Back
Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd – Cwestiynau Cyffredin

06.12.2021

Cyflwyniad:

Yn ddiweddar, mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno ei weledigaeth i gwblhau'r gyrchfan hamdden yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd. 

Ymhlith pethau eraill, roedd y weledigaeth hon yn cynnwys cynigion ar gyfer cyfleusterau beicio newydd a gwell, gan gynnwys Felodrom awyr agored 333m, Canolfan Berfformiad bwrpasol, Cylchffordd Gaeëdig 1km, Trac BMX Awyr Agored a siop Feiciau fformat mawr ar y safle.

Mae'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon wedi'i pharatoi i ymateb i ymholiadau diweddar. Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru wrth i fwy o gwestiynau gael eu gofyn er mwyn sicrhau cysondeb o ran ymateb a thryloywder wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.

 

1: Cwestiwn: Pam rydych chi'n symud y Felodrom o'r safle ym Maendy? 

Mae'r Cyngor wedi bod yn ystyried opsiynau i gwblhau'r gyrchfan hamdden yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Credir bod darparu clwstwr o gyfleusterau beicio modern yn gyfle gwych i gefnogi twf chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac yn rhoi lle gwych i breswylwyr ac ymwelwyr fynd i fwynhau eu hunain.

Mae prosiect Ysgol Uwchradd Cathays yn rhoi cyfle i gyfleuster trac newydd gael ei gyflwyno yn y Flwyddyn Newydd, gan ddod ag ystod ehangach o gyfleoedd trac beicio i'n prifddinas.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y cynnig i ehangu ac ailddatblygu'r ysgol rhwng mis Ionawr a chanol mis Mawrth 2021. Mae manylion yr ymgynghoriad sy'n nodi'r rhesymeg dros y newidiadau arfaethedig, gwybodaeth am ble rydym ni yn y broses a'r hyn fydd yn digwydd nesaf i'w gweld ar wefan y Cyngor yn www.caerdydd.gov.uk/cynigionysgoluwchraddcathays

 

2: Cwestiwn: A fydd y Felodrom newydd ar gyfer pawb neu'r Maindy Flyers yn unig?

Maindy Flyers yw clwb preswyl y Felodrom presennol, felly mae angen adleoli'r clwb yn ogystal â disodli'r Felodrom ei hun a'i wasanaethau cysylltiedig (lles, storio ac ati). Fodd bynnag, nid at ddefnydd un clwb yn unig fydd y Felodrom newydd. Diben y cyfleuster yw parhau i gefnogi datblygiad y gamp a chynnig gwell cyfleoedd i feicwyr ar bob lefel, sy'n cynnwys beicwyr newydd, grwpiau hamdden, clybiau, cyrff llywodraethu a defnyddwyr unigol.

 

 

3: Cwestiwn: Pam mae'r felodrom newydd yn mesur 333m, pan fo'r un ym Maendy yn 460m?

Dros y misoedd diwethaf, mae Cyngor Caerdydd wedi ymgysylltu ag arbenigwyr technegol o bob rhan o'r gymuned feicio i ffurfio Gweithgor Technegol, gan gynnwys:

        British Cycling

        Beicio Cymru

        Comisiwn Trac British Cycling a Beicio Cymru

 Ynghyd â chynrychiolwyr cymwys mewn perthynas â:

        Hyfforddi (datblygiad a pherfformiad)

        Swyddogion Digwyddiadau a Rasio

        Iechyd a Diogelwch a Rheoli Risg

Mae'r ymgysylltu hwn wedi bod yn allweddol wrth gyfrannu at ddyluniadau rhagarweiniol y Felodrom a'r Gylchffordd Gaeëdig newydd i sicrhau bod y cyfleuster, cyn belled ag y bo modd, yn bodloni anghenion a disgwyliadau ei ddefnyddwyr ac yn cydymffurfio â'r manylebau a argymhellir gan y Corff Llywodraethu.

 

Bydd y felodrom newydd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn felodrom awyr agored. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r felodromau awyr agored yn y DU ddegawdau lawer yn ôl, dim ond 3 felodrom awyr agored a adeiladwyd yn y DU yn ystod ganrif hon ac maent i gyd yn llai o ran maint.

 

Adeiladwyd felodromau awyr agored yn gyffredin o amgylch y tu allan i draciau rhedeg ac roedd eu hyd i fod i hwyluso'r digwyddiad rasio 500 llath.  Nid oes gwir gysondeb yn eu mesuriadau ar draws cyfleusterau, ond yn gyffredinol maent o gwmpas 500 llath.  Mae trac Maindy yn 459.37m, felly dim ond ychydig dros 500 llath.  Erbyn hyn, mesurir rasys ar ffurf fetrig, nid imperial, felly'r fanyleb fodern ar gyfer felodromau awyr agored newydd fel y'u diffinnir gan y Corff Llywodraethu yw bod yn rhaid rhannu pob trac yn 1000m i gefnogi'r digwyddiad Kilo modern. 

 

Felly, dim ond 5 maint trac y mae'r canllawiau'n eu cydnabod:

  • 166.66m
  • 250m
  • 333.33m
  • 400m
  • 500m

 

Felly, ni all y cyfleuster newydd fod yn 460m - ni fyddai'n cydymffurfio.

 

Er bod y corff llywodraethu'n cydnabod bod y meintiau trac uchod yn cydymffurfio â manylebau modern, ei ddyhead yw y dylai pob cyfleuster awyr agored newydd anelu at faint o 333m.  Mae hyn er mwyn annog cysondeb ledled y DU a hefyd oherwydd y bydd gan y meintiau llai yn yr awyr agored fanciau sy'n rhy serth i fod yn hygyrch a bydd y tywydd yn effeithio arnynt yn fwy.  Hy: bydd tywydd gwlyb yn effeithio ar allu pobl i reidio ar y traciau.

Mae angen ôl troed sylweddol o dir ar draciau 400 a 500m yn ogystal â'r traciau eu hunain.

Ystyrir bod 333m yn faint sy'n gallu darparu ar gyfer pob lefel o allu a darpariaeth (cymunedol i berfformio a chystadlu) ac mae hefyd yn well o ran helpu beicwyr i symud ymlaen i reidio ar drac 250m dan do nac y byddai trac 400 neu 500m yn ei wneud.

Yn ogystal, y rheswm na allwn adeiladu trac 400m yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yw oherwydd na fydd cyfyngiadau'r safle yn ein galluogi i wneud hynny. Ni fydd yn ffitio.  Mae cyfyngiadau'n ymwneud â'r lefelau, y coetir anaeddfed a hefyd dibyniaethau sy'n ymwneud ag adfywio'r safle cyfan yn ehangach.

 

4: Cwestiwn:Mae angen banciau serthach ar drac 333m - ydy hyn yn golygu y bydd y trac newydd yn cael ei gyfyngu i feiciau trac (olwynion sefydlog) yn unig?

Nac ydy. Bydd y Felodrom 333m yn cael ei adeiladu i fanyleb sy'n gymesur ag anghenion ei defnyddwyr ac yn unol â'r defnydd a fwriedir o'r cyfleuster. Geometreg gyfan y trac a ystyrir, nid un ongl yn unig. Bwriedir i'r Felodrom barhau i roi cyfle i feicio ar bob lefel, sy'n cynnwys beicwyr newydd a'r rhai ar feiciau ffordd yn ogystal â beicwyr trac cystadleuol ac athletwyr perfformio. Felly, bydd dyluniad manwl y trac yn ystyried y gofynion hyn.

 

5. Cwestiwn: Mae trac llai yn golygu llai o gapasiti, sut y gellir cynnal y sesiynau sy'n cael eu cynnal ym Maendy ar hyn o bryd ar y trac newydd os yw'r asesiad risg yn gofyn am lai o gapasiti?

Mae pob felodrom awyr agored bresennol yn wahanol o ran maint a geometreg, felly ni all fod asesiad risg safonol sy'n gosod capasiti ar draciau awyr agored.  Bydd y Corff Llywodraethu yn cwblhau asesiadau risg ar gyfer yr holl gyfleusterau ar gyfer cystadlu, a bydd hyn yn cynnwys capio nifer y beicwyr ar gyfer digwyddiadau cystadleuol penodol yn dibynnu ar oedran/math y beic ac ati. 

Pennir capasiti o ran beicwyr ar gyfer hyfforddiant gan asesiadau risg yr unigolyn neu'r sefydliad sy'n cyflwyno'r sesiwn.  Gan y gall sesiwn amrywio o ran cynnwys, oedran a gallu beicwyr, mater i'r hyfforddwyr/clybiau ac ati yw sicrhau bod pob sesiwn yn cael ei hategu gan asesiad risg sy'n addas i'r sesiwn sy'n cael ei chyflwyno.

 

 

 

 

6: Cwestiwn: Sut byddwch chi'n sicrhau bod y datblygiad newydd yn addas at y diben?

Bydd y Gweithgor Technegol yn cefnogi'r prosiect i gynllunio a datblygu'r cyfleusterau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl fanylebau iechyd a diogelwch a rheoli risg sy'n berthnasol i gyfranogiad ar bob lefel:

        Beicio hamdden anffurfiol

        Hyfforddiant gyda hyfforddwr/heb hyfforddwr

        Cystadlu

Adolygir cynrychiolaeth yn y grŵp hwn wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen a bydd cynrychiolaeth ehangach yn cael ei chynnwys wrth i'r angen am ymgysylltu manylach godi. Bydd Tîm y Prosiect yn parhau i ymgysylltu'n agos â'r Gweithgor Technegol ar elfennau dylunio, datblygu a gweithredol y cynllun.

 

7: Cwestiwn: A fydd cyfnod o amser pan na fydd cyfleuster felodrom ar gael?

Nid yw hynny'n fwriad gennym. Yr amserlen a nodir ar gyfer cyflwyno'r Felodrom newydd yw iddo fod yn weithredol erbyn diwedd 2022, rywbryd cyn y bydd datblygiad Ysgol Uwchradd Cathays yn mynd i'r safle ym Maendy. Yr ymrwymiad yw na chaiff y Felodrom ar y safle ym Maendy ei hadleoli nes y bydd yr un newydd yn weithredol.

 

8: Cwestiwn: Os bydd rhaid i mi yrru i ddefnyddio'r cyfleuster newydd, a fyddaf yn gallu parcio fy nghar? Beth am leoedd parcio i gartrefi modur a cherbydau mawr eraill ar gyfer digwyddiadau?

Mae ymrwymiad i greu mannau parcio ar gyfer yr holl gyfleusterau yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Mae'r uwchgynllun yn cynnwys creu digon o fannau parcio ar gyfer y cynnydd mewn cyfleusterau a phresenoldeb o fewn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd angen i'r mannau parcio a fydd ar gael fod yn ddigon mawr ar gyfer cerbydau mwy a cherbydau sy'n cario offer chwaraeon fel beiciau a chaiacau. Mae'r prosiect yn cydweithio ag adrannau eraill y Cyngor gan gynnwys trafnidiaeth i wella cysylltiadau i'r pentref chwaraeon ac oddi yno.

 

9: Cwestiwn: A fydd sesiynau 'dysgu beicio' ar gael o hyd ar gyfer fy mhlentyn?

Mae'r strategaeth weithredu ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wrthi'n cael ei datblygu gyda'r nod o gynyddu darpariaeth. Y bwriad yw cynnig darpariaeth ar bob lefel a bydd yn cynnwys mynediad i sesiynau 'dysgu beicio' a sesiynau eraill a allai fod o ddiddordeb i'r gymuned feicio gyffredinol.

 

 

10:  Cwestiwn: A fyddaf yn dal i allu mynd i'r ganolfan a beicio ar fy mhen fy hun?

Mae'r strategaeth weithredu ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wrthi'n cael ei datblygu ar hyn o bryd gyda'r nod o gynyddu darpariaeth. Y bwriad yw darparu ar bob lefel a bydd yn cynnwys cyfleoedd i bobl 'dalu i reidio' yn ogystal â threfnu sesiynau mewn blociau.

 

11. Cwestiwn: A fydd fy nghlwb yn gallu trefnu amser ar y trac?

Mae'r strategaeth weithredu ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wrthi'n cael ei datblygu gyda'r nod o gynyddu darpariaeth. Y bwriad yw darparu ar bob lefel a bydd yn cynnwys opsiwn trefnu sesiynau ar gyfer hyfforddwyr, grwpiau a chlybiau. 

 

12. Cwestiwn: A fydd toiledau ac ystafelloedd newid?

Cydnabyddir y bydd adleoli'r trac o'i safle presennol yn gofyn am ystyried y gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael drwy'r ganolfan hamdden. Felly, bydd y prosiect yn datblygu 'Hwb Perfformiad' pwrpasol a fydd yn cynnig cyfleusterau lles a darpariaeth ychwanegol, fel gofod stiwdio y gellir ei gadw a mannau storio. Bydd rhan o'r adeilad hefyd yn cael ei ddefnyddio i adleoli'r Maindy Flyers.

 

13: Cwestiwn: Beth am gymorth cyntaf?

Bydd yn yr Hyb Perfformiad ystafell driniaeth cymorth cyntaf. Mae'r strategaeth weithredu wrthi'n cael ei datblygu ar hyn o bryd, a bydd trafodaethau'n cynnwys cynnig cymorth cyntaf ymateb cyntaf. Ni fydd gofynion y Corff Llywodraethu o ran cyfrifoldebau cymorth cyntaf ar ochr y trac ac ati yn newid.

 

14: Cwestiwn: A fydd cynllun y gylchffordd gaeëdig yn creu her i farsialiaid a hyfforddwyr oherwydd na ellir gweld ar draws y gylchffordd gyfan?

Mae pob cylchffordd gaeëdig yn achosi heriau tebyg. Dibynnir ar wirfoddolwyr/hyfforddwyr/marsialiaid i chwarae rhan mewn sesiynau a digwyddiadau hyfforddi lle mae'r cylchffyrdd hyn yn cydbwyso'r fantais o fod yn rhydd o draffig ac wedi'u ffurfweddu i roi cyfle i feicwyr ddatblygu eu sgiliau trwy reidio cylchffordd dechnegol, â'r angen am farsialiaid ychwanegol. Fel arfer, byddai'r prif ofynion yn cael eu nodi yn yr asesiad risg.

Mae'r Prosiect yn ymgysylltu â chyrff llywodraethu cenedlaethol, clybiau a grwpiau i drafod y cynllun yn fanylach. Y bwriad ar gyfer y gylchffordd yw iddi fod yn ddi-draffig ac yn ddi-dor. Bydd lefelau'r tir a'r uwchgynllun ehangach yn galluogi hyn gyda rhywfaint o gynllunio gofalus.

Mae'r gwaith ymgysylltu â defnyddwyr wedi galluogi'r dyluniad lefel uchel i symud ymlaen i gynnwys un ddolen lawn ychwanegol i gynnig dewis o lwybrau i ddefnyddwyr.

 

15 Cwestiwn: Bydd symud y felodrom 4.3km o'i leoliad presennol yn golygu y bydd disgwyl i bobl reidio ymhellach i fynychu sesiynau. Bydd hyn yn golygu reidio beiciau ag olwynion sefydlog ar y briffordd sy'n anghyfreithlon.

I reidio beic ar y briffordd, rhaid cael beic gyda 2 frêc. Felly, mae'n anghyfreithlon i feicwyr reidio beiciau olwynion sefydlog i unrhyw leoliad, hyd yn oed un lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r beicwyr sy'n trefnu sesiynau ym Maendy yn cyrraedd mewn car, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar gefn beic ffordd. Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos y bydd hyn yn newid trwy adleoli'r Felodrom i'r Bae.

 

16: Cwestiwn: Pwy fydd gweithredwr y cyfleusterau newydd?

Ar hyn o bryd mae tîm y prosiect yn cynnal ymarfer marchnata meddal i ystyried opsiynau o ran gweithredwyr i'w cyflwyno i Gabinet y Cyngor yn ddiweddarach eleni. Un o'r ystyriaethau allweddol o ran gweithredu'r felodrom newydd yw bod rhaglen gynhwysol o ddarpariaeth ar gael yn ogystal â sesiynau i glybiau, fel y gall pob lefel o allu elwa.

Caiff egwyddorion strategaeth y gweithredwr eu cynnwys yn yr ABLl i'w cymeradwyo.

 

17: Cwestiwn: A fydd y cyfleuster newydd yn codi prisiau uwch ar bobl i'w ddefnyddio?

Nid oes bwriad i gynyddu costau'r ddarpariaeth. Hyd yma, mae unrhyw waith a wnaed i bennu costau wedi'i seilio ar y model codi tâl presennol ym Maendy a chyfleusterau tebyg eraill ledled y DU.

 

18: Cwestiwn: Sut rydw i'n cael mynegi fy marn ar y cyfleusterau newydd yn y Bae?

Mae'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer y felodrom newydd wedi'u datblygu hyd yn hyn gyda mewnbwn technegol y cyrff llywodraethu ac arbenigwyr beicio trac i sicrhau cydymffurfiaeth o ran diogelwch a defnydd. Caiff y cynlluniau hyn eu cyflwyno ar-lein drwy adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn gwneud cais yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd pawb yn gallu gwneud sylwadau. Bydd Cam 2 y broses ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid yn dechrau tua diwedd yr haf pan fydd y ffocws ar ddefnyddio a gweithredu'r felodrom newydd a dyluniad y gylchffordd gaeëdig newydd.

Mae'r adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais wedi'i gwblhau, mae sylwadau wedi'u hystyried a bydd mwy o ymgysylltu drwy'r cais cynllunio llawn.

Bydd digwyddiad ymgysylltu agored hefyd yn y flwyddyn newydd i weld a thrafod yr Uwchgynllun ehangach.

 

19: Pam mae'r dyluniadau wedi newid o do i fath gwahanol o ganopi?

 

Bydd 2 brif fath o dywydd bob amser, gwlyb a sych. Yn naturiol, mae glaw yn disgyn yn fertigol, a chan y bydd cyfleusterau draenio da gan y cyfleuster newydd, ni fyddai hyn fel arfer yn broblem.  Y brif broblem gyda'r tywydd yw'r gwynt cryf a hyrddiog.  Bydd hyn yn chwythu'r glaw gan achosi i ran o'r trac fod yn wlyb a rhan ohono'n sych a fydd yn peryglu'r beicwyr.

Mae'r arbenigwyr dylunio wedi cynnal astudiaeth benodol i bennu'r strwythur gorau a fydd yn galluogi unffurfiaeth o ran lleithder, yn rheoli hyrddiogrwydd y gwynt ac yn dala'r glaw wedi'i wthio gan y gwynt i greu'r canlyniad mwyaf diogel. 

Mae llawer o waith ymchwil wedi'r wneud o ran natur y strwythur hwn fod a pha ddeunyddiau y dylid eu defnyddio.

Yn ogystal, gall dŵr sy'n diferu o do ddirywio arwyneb, felly mae angen i'r dyluniad beidio â dal dŵr.

Cefnogir canlyniad ein hymchwil hefyd gan astudiaeth a gomisiynwyd gan y Corff Llywodraethu ar orchuddio traciau awyr agored, sy'n cynghori nad to rhannol draddodiadol yw'r ateb mwyaf effeithiol na chost-effeithiol.

 

20. Sut bydd y goleuadau ar y felodrom newydd yn gweithio?

 

Mae tîm y prosiect wedi cynnal astudiaethau, ar y cyd â'r astudiaeth canopi gwynt i ganfod y ffordd orau o osod y goleuadau i sicrhau unffurfiaeth o ran golau, atal goleuo y tu allan i'r cyfleuster a goleuo cymaint o'r cyfleuster â phosibl.  Ar hyn o bryd, y canlyniad yw lefel lwcs o 500 ar arwynebau'r trac, sy'n debyg i'r golau a geir yng nghaeau rygbi'r uwch gynghrair

Mae gwaith pellach yn mynd rhagddo i sicrhau y caiff canol y trac ei oleuo'n ddigonol hefyd gan fod hynny'n allweddol o ran parhau â gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.

 

21: Cwestiwn:Faint o dir mynediad agored fydd ar y safle ym Maendy?

Mae gwaith wedi'i wneud i lunio map ffiniau llinell goch dangosol ar gyfer safle arfaethedig yr ysgol.

Mae'r map dangosol hwn i'w weld ar wefan y Cyngor ynCynigion Ysgol Uwchradd Cathays (caerdydd.gov.uk)ac yn nodi'r lle mynediad agored a fyddai ar gael, y ganolfan hamdden a'r traciau BMX y tu allan i ffin y datblygiad a fyddai'n cael eu cadw, y tir sydd ei angen ar gyfer yr ysgol a'r tir mynediad agored cymunedol sy'n weddill. 

Mae'r map yn nodi ardal gymunedol fawr, y tu allan i ffin yr ysgol a'r ganolfan hamdden o tua 13,500m², a fyddai'n cael ei chadw. Mae hyn yn gynnydd o ran y tir mynediad agored anghyfyngedig a fyddai ar gael i'r gymuned leol ei ddefnyddio.

Byddai rhannau o'r ardaloedd mynediad agored yn cael eu tirlunio i greu'r ardal fwyaf priodol a mwyaf defnyddiadwy â phosibl ac mae'r ardaloedd hynny'n ychwanegol at y cyfleusterau a fyddai'n cael eu cynnig o fewn ffin yr ysgol a fyddai ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau'r ysgol.

Byddai angen ystyried cynllun y safle ymhellach yn ystod y cam dylunio.

 

22: Beth fydd yn digwydd i'r ganolfan hamdden?

Nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig i gyfleusterau presennol y ganolfan hamdden. Cytunodd y Cyngor yn 2016 y byddai'r cyfleusterau hamdden a chwaraeon yng Nghanolfan Maendy yn cael eu gweithredu gan Better Leisure (GLL), ac mae trefniant prydlesu hirdymor ar waith. Fel rhan o brydles ddiwygiedig bydd yr ysgol yn parhau i gael mynediad i gyfleusterau dan do yng Nghanolfan Maendy a bydd trefniant yn cael ei ystyried gyda GLL ar gyfer rhannu'r defnydd o'r maes parcio y tu allan i oriau'r ysgol. Byddai mannau parcio ceir wedi'u neilltuo at ddefnydd cwsmeriaid y ganolfan hamdden yn cael eu cadw.

 

23: Beth fydd yn digwydd i'r trac BMX?

Disgwylir i'r trac BMX gael ei gadw yn ei leoliad presennol, ond gellid o bosib ei adleoli ar ran arall o'r safle ym Maendy neu safle presennol yr ysgol pe credid y byddai hynny'n fuddiol i'r prosiect a'r gymuned.

 

24: Pam mae angen adeilad newydd ar Ysgol Uwchradd Cathays?

Mae Ysgol Uwchradd Cathays wedi'i nodi'n gynllun blaenoriaeth, sy'n gofyn am fuddsoddiad dan Fand B Rhaglen Fuddsoddi'r 21ain Ganrif Cyngor Caerdydd Mae Band B yn ceisio mynd i'r afael â'r ysgolion hynny y nodwyd eu bod mewn cyflwr gwael, gyda diffygion mawr, gyda phroblemau o ran addasrwydd neu y maent yn agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol.

 

25: Sut galla i gael mwy o wybodaeth am gynlluniau'r ysgol?

Mae manylion yr ymgynghoriad diweddar ar gynlluniau'r ysgol sy'n nodi'r rhesymeg dros y newidiadau arfaethedig, gwybodaeth am ble rydym ni yn y broses a'r hyn sy'n digwydd nesaf i'w gweld ar wefan y Cyngor ynCynigion Ysgol Uwchradd Cathays (caerdydd.gov.uk)

 

26: Beth fydd yr effaith ar draffig?

Byddai mesurau lliniaru ar gyfer trafnidiaeth yn y datblygiad yn cael eu nodi trwy'r broses Asesu Trafnidiaeth, a fydd yn llywio'r cynigion a gyflwynir ar gyfer caniatâd cynllunio (yn amodol ar gymeradwyaeth i fwrw ymlaen i'w gweithredu) yn ddiweddarach yn y broses gynllunio ar gyfer yr ysgol.

Mae'r asesiad yn nodi gwaith sy'n gysylltiedig â gwella mynediad i gerbydau a mesurau priffyrdd oddi ar y safle gan gynnwys parth diogelwch ysgol, cyfleusterau arafu traffig a chroesfannau i gerddwyr. Bydd angen gwneud mwy o waith asesu trafnidiaeth i gefnogi'r cynigion manwl ar gyfer safle'r ysgol newydd ac i lywio'r cais cynllunio ar gyfer y datblygiad yn y dyfodol.

Yn ogystal â mesurau priffyrdd yng nghyffiniau gatiau'r ysgol, bydd angen i'r gwaith hwn nodi gwelliannau eraill oddi ar y safle a all helpu i gynyddu cyfleoedd i ddisgyblion deithio i'r ysgol trwy gerdded a beicio.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob ysgol yng Nghaerdydd Gynllun Teithio Llesol erbyn 2022. Bydd angen i bob ysgol a ddatblygir dan Fand B fod â chynllun o'r fath ar waith o'r foment y mae'n dechrau gweithredu ac felly, pe bai'r datblygiad arfaethedig yn mynd rhagddo, byddai angen iddo gael ei ategu gan Gynllun Teithio Llesol, a ddylai gael ei lywio gan yr Asesiad Trafnidiaeth.

 

27: Beth fydd yn digwydd i safle presennol yr ysgol?

Mae safle presennol yr ysgol i'w gadw er mwyn i'r ysgol estynedig arfaethedig fodloni'r gofynion o ran arwynebedd safle a nodir ar gyfer ysgolion ar safleoedd cyfyngedig yng nghanllawiau'r Bwletin Adeiladu. Byddai angen ystyried cynllun y safle ymhellach yn ystod y cam dylunio.

 

28: Beth am darfu posibl yn ystod y gwaith adeiladu

Mae gan y Cyngor lawer o brofiad o gyflawni prosiectau adeiladu ar safleoedd ysgol a feddiannir. Byddai unrhyw waith a wneir ar y safle yn cael ei reoli'n effeithiol i sicrhau bod safonau addysg uchel yn parhau i gael eu cyflawni a bod safonau diogelwch yn cael eu cynnal a bod unrhyw darfu ar yr ysgol neu'r ardal leol yn cael ei reoli. Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys Cynllun Rheoli Adeiladu a fydd yn cael ei gynnwys yn y cais cynllunio ar gyfer yr ysgol, yr ymgynghorir arno'n llawn maes o law.

 

29: Beth am ddefnyddio safle presennol Ysgol Uwchradd Cathays yn lle hyn?

Er y gellid defnyddio safle presennol Cathays i godi adeilad ysgol newydd, byddai'r safle presennol yn dal yn annigonol o ran maint i alluogi'r gwaith o adeiladu'r ysgol newydd i'r ysgol barhau i weithredu. Byddai'n golygu gorfod creu lle i ddisgyblion oddi ar y safle yn ystod y gwaith o godi'r adeilad newydd gan arwain at darfu sylweddol ar weithrediadau'r ysgol. Nid yw safle presennol yr ysgol yn ddigon mawr ar gyfer safonau Ysgolion yr 21ainGanrif.

 

30 Beth yw'r amserlen a fwriedir ar gyfer datblygu'r ysgol?

Os caiff y cynnig ei ddatblygu ac os ceir cymeradwyaeth statudol, y bwriad yw y byddai'r gwaith adeiladu yn dechrau ym mlwyddyn ysgol 2023/24 ar ôl cwblhau'r trac newydd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

 

31: Beth am ddefnyddio Tŷ'r Cwmnïau neu safle Barics Maendy ar gyfer yr ysgol newydd?

Holodd y Cyngor am y posibilrwydd o ddefnyddio safleoedd amgen. Fodd bynnag, nid yw'r safleoedd hyn ym mherchnogaeth y Cyngor nac ar gael i'w hystyried.

 

Cysylltiedig