Back
Gwaith Cynnal a Chadw ger Afon Taf yn Fferm y Fforest

09.11.2021

 

 

Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn digwydd wrth ymyl Afon Taf yn Fferm y Fforest, o ddydd Mercher 10 Tachwedd.

 

Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared â'r ddraenen wen wrth ymyl y wal llifogydd wrth ymyl Forest Farm Road i sicrhau ei bod yn parhau'n sefydlog.

 

Bydd CNC hefyd yn clirio'r arglawdd i'w gadw'n gymharol rydd o lystyfiant fel y gellir ei archwilio'n hawdd ar gyfer unrhyw ddifrod.

 

Mae'r llystyfiant hefyd yn cael ei glirio i ganiatáu i laswellt dyfu ar yr arglawdd. Mae glaswellt yn creu rhwydwaith cryf a chyson o wreiddiau ac yn gwneud y banciau'n fwy gwydn.

 

Bydd y llwybr cerdded sy'n rhedeg ochr yn ochr â Forest Farm Road ger y clwb rygbi a'r maes chwaraeon ar gau, ond bydd y ffordd ei hun yn parhau ar agor i geir ei defnyddio ac i bobl barhau i ddefnyddio llwybr Taf.

 

Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys gwaith diogelwch hanfodol i goed. Bydd yr holl goed y gellir eu cadw yn y coetir - yn fyw neu farw - yn cael eu cadw gan eu bod yn gynefin pwysig iawn i amrywiaeth eang o rywogaethau.

 

Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn dydd Mercher 17 Tachwedd 2021.

 

Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) -03000 65 3000