Back
Staff Canolfan Hamdden y Dwyrain yn achub bywyd Andrew Barnett

10.11.2021

Two people walkingDescription automatically generated with low confidence

"Dim ond os yw pobl yn gwybod ble maen nhw y gall diffibrilwyr achub bywydau".  Dyna'r neges gan dad i ddau o Gaerdydd, a gafodd ataliad y galon wrth chwarae pêl-droed gyda'i fab yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain, er iddo ystyried ei hun yn ffit ac yn iach ar y pryd.

Mae ymgyrch newydd Sefydliad Prydeinig y Galon yn annog pobl yng Nghymru i gofrestru diffibrilwyr ar gronfa ddata newydd o'r enwThe Circuit - the National Defibrillator Network, a allai helpu i achub miloedd o fywydau rhag ataliad y galon yn y blynyddoedd i ddod.

Dewiswyd stori Andrew Barnett i dynnu sylw at y mater fel rhan o'r ymgyrch. Mewn ffilm arbennig, sydd wedi ymddangos ar BBC Cymru, mae Andrew Barnett, 48 oed, yn disgrifio'r olygfa ym mis Rhagfyr 2018 yng Nghanolfan  Hamdden y Dwyrain yng Nghaerdydd pan achubodd staff y ganolfan ei fywyd.

Dywed Andrew: "Roeddwn i wedi mynd â fy mab i gêm bêl-droed Nadolig i oedolion a phlant.  Roeddwn i'n rhedeg o gwmpas fel arfer, yn cicio'r bêl. O'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud wrthyf wedyn, mae'n debyg i mi syrthio'n syth ar fy wyneb. Digwyddodd ar unwaith.  Cefais ataliad y galon.

"Rhedodd dau aelod o'r ganolfan hamdden allan, a daethant â'r diffibriliwr allan hefyd, oedd yn y ganolfan hamdden. Rwy'n credu bod lwc yn rhan fawr iawn ohono, y lleoliad lle roeddwn i, gyda staff wedi'i hyfforddi, a diffibriliwr ar gael hefyd."

Roedd y rheolwr ar ddyletswydd yn y ganolfan hamdden, Ben Clarke, yn y swyddfa pan gafodd wybod am Andrew.

Meddai, "Fe wnes i fachu'r diffibriliwr o'r dderbynfa a rhedeg allan - cyn gynted ag y cyrhaeddais yno, gallwn weld nad oedd e'n edrych yn dda, roedd yn anymwybodol.  Dechreuais CPR - dechreuodd cydweithiwr ddadbacio'r diffibriliwr. Fe wnes i barhau â CPR a dangosodd y peiriant fod angen sioc arno."

Roedd Sheila Mott yn hyfforddwr nofio yn y ganolfan a defnyddiodd y diffibriliwr ar Andrew.

Dilynodd y cyfarwyddiadau ar y peiriant, a ailgychwynnodd galon Andrew.  Pan gyrhaeddodd y parafeddygon, gwnaethant eu holl wiriadau a chymryd yr awenau cyn i Andrew gael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans. 

Cafodd Andrew ei drin am rydweli coronaidd wedi'i rwystro gyda stent a meddyginiaeth ac mae wedi dychwelyd i fywyd actif unwaith eto.

Mae Andrew, Ben a Sheila yn galw ar unrhyw un sydd â mynediad at ddiffibriliwr i gofrestru fel gwarcheidwad diffibriliwr ar The Circuit, a dywed Andrew, "Dwi'n meddwl bod The Circuit yn wasanaeth argyfwng arall os liciwch chi. Mae'n rhywbeth sy'n mynd i fod yn ein cymunedau - ein trefi, dinasoedd a phentrefi a fydd yn dweud wrth bobl ble yn union y gallant gael gafael ar ddiffibriliwr. Dwi'n credu fod cael y rhwydwaith a'r wybodaeth am ble maen nhw ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans, mor bwysig. Byddwn yn dweud wrth unrhyw un sydd â diffibriliwr yn eu clwb, eu cymuned neu weithle:  Cofrestrwch eich diffibriliwr i helpu i achub mwy o fywydau."

Ychwanega Sheila, "Dylai pawb ddysgu CPR, a dylai pawb sydd â mynediad i ddiffibriliwr ei gofrestru ar The Circuit.  Oni bai ei fod wedi'i gofrestru, sut fydd pobl yn gwybod ble mae e os oes ei angen?"

Dywedodd Adam Fletcher, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, "Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon ac, ochr yn ochr â CPR, mae defnyddio diffibriliwr yn brydlon yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddynt oroesi. Yn syml - gallai gwybod ble mae'r diffibriliwr agosaf, wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

"Mae'r ‘Circuit' yn dechnoleg arloesol a fydd yn helpu'r gwasanaethau brys i gyfeirio pobl yn gyflymach at ddiffibriliwr pan fydd rhywun yn cael  ataliad ar y galon. Ond, er mwyn i'r ‘Circuit' achub bywydau, mae'n hanfodol bod y degau o filoedd o ddiffibrilwyr heb eu cofrestru ledled y DU yn cael eu rhoi ar y system.

"Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn warcheidwad diffibriliwr, yna rydym yn eich annog i gofrestru eich dyfais ar The Circuit. Fe allech chi helpu i achub bywyd."

Darganfyddwch fwy yma:  https://www.bhf.org.uk/how-you-can-help/how-to-save-a-life/defibrillators/national-defibrillator-network-the-circuit