Back
Dadorchuddio cofeb ym Mynwent Cathays i ŵr o Gaerdydd a oroesodd y ‘Charge of the Light Brigade'

23.11.2021

A tombstone in a graveyardDescription automatically generated with medium confidence

Dadorchuddiwyd cofeb arbennig ym Mynwent Cathays heddiw i anrhydeddu John Henry Harding o drydydd catrawd ar ddeg y Dragwniaid Ysgafn, a gymerodd ran yng Nghyrch y Frigâd Ysgafn.

Roedd bodolaeth y bedd yn hysbys ers peth amser ond dim ond croes bren fechan wedi dirywio dros amser, oedd yn ei nodi.

Cysylltodd Martin Berkeley, swyddog wedi ymddeol o'r Dragwniaid Ysgafn, â Chyfeillion Mynwent Cathays, i weld a fyddai modd darparu cofeb fwy addas.

Ymrestrodd Harding, brodor o Ynys Wydrin (Glastonbury), yng Nghaerfaddon yn 1850 yn 19 mlwydd oed ac fe wasanaethodd yn y fyddin am fwy na 12 mlynedd gan gymryd rhan ym mhob un o'r pedair prif frwydr yn Ymgyrch Crimea.

Yn 1870 ymgartrefodd yng Nghaerdydd, gan ddod yn drwyddedai'r Gardeners Arms ar Heol y Plwca, a ail-enwodd yn Military Canteen, ac yn ddiweddarach ymgymrodd â sefydliad tebyg yn Wyverne Road, Cathays. Bu farw'n dlawd yn 1886 ond cafodd angladd drawiadol gyda'r osgordd yn cael ei harwain gan tua 70 o filwyr o'r Gatrawd Gymreig.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:"Mae mis Tachwedd yn fis pan fyddwn yn cael ein hatgoffa i fyfyrio ar yr aberth a wnaed gan y dynion a'r menywod niferus mewn rhyfeloedd.

"Mae'n deyrnged briodol i John Henry Harding i nodi ei wasanaeth pwysig yn ystod un o'r digwyddiadau milwrol mwyaf adnabyddus mewn hanes, yn ystod y mis hwn o gofio."

Dywedodd Tim Hill, gor-gor-ŵyr John Harding, ac un o nifer o ddisgynyddion: "Roedd fy mam bob amser yn sôn am gyswllt teuluol â Chyrch y Frigâd Ysgafn, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y cyswllt hwnnw. Dim ond pan ddechreuais ymchwilio i hanes y teulu y cefais wybod mai ef oedd fy hen hen dad-cu a lle cafodd ei gladdu.

"Mae'r teulu wrth eu bodd ei fod bellach yn cael ei anrhydeddu â charreg fedd."

Dwedodd John Farnhill, Trysorydd Cyfeillion Mynwent Cathays: "Mae Cyfeillion Mynwent Cathays yn falch iawn o fod yn rhan o ddadorchuddio'r garreg arwyddocaol hon. Dywedir mai Mynwent Cathays yw hanes Caerdydd ar garreg a bod gan bob carreg stori i'w hadrodd.

"Bydd y gofeb hon i John Henry Harding nid yn unig yn cadw ei stori a'r cof amdano a oedd mewn perygl o gael eu colli, ond bydd hefyd yn cysylltu Caerdydd ag un o ddigwyddiadau milwrol mwyaf adnabyddus y bedwaredd ganrif ar bymtheg - Rhuthr y Frigâd Ysgafn neu'r Charge of the Light Brigade."

Trefnwyd y digwyddiad gan John Farnhill ynghyd â Martin Berkeley a disgynyddion John Harding, gyda chefnogaeth lawn Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd a Seiri Maen Mossfords Monumental. 

Dadorchuddiwyd y gofeb i John Henry Harding ym Mynwent Cathays ddydd Mawrth, 23 Tachwedd a mynychwyd y seremoni gan yr Arweinydd; y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd,y Cynghorydd Rod McKerlicha'r Cadeirydd,Lord Lt Morfudd Meredith, Tim Hill a disgynyddion a theulu John Henry Harding aMartin Berkeley, swyddog wedi ymddeol o'r Dragwniaid Ysgafn,John Farnhill, a chynrychiolwyr o Gyfeillion Mynwent Cathays.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyfeillion Mynwent Cathays:www.cathayscemetery.coffeecup.com