Back
Datganiad gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Gwas

03/12/2021

Datganiad gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Caerdydd a Bro Morgannwg yn ymateb i'r Argyfwng Gofal Cenedlaethol

Beth sy'n digwydd a sut y gallwch chi helpu

 

Mae Caerdydd a Bro Morgannwg — fel gweddill y DU — yn wynebu galw digynsail am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.

 

Ar hyn o bryd, rydym yn gweld cynnydd o 30% yn nifer y bobl sydd angen gofal gartref, o'i gymharu â niferoedd cyn y pandemig.

 

Mae'r cynnydd enfawr hwn yn y galw - ochr yn ochr â phrinder gweithwyr gofal a staff gofal iechyd ledled y DU - yn arwain at oedi wrth ddarparu gofal ac yn atal cleifion rhag cael eu rhyddhau'n brydlon o ysbytai.

Nid yw cleifion sy'n ffit yn feddygol yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty mewn modd amserol, sy'n arwain at brinder gwelyau sylweddol ar draws safleoedd ysbytai. Mae hyn yn ei dro yn arwain at amseroedd aros hir am ambiwlans yn ein Huned Achosion Brys, sy'n golygu na all criwiau ambiwlans ymateb i alwadau 999 yn y gymuned, felly mae pobl yn aros yn hirach am ambiwlansys.

Mae ein darparwyr gofal, sydd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig, bellach yn ei chael hi'n anodd bodloni'r cynnydd yn y galw am ofal ac i ddod o hyd i'r staff i ymuno â'r sector.

Mae hyn i gyd yn golygu ein bod ni (Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) yn gorfod edrych ar wahanol ffyrdd o leddfu'r pwysau, helpu'r GIG, a darparu gofal i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

 

Mae timau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud popeth posibl i gefnogi pobl sy'n ddigon da i adael yr ysbyty ond sydd angen gofal parhaus. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae pecynnau iechyd a gofal amgen yn cael eu cynnig fel mesur tymor byr. Mae mwy o ofalwyr a staff iechyd hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi pobl mewn angen. Mae timau Gofal Cymdeithasol a phartneriaid yn y trydydd sector hefyd yn cefnogi pobl i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty yn y lle cyntaf fel bod gofal yn cael ei dderbyn yn nes at eu cartrefi.

 

Ond, ar hyn o bryd nid yw hyn i gyd yn ddigon o hyd, ac felly rydym yn galw arnoch i ymuno â ni ac i helpu i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ar yr adeg anodd hon.

Rydyn ni i gyd yn gwybod y byddai'n well gan gleifion beidio â threulio amser hir yn yr ysbyty a gall arosiadau hir fod yn niweidiol oherwydd gallai cleifion ddatgyflyru ac wynebu mwy o risg o gwympo a cholli annibyniaeth a hyder.  Mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty â phosibl nid yn unig yn well i gleifion ond bydd hefyd yn rhyddhau gwelyau hanfodol y GIG fel y gallwn barhau i ofalu am y rhai sydd ag anghenion gofal brys ac acíwt.

 

Rydym yn gofyn i bawb ystyried sut y gallent helpu 

 

Os oes gennych berthynas neu anwylyd yn yr ysbyty sy'n ffit yn feddygol ac yn ddigon iach i fynd adref, ond sy'n aros i gael ei ryddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch ei helpu i ddod adref yn gyflymach os ydych chi a'ch teulu mewn sefyllfa i'w gefnogi gartref. Drwy helpu ysbytai i ryddhau cleifion sy'n ffit yn feddygol yn gyflymach, bydd mwy o welyau acíwt ar gael ar gyfer y rhai sydd eu hangen.  Dylech wneud hyn dim ond os ydych yn teimlo eich bod yn gallu gofalu amdanynt am gyfnod a allai fod yn hir iawn.

Ydych chi neu aelod o'r teulu yn derbyn gofal a drefnir gan y Cyngor?

 

  • A oes gennych berthynas neu anwylyd sy'n derbyn gofal? Allech chi helpu i ddarparu gofal a chymorth? Gall hyn ryddhau gofal y mae mawr ei angen ar gyfer pobl eraill sy'n agored i niwed, nad oes ganddynt unrhyw gymorth. Efallai y byddwch yn gallu hawlio lwfans gofalwyr, gallwn eich helpu i hawlio'r lwfans hwn a chymorth ariannol arall.

 

  • A fyddech chi'n ystyried trefnu eich gofal eich hun, yn hytrach na defnyddio asiantaeth gofal? Oeddech chi'n gwybod bod 650 o bobl yng Nghaerdydd a 375 o bobl ym Mro Morgannwg eisoes yn cyflogi eu cynorthwyydd personol eu hunain i ddiwallu eu hanghenion gofal cymdeithasol gyda thaliad uniongyrchol. Gall eich cyngor drefnu cymorth a chefnogaeth i wneud i hyn ddigwydd, ac os oes gennych angen wedi'i asesu, mae cyllid ar gael hefyd.

 

Allech chi ddod yn weithiwr gofal neu wirfoddoli eich amser i gefnogi eraill?

 

  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn weithiwr gofal?Lansiodd Cyngor Caerdydd Academi Gofal Caerdydd yn ddiweddar, a all gynnig hyfforddiant a chefnogaeth, ac mae 42 o bobl wedi cofrestru ers i'r gwasanaeth ddechrau ym mis Hydref. Allech chi ymuno â nhw a dechrau gyrfa newydd mewn gofal? Ym Mro Morgannwg, bydd y rhaglen Llwybr Carlam i Ofal yn recriwtio staff newydd cyn bo hir ar gyfer dyddiadau dechrau ym mis Ionawr. Os ydych chi'n meddwl am newid gyrfa, ni fu erioed amser gwell i ystyried gweithio yn y maes gofal.

 

  • Oes gennych chi brofiad blaenorol mewn gofal? A allech ddychwelyd at ddarparu gofal i helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn? Unwaith eto, gall Academi Gofal Caerdydd a'r rhaglen Llwybr Carlam i Ofal eich helpu. Gallech ddechrau eich swydd newydd o fewn wythnosau.

 

  • Allech chi wirfoddoli i gefnogi person hŷn yn eich cymuned? Gallai gwneud rhywbeth mor syml â siopa neu eistedd gyda rhywun tra bod ei ofalwr yn cael seibiant haeddiannol wneud cymaint o wahaniaeth. Yn union fel y gwnaethom yn ystod uchafbwynt y pandemig, rydym yn gofyn i bawb sy'n gallu, i ddodat ei gilydda helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae'r ddau gyngor yn gweithio gydag ystod o bartneriaid trydydd sector i baru gwirfoddolwyr â rhywun sydd angen cymorth. Ymunwch â ni heddiw.

 

 

Os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd ac yn meddwl y gallwch chi helpu, cysylltwch â Llinell Gyngor Cyngor Caerdydd ar 029 2087 1071 neu ewch i intoworkcaerdiff.co.uk neu e-bostiwchcardiffcaresacademy@cardiff.gov.uk

 

Dylai unrhyw un a hoffai wirfoddoli ym Mro Morgannwg gysylltu â Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg. Byddant yn helpu gwirfoddolwyr i ddod o hyd i'r lleoliad gorau ar eu cyfer. Gall pobl gofrestru eu diddordeb ynwww.gvs.wales. Mae gan Age Concern hefyd restr aros o bobl hŷn yn y Fro sy'n chwilio am gymorth. Dylai unrhyw un sy'n barod i helpu gyda'u gwaith yn y gymuned gysylltu âHelen.prior@ageconnectscardiff.org.ukneu ffonio 02922 400030.

 

Beth arall allwch chi ei wneud i helpu?

Er ein bod o dan y pwysau eithafol hwn, byddem hefyd yn gofyn i'r cyhoedd ein helpu ni i'ch helpu chi a defnyddio'r gwasanaeth priodol drwy ffonio CAF24/7 os nad yw'n bygwth bywyd nac aelodau o'r corff, defnyddio gwirwyr symptomau ar-lein GIG 111 Cymru, neu ddefnyddio eich fferyllfa gymunedol am fân salwch a chyngor. Bydd hyn unwaith eto yn sicrhau bod lleoliadau acíwt yn gallu trin y cleifion mwyaf sâl.

 

YN OLAF

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar les, iechyd a gofal cleifion a'r boblogaeth leol. Mae staff mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio'n ddiflino i gefnogi a thrin cleifion. 

Rydym yn gwerthfawrogi bod y rhain yn amseroedd heriol i ni i gyd a thrwy weithio gyda'n gilydd a chefnogi ein gilydd, gallwn oresgyn hyn.

Mae hyn hefyd yn amser i atgoffa pawb i fod yn garedig. Ni fydd camdriniaeth ac ymddygiad ymosodol tuag at staff iechyd, gweithwyr ambiwlans na staff gofal cymdeithasol yn cael eu goddef ac ni fydd y math hwn o ymddygiad yn golygu y caiff pobl eu gweld yn gyflymach. Cofiwch fod ein staff hefyd yn fodau dynol, maent hefyd yn haeddu cael eu trin gyda charedigrwydd a thosturi.

Diolch am ddarllen. Os gallwch chi helpu, gwnewch hynny heddiw.