Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 16 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: mae Ceisiadau Ysgolion Cynradd ar agor nawr; ymchwiliadau tir yn dechrau yn Argae Parc y Rhath; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Mae Ceisiadau Ysgolion Cynradd ar agor nawr

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion cynradd i ddechrau ym mis Medi 2022 yn agor nawr, ac mae rhieni'n cael eu hannog i ddefnyddio'r tri dewis i gael y cyfle gorau i gael lle mewn ysgol a ffefrir ganddynt. 

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn gofyn i deuluoedd wneud cais yn brydlon ac i gofio nad oes gan blentyn hawl awtomatig i gael lle mewn dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd lle maent yn mynychu'r feithrinfa. Rhaid gwneud cais newydd ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn yn yr Ysgol Gynradd.

Mae canllawiau pellach wedi'u cyhoeddi gan Dîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd sydd wedi llunio 7 gair o gyngor i helpu teuluoedd gan esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael a pham y dylent wneud cais yn brydlon.

Mae'r ymgyrch yn cynnwys animeiddiad newydd ar gyfer plant a theuluoedd, sy'n helpu i esbonio'r 7 gair o gyngor. Mae'n ymdrin â phethau megis:

  • Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig.
  • Manteision ystyried yr holl ysgolion yn ardal y plentyn trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau.
  • Yr angen i gynnwys rhestr lawn o ddewisiadau ysgol yn y ffurflen gais gyntaf er mwyn cynyddu'r posibilrwydd o gael lle yn ysgol eich dewis gan sicrhau bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol.

 

Ceir gwybodaeth hefyd am sut i wneud apêl os na chewch gynnig lle yn ysgol eich dewis.

I weld y 7 gair o gyngor a'r animeiddiad ewch i:https://www.youtube.com/watch?v=4L9TC_a-RfA

Bydd y cyfnod ceisiadau am le mewn ysgolion cynradd yn dod i ben ddydd Llun 10 Ionawr, 2022.I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i:
www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion

 

Ymchwiliadau tir yn dechrau yn Argae Parc y Rhath

Rydym wedi dechrau'r gwaith o ymchwilio i dir Argae Parc y Rhath i sicrhau y gellir mwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel nawr ac yn y dyfodol.

Yn dilyn archwiliad rheolaidd (dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975), canfuwyd na fyddai'r gorlifan, sef y rhaeadr ger y caffi, yn ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai ddigwydd, yn ddamcaniaethol, ac felly mae angen gwelliannau.

Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Arup, ymgynghorwyr peirianneg blaenllaw, i gynnal astudiaeth i nodi'r opsiynau gorau i sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol. Derbyniwyd Caniatâd Adeilad Rhestredig yn ddiweddar ar gyfer y gwaith o ymchwilio i dir yr argae.

Bydd yr ymchwiliad tir yn cael ei gynnal dros y ddwy i dair wythnos nesaf ac oherwydd hyn bydd angen cau rhai rhannau o'r parc er mwyn gwneud y gwaith yn ddiogel. Bydd y promenâd ar draws yr argae ar gau yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd modd cael mynediad o'r ochr arall i'r parc o'r gogledd a'r de o'r promenâd.

Bydd rhannau eraill o'r parc ar gau am gyfnodau byrrach, gan gynnwys yr ardal chwarae a fydd ar gau am ddeuddydd, dydd Mawrth 16 i ddydd Iau 18Tachwedd, tra bydd y gwaith yn cael ei gwblhau.

Bydd y gwaith ymchwilio i'r tir yn cynnwys tyllau o wahanol feintiau a siapiau yn yr argae ac ar hyd y gorlifan fel y gellir astudio cyfansoddiad y ddaear.

Caiff rhai tyllau eu cloddio â llaw ac eraill gan beiriannau arbenigol. Ar ddiwedd y gwaith, bydd y tyllau'n cael eu lefelu a bydd yr arwyneb yn cael ei wneud i edrych fel y mae ar hyn o bryd.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27995.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (05 Tachwedd - 11 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

15 Tachwedd 2021, 09:00

 

Achosion: 2,056

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 560.4 (Cymru: 491.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,546

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,601.8

Cyfran bositif: 21.5% (Cymru: 19.2% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Tachwedd

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  833,774 (Dos 1: 385,780 Dos 2:  347,674 DOS 3: 5,501 Dosau atgyfnertha: 92,173)

 

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 01 Tachwedd

 

  • 80 a throsodd: 20,283 / 94.6% (Dos 1) 20,107 / 93.8% (Dos 2)
  • 75-79: 14,997 / 96.4% (Dos 1) 14,838 / 95.4% (Dos 2)
  • 70-74: 21,410 / 95.8% (Dos 1) 21,277 / 95.2% (Dos 2)
  • 65-69: 21,978 / 94.3% (Dos 1) 21,732 / 93.3% (Dos 2)
  • 60-64: 26,081 / 92.4% (Dos 1) 25,756 / 91.3% (Dos 2)
  • 55-59: 29,440 / 90.4% (Dos 1) 28,942 / 88.8% (Dos 2)
  • 50-54: 29,117 / 88.1% (Dos 1) 28,484 / 86.2% (Dos 2)
  • 40-49: 55,646 / 82% (Dos 1) 53,799 / 79.3% (Dos 2)
  • 30-39: 61,330 / 76.1% (Dos 1) 57,569 / 71.5% (Dos 2)
  • 18-29: 81,552 / 77.3% (Dos 1) 73,189 / 69.5% (Dos 2)
  • 16-17: 4,057 / 74.2% (Dos 1) 324 / 5.9% (Dos 2)
  • 12-15: 12,829 / 48.2% (Dos 1)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,119 / 98.2% (Dos 1) 2,094 / 97.1% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,252 / 94.5% (Dos 1) 11,055 / 92.8% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,948 / 90.3% (Dos 1) 44,408 / 87.2% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15): 573 / 58.2% (Dos 1)