Back
Canopi Gwyrdd y Frenhines yn cyhoeddi Caerdydd fel Dinas Hyrwyddo


29.11.2021

LogoDescription automatically generated with medium confidence

Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Coed hon (27 Tachwedd tan 5 Rhagfyr), bydd Caerdydd yn dathlu ennill statws Dinas Hyrwyddo dan gynllun mawreddog Canopi Gwyrdd y Frenhines.

Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter unigryw i ddathlu Jiwbilî Platinwm ei Mawrhydi yn 2022 drwy wahodd pobl ledled y Deyrnas Unedig i "Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî".

Gyda ffocws ar blannu'n gynaliadwy, bydd Canopi Gwyrdd y Frenhines yn annog plannu coed i greu etifeddiaeth i anrhydeddu arweinyddiaeth y Frenhines o'r Genedl, a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod Caerdydd, ynghyd â dinasoedd Belfast, Manceinion, Bradford, Caerlŷr, Newcastle, Caeredin, Southampton, Preston, Efrog, Glasgow, Abertawe, a Chaer wedi llwyddo i ennill statws Dinas Hyrwyddo dan Fenter Canopi Gwyrdd y Frenhines."

"Rydym yn ddinas o goed ac mae dyfarnu'r statws hwn i Gaerdydd yn cydnabod ansawdd stoc goed y Cyngor, ei phwysigrwydd i'n dinas ac yn cefnogi ein cynllun uchelgeisiol i gynyddu ein canopi coed ar draws y ddinas dan brosiect Coed Caerdydd."

Mae Strategaeth Un Blaned y Cyngor yn cynnwys nod o gynyddu'r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030. Er mwyn gwneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o'r enw Coed Caerdydd.  Darllenwch fwy yma:  www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/