Back
Bydd giât fysus Heol y Porth yn cael ei gosod erbyn 31 Hydref

25/10/21


Bydd giât fysus newydd yn cael ei gosod ar Heol y Porth erbyn 31 Hydref - i gefnogi blaenoriaethu teithio ar fysiau a dulliau trafnidiaeth cynaliadwy i wella ansawdd aer.

Bydd y newid yn golygu na ellir defnyddio'r ffordd fel llwybr trwodd i'r naill gyfeiriad na'r llall ar gyfer unrhyw draffig ar wahân i fysiau, tacsis, beicwyr a cherddwyr.

Mae'r newid hwn yn elfen allweddol o Gynllun Aer Glân y cyngor, y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn cyfarwyddeb gyfreithiol i sicrhau bod ansawdd yr aer yng nghanol y ddinas a'r cyffiniau yn cael ei gadw islaw'r terfynau cyfreithiol.

Mae cynllun y ffordd yng nghanol y ddinas yn newid yn sylweddol ar hyn o bryd, fel bod mwy o le'n cael ei ddyrannu ar gyfer bysiau, beicwyr a cherddwyr, wrth i'r cyngor barhau i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol i leihau'r ddibyniaeth ar geir preifat er mwyn lleihau allyriadau carbon a gwella ansawdd aer lleol. 

Wrth i Stryd y Castell ailagor i gerbydau preifat erbyn diwedd mis Hydref, mae rheolaethau'n cael eu rhoi ar waith i reoli llif traffig yn y rhan hon o ganol y ddinas.  Bydd y giât fysus newydd ar Heol y Porth yn helpu'r ystafell reoli i ymdopi â'r llif traffig hwn, ynghyd â rheolaethau ychwanegol i gyffyrdd ar strydoedd cyfagos, ar Heol y Gadeirlan, Dumfries Place a Heol y Gogledd. Gosodwyd llif traffig ychwanegol a monitorau ansawdd aer mewn ardaloedd preswyl cyfagos.

Bydd preswylwyr sy'n byw ar Heol y Porth yn  gallu cael mynediad i'w heiddo o'r gogledd, drwy Stryd y Castell ac os bydd modurwyr yn mynd i mewn i Heol y Porth drwy gamgymeriad, bydd llwybrau dargyfeirio ar waith i sicrhau bod gan fodurwyr opsiynau i droi o gwmpas, felly nid oes rhaid iddynt yrru drwy giât y bws.

O'r gogledd, bydd gofyn i fodurwyr ddroi'n ôl drwy Blas y Neuadd, Heol Eglwys Fair, Golate ac yn ôl i Heol y Porth

O'r De, bydd gofyn i fodurwyr ddefnyddio Stryd Wood, Heol Scott, Stryd y Parc a Stryd Havelock.

Beth yw giât fysus? 

Gosodir giât fysus ar stryd sy'n creu llwybr byr i fysiau i bob pwrpas ac yn cyfyngu ar fodurwyr sy'n defnyddio'r llwybr neu'r ffordd benodol. Os bydd cerbyd preifat yn gyrru drwy giât fysus, mae'n drosedd traffig sy'n symud, yn debyg i yrru mewn lôn bws, neu stopio'n anghyfreithlon mewn cyffordd blwch melyn ac mae'r modurwr yn agored i Hysbysiad Tâl Cosb o £75. Bydd camerâu gorfodi yn cael eu rhoi ar waith i atal Heol y Porth rhag cael ei defnyddio fel llwybr drwodd.