'r Cyngor a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus i ddeall yn well sut mae pobl yn profi'r ddinas a gwasanaethau ac i wybod beth sy'n bwysig i drigolion a'r gymuned leol. Mae'r ymatebion hefyd yn helpu i lywio cynlluniau i newid a gwella gwasanaethau.

Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau o wasanaethau teuluol, tai, swyddi, diogelwch cymunedol, teithio ac iechyd a lles.

Gyda'r Cyngor yn wynebu bwlch cyllidebol o £21.3 miliwn y flwyddyn nesaf, gofynnir i drigolion hefyd am eu barn ar sut y byddent yn blaenoriaethu adnoddau sydd ar gael gan y Cyngor y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae Holi Caerdydd yn ddull mor werthfawr i ni ddeall blaenoriaethau trigolion a pha mor fodlon ydyn nhw ar sut mae'r gwasanaethau presennol yn gweithredu."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27815.html