Back
Diwrnod ym Mywyd Gwirfoddolwr – Rachael

26.11.2021

A person holding a cameraDescription automatically generated

Yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr ddydd Sul 5 Rhagfyr, mae Parc Bute yn dathlu ei wirfoddolwyr, sydd wedi bod yn brysur yn gweithio'n galed i wneud parc canol dinas Caerdydd yn fwy diogel a glanach i drigolion ac ymwelwyr.

I ddathlu,rydym yn rhannu straeon gwirfoddolwyr Parc Bute bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch am yr hashnodau #GweithioDrosGaerdydd a #GwirfoddolwyrParcBute

Gwirfoddolodd Rachael fel ffotograffydd digwyddiadau a Pharc Bute wrth astudio Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru.
 

Pam wnaethoch ddewis gwirfoddoli gyda Pharc Bute?

Ymunais i ddechrau am fy mod yn mwynhau tynnu lluniau o fyd natur.Ond, ar ôl dechrau tynnu lluniau o bobl ar gyfer y parc, dechreuais ffafrio hynny.Mae'n fy ngalluogi i wneud ffotograffiaeth heb iddo fod yn waith cwrs ac yn gyffredinol mae'n braf cael dianc o waith y brifysgol am ychydig.Mae'n rhyddhad rhag straen ac rwy'n hoff o'r ffaith y gallaf helpu allan.Gan fy mod i'n arfer helpu allan gyda grŵp geidiau gartref, roedd hefyd yn teimlo fel y peth iawn i wneud.

Sut glywsoch chi am y rôl?

Ymunais gyntaf fel rhan o broject prifysgol oedd gan y parc gyda Phrifysgol De Cymru yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Wedi hynny fe gysylltodd Meriel â'r brifysgol a dweud y carai hi gael myfyrwyr sy'n ffotograffwyr i dynnu lluniau o'r parc ac o ddigwyddiadau'r Ganolfan Addysg.Mi wnes hefyd wythnos ar leoliad gwaith yn y parc a chydweithio gyda Meriel.Cododd y lleoliad awydd ynof i barhau i wirfoddoli ar ddiwedd y lleoliad gwaith.

A oes hoffter gennych at dynnu llun o rai pethau?

Cyn gwirfoddoli yn y parc, doeddwn i ddim yn hoff o dynnu lluniau o wynebau pobl, ond erbyn hyn mae'n well gennyf hynny.Mae wynebau yn mynegi cymaint ac yn ddiddorol i edrych arnynt.Rwy'n hoff hefyd o dynnu lluniau yn yr awyr agored, mae'n teimlo'n llai ymwthgar tra bod y plant yn gallu bwrw iddi.Prin iawn fyddan nhw'n sylwi arnaf yn dal yr eiliad, sy'n creu rhai delweddau hyfryd.Mae hwyl i'w gael hefyd yn tynnu lluniau o gymysgedd o bobl, plant ac oedolion, yn enwedig pan fo rhieni yn ymuno yn y gweithgareddau megis y rhai dros hanner tymor.

Beth rydych chi'n ei fwynhau fwyaf am wirfoddoli?

Mae'n braf gallu cynnig rhywbeth yn ôl i'r gymuned, fy lluniau i yn yr achos hwn.Mae hefyd yn braf gweld fy lluniau yn cael eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol, ar wefan y parc ac ar faneri a phosteri.Mae'n gwneud i mi deimlo fy mod yn cyfrannu at y cyfan ac yn rhan ohono.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ym Mharc Bute, cysylltwch â'rSwyddog Addysg ar 029 2078 8403 neu e-bostiwch  parcbute@caerdydd.gov.ukneuewch i'r wefan  www.parc-bute.com/gwirfoddoli