Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 30 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Canopi Gwyrdd y Frenhines yn cyhoeddi Caerdydd fel Dinas Hyrwyddo; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Canopi Gwyrdd y Frenhines yn cyhoeddi Caerdydd fel Dinas Hyrwyddo

Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Coed hon (27 Tachwedd tan 5 Rhagfyr), bydd Caerdydd yn dathlu ennill statws Dinas Hyrwyddo dan gynllun mawreddog Canopi Gwyrdd y Frenhines.

Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter unigryw i ddathlu Jiwbilî Platinwm ei Mawrhydi yn 2022 drwy wahodd pobl ledled y Deyrnas Unedig i "Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî".

Gyda ffocws ar blannu'n gynaliadwy, bydd Canopi Gwyrdd y Frenhines yn annog plannu coed i greu etifeddiaeth i anrhydeddu arweinyddiaeth y Frenhines o'r Genedl, a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod Caerdydd, ynghyd â dinasoedd Belfast, Manceinion, Bradford, Caerlŷr, Newcastle, Caeredin, Southampton, Preston, Efrog, Glasgow, Abertawe, a Chaer wedi llwyddo i ennill statws Dinas Hyrwyddo dan Fenter Canopi Gwyrdd y Frenhines."

"Rydym yn ddinas o goed ac mae dyfarnu'r statws hwn i Gaerdydd yn cydnabod ansawdd stoc goed y Cyngor, ei phwysigrwydd i'n dinas ac yn cefnogi ein cynllun uchelgeisiol i gynyddu ein canopi coed ar draws y ddinas dan brosiect Coed Caerdydd."

Mae Strategaeth Un Blaned y Cyngor yn cynnwys nod o gynyddu'r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030. Er mwyn gwneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o'r enw Coed Caerdydd.  Darllenwch fwy yma:www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/

Bydd Canopi Gwyrdd y Frenhines yn cynnal digwyddiadau maes o law i ddathlu pob Dinas Hyrwyddo. Bydd rhagor o fanylion am Gaerdydd yn cael eu cyhoeddi yn nes at yr amser.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (19 Tachwedd - 25 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

29 Tachwedd 2021, 09:00

Achosion: 1,760

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 479.7 (Cymru: 472.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,661

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,633.1

Cyfran bositif: 19.3% (Cymru: 16.9% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 25 Tachwedd

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  870,573 (Dos 1: 387,670 Dos 2:  349,628 DOS 3: 6,192 Dosau atgyfnertha: 127,040)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 23 Tachwedd

 

  • 80a throsodd: 20,198 / 94.7% (Dos 1) 20,044 / 94% (Dos 2 a 3) 16,756 / 83.6% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,980 / 96.5% (Dos 1) 14,853 / 95.6% (Dos 2 a 3) 12,596 / 48.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,408 / 95.8% (Dos 1) 21,294 / 95.3% (Dos 2 a 3) 18,626 / 87.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 21,994 / 94.4% (Dos 1) 21,763 / 93.4% (Dos 2 a 3) 16,006 / 73.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,117 / 92.5% (Dos 1) 25,792 / 91.3% (Dos 2 a 3) 15,440 / 59.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,453 / 90.4% (Dos 1) 28,978 / 89% (Dos 2 a 3) 8,647 / 29.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,150 / 88.2% (Dos 1) 28,542 / 86.4% (Dos 2 a 3) 5,375 / 18.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 55,759 / 82.1% (Dos 1) 54,028 / 79.6% (Dos 2 a 3) 7,902 / 14.6% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 61,649 / 76.4% (Dos 1) 58,107 / 72% (Dos 2 a 3) 6,674 / 11.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 82,348 / 77.8% (Dos 1) 74,161 / 70.1% (Dos 2 a 3) 6,152 / 8.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,128 / 74.9% (Dos 1) 364 / 6.6% (Dos 2 a 3) 28 / 7.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 14,948 / 54.2% (Dos 1) 220/0.8% (Dos 2 a 3)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal:2,107 / 98.4% (Dos 1) 2,086 / 97.4% (Dos 2 a 3) 1,779 / 85.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed:11,244 / 94.5% (Dos 1) 11,062 / 93% (Dos 2 a 3) 5,469 / 49.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:46,015 / 90.4% (Dos 1) 44,538 / 87.2% (Dos 2 a 3) 10,976 / 24.6% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:(12-15): 598 / 60.6% (Dos 1) 174 / 17.6% (Dos 2 a 3)

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.