Back
Parc Bute yn bownsio'n ôl diolch i ysbryd cymunedol

19.11.2021

Yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr ar Dydd Sul 5 Rhagfyr, rydym am ddathlu gwirfoddolwyr Parc Bute a grwpiau Cyfeillion sydd wedi bod yn brysur yn gweithio'n galed i wneud y parc yng nghanol dinas Caerdydd yn fwy diogel ac yn lanach i drigolion ac ymwelwyr.

Ailagorodd cyfleoedd gwirfoddoli yn y parc yn yr haf ar ôl bwlch dros dro yn unol â chanllawiau diogelwch y llywodraeth.

Ers mis Gorffennaf, mae 53 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i roi yn ôl mewn amrywiaeth o rolau o gadw gwenyn i blannu bylbiau, plannu planhigion i gyhoeddusrwydd y parc a chreu basgedi crog neu gasglu sbwriel.

I ddathlu, rydyn ni'nrhannu straeon gwirfoddolwyr Parc Bute bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'nsianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch #GweithioDrosGaerdydd a #GwirfoddolwyrParcBute

Mae Parc Bute yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli gan gynnwys cyfleoedd yn y blanhigfa, sesiynau cadwraeth, blaen tŷ yn y Ganolfan Ymwelwyr, digwyddiadau addysg, digwyddiadau grŵp corfforaethol a chasglu sbwriel.

Diwrnod ym Mywyd Gwirfoddolwr - Ginny

Ar ôl bron i flwyddyn yn gwirfoddoli ar benwythnosau ym Mhlanhigfa Parc Bute, hysbysebwyd tair swydd hyfforddai garddwriaeth  drwy Gyngor Caerdydd, un ohonynt yn y blanhigfa.  Ymgeisiais ac yn ffodus i mi, cefais fy newis o blith 30 o ymgeiswyr a gafodd gyfweliad.

Rydw i nawr ar bedwaredd flwyddyn a blwyddyn olaf fy hyfforddeiaeth, wedi cwblhau cymwysterau RHS lefel 2 ac wrthi'n astudio ar gyfer HND mewn garddwriaeth.

Gan weithio ochr yn ochr â'n tîm o feithrinwyr planhigion profiadol a brwd, mae fy nghyfrifoldebau yn amrywiol iawn: O luosogi planhigion llysiau ar gyfer prosiectau cymunedol i greu basgedi crog ar gyfer arddangosiadau yng nghanol y ddinas, nid yw'r gwaith byth yn ddiflas! Yn arbennig, mwynheais weithio'n agos gyda rhai o'n gwirfoddolwyr ymroddedig a gwych a gweld eu sgiliau yn datblygu a thyfu drwy rannu ein diddordeb mewn planhigion.

Mae lluosogi planhigion yn rhan hudolus a chyffrous o'm gwaith ym Mhlanhigfa Parc Bute. Mae bob amser rhywbeth newydd i'w ddysgu a phlanhigion anarferol i'w darganfod . Rydw i'n ymfalchïo yn y gwaith o siarad â'r cyhoedd am y gwaith a wneir gennym yma a rhannu gwybodaeth am blanhigion gyda'n cwsmeriaid yn Siop y Blanhigfa.

Pam wnaethoch ddewis i wirfoddoli gyda Pharc Bute?

Rwy'n mwynhau bod yn actif ac yn dwlu ar fod â natur o'm cwmpas

Hefyd rwy'n ei weld yn ymlaciol iawn i fod yng nghanol planhigion a choed. ac mae'n therapiwtig i mi fynd i'r blanhigfa.

Sut glywsoch chi am y rôl?

Ni ddigwyddodd mewn ffordd gonfensiynol.Un diwrnod, cerddais i mewn i Ganolfan Addysg Parc Bute a gofyn a oedd unrhyw bosibiliadau o wirfoddoli gyda Phlanhigfeydd Parc Bute.Yn ffodus, roedden nhw'n chwilio am wirfoddolwyr ar y pryd ac roedden nhw'n croesawu unrhyw un newydd.Siaradais i â Meriel, sef Swyddog Addysg Parc Bute, ac ymhen dim llwyddais i gwrdd â phawb arall yn y Planhigfeydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ym Mharc Bute, cysylltwch â'rSwyddog Addysg ar 029 2078 8403 neu e-bostiwch  parcbute@caerdydd.gov.ukneu ewch i'r wefan  www.parc-bute.com/gwirfoddoli