Back
Creu Caerdydd Werddach, Decach a Chryfach mewn byd ôl-COVID

10/12/21


Mae barn trigolion Caerdydd, pobl fusnes a rhanddeiliaid y ddinas i gyd wedi cael eu defnyddio i lywio adroddiad ar sut y dylai Caerdydd fynd ati i adfer yn llwyddiannus o'r pandemig COVID-19.

Comisiynwyd y strategaeth adfer ac adnewyddu Gwyrddach, Tecach, Cryfach gan Gyngor Caerdydd yn gynharach eleni ac mae wedi bod yn destun ymgynghoriad ers mis Mehefin. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu rhwng mis Mehefin a mis Hydref, gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau sy'n ystyriol o blant i gasglu barn pobl ifanc ochr yn ochr â thrigolion, busnesau, y sector diwylliannol a rhanddeiliaid eraill. Cynhyrchodd arolwg dros fil o ymatebion hefyd.

Chwaraeodd yr arbenigwr byd-eang ar ddinasoedd, Dr Tim Williams, ran allweddol wrth helpu i lunio'r adroddiad i baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad. Mae Dr Williams, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn datblygu polisïau rheoli trefi a dinasoedd ar gyfer dinasoedd mawr fel Llundain a Sydney, yn dweud bod Caerdydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a fydd yn codi yn y byd ôl-Covid.

Wrth ysgrifennu yn ôl mis Mehefin, yn yr adroddiad ‘Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19', dywedodd Dr Williams: "Ar ddechrau'r argyfwng byd-eang hwn, roedd Caerdydd mewn sefyllfa dda a, chyda'r ysbryd, y strategaeth, y cydweithrediadau a'r arloesedd cywir, gall ddod yn ôl yn gryfach fyth.  Wrth wneud hynny, gall ddarparu hyd yn oed mwy o fuddion i'w chymuned ei hun a'r Ddinas-ranbarth. Gall Caerdydd ffynnu ar ôl Covid, gan gynnig gwell safon bywyd i'w thrigolion ynghyd â rhaglen economaidd ar gyfer adferiad 'gwyrdd' sy'n seiliedig ar dechnoleg.

"Mae cyfle i Gaerdydd, wedi'i symbylu gan Covid-19, ddangos esiampl i ddinasoedd eraill o'r un maint.  Gan adeiladu ar ei chryfderau sefydledig a pharhaus, yr uchelgais sydd ganddi i lwyddo, sgiliau a dychymyg ei phobl a'r arweinyddiaeth y mae eisoes wedi'i dangos, bydd Caerdydd nid yn unig yn ‘bownsio'n ôl' - does dim amheuaeth am hynny - bydd yn ‘bownsio ymlaen'." 

Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Caerdydd yn benodol i herio'r awdurdod ac i fireinio ei strategaethau a'i ymyriadau ei hun ar gyfer adferiad llwyddiannus ar ôl y pandemig.  Nawr, ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd, argymhellir bod Cabinet Cyngor Caerdydd yn derbyn yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 16 Rhagfyr.

Mae'r strategaeth Gwyrddach, Tecach a Chryfach yn cwmpasu ystod eang o fesurau y mae'n argymell bod y cyngor yn gweithio tuag atynt, gan gynnwys:

  • Rhaid rhoi ffocws allweddol ar ddyfodol canol y ddinas gan ei wneud yn ddeniadol i ymwelwyr, gweithwyr a busnesau ar ôl COVID;
  • Rhaid i Gaerdydd gadw'i statws fel dinas digwyddiadau mawr o ran chwaraeon a diwylliant, ond hefyd ddatblygu ei rhaglen ‘gartref' ei hun;
  • Rhaid i Gaerdydd sicrhau ei bod yn parhau i fod yn ddinas iach i fyw ynddi gydag aer glân, mannau cyhoeddus o ansawdd uchel, parciau ac ardaloedd gwyrdd;
  • Rhaid i Gaerdydd ddefnyddio'r momentwm o amgylch yr agenda 'Werdd', a manteisio ar y sectorau technoleg a gwybodaeth sydd eisoes yn datblygu yn y ddinas i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi;
  • Mae 'safon byw' yn ganolog i'r hyn y bydd angen i'r ddinas fod er mwyn cadw a datblygu a denu talent a buddsoddiad; ac
  • Mae adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus addas a fydd yn galluogi pobl i groesi'r ddinas yn rhwydd yn hanfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd:  "Rydym wedi defnyddio adroddiad Dr Williams i helpu i lywio a llunio ein syniadau a'n strategaethau i arwain Caerdydd i mewn i'r byd ar ôl y pandemig.  Mae'r Cyngor hwn yn benderfynol o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'w holl drigolion. Ymgynghorwyd ar y cynlluniau hyn ac mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi dangos cefnogaeth i'r strategaeth.  Mae ein trigolion yn credu, fel ni, y bydd Caerdydd yn adfer o'r pandemig, ac y gall y cynlluniau hyn fod o fudd i bawb sy'n byw a gweithio yma. Wrth gwrs, byddwn yn parhau â'n sgyrsiau gyda thrigolion a rhanddeiliaid y ddinas ar sut y gallwn lunio ac arwain y gwaith o adfer ac adnewyddu prifddinas Cymru.  Rydyn ni am adeiladu Caerdydd newydd, dinas sy'n gweithio i bawb sy'n byw ynddi, ac sy'n gweithio i Gymru.  Dinas a fydd yn parhau i dyfu a ffynnu fel y mae wedi ‘neud dros yr 20 mlynedd diwethaf.  Dinas wych i fyw ynddi ac un sy'n gallu parhau i bweru llwyddiant economaidd Cymru."

I ddarllen adroddiad strategaeth Gwyrddach, Tecach a Chryfach Caerdydd yn llawn cliciwch yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=6660&LLL=1

Gan edrych tuag at yr adferiad tymor hwy, mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar 6 datganiad cenhadaeth a blaenoriaeth.

Dyma nhw:

  • Ailddychmygu canol y ddinas
  • Dinas i bawb
  • Dinas pymtheg munud
  • Adfywio a arweinir gan ddiwylliant a chwaraeon
  • Dinas Dechnoleg
  • Adferiad Un Blaned

Cenhadaeth 1: Ailddychmygu canol y ddinas.

Mae canol dinasoedd yn wynebu heriau newydd mewn byd ôl-Covid a gallai'r newidiadau a welwyd yn y ffordd rydym yn gweithio, siopa a threulio'n hamser hamdden oll gael effaith fawr ar ein dinasoedd.  Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i ddiogelu swyddi yn ein sectorau lletygarwch, manwerthu a swyddfeydd drwy ddenu pobl yn ôl i ganol y ddinas.  Er y bydd datblygiadau adeiladu a gwella seilwaith y ddinas yn chwarae rhan bwysig o ran darparu swyddi a chyfleoedd gwaith, bydd angen cymryd camau i ymateb i economi'r nos, gwella'r cynnig diwylliannol, bywiogi mannau cyhoeddus a gwella trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio llesol i greu Caerdydd unigryw y mae pobl am ymweld â hi a bod yn rhan ohoni.

Blaenoriaethau

  • Sicrhau bod canol y ddinas yn ddiogel, glân, croesawgar a deniadol i bobl o bob oed a chefndir.
  • Cyflymu'r broses o gwblhau'r ardal fusnes ganolog i gefnogi twf parhaus mewn swyddi.
  • Cefnogi busnesau presennol i dyfu a dod yn fwy cynhyrchiol.
  • Gwella sgwariau cyhoeddus, strydoedd a mannau gwyrdd sy'n bodoli eisoes - a sefydlu rhai newydd - ac agor ein glannau.
  • Cymryd rôl fwy uniongyrchol wrth reoli dyfodol canol y ddinas i adlewyrchu anghenion trigolion, gweithwyr, busnesau ac ymwelwyr.
  • Rhoi diwylliant a'r celfyddydau wrth wraidd yr adferiad, gan groesawu'r rôl y mae'r sector yn ei chwarae wrth lunio canol ein dinas.
  • Creu canol dinas sy'n gwbl hygyrch i bawb o bob oedran a phobl ag anableddau, yn seiliedig ar system drafnidiaeth gwbl integredig. 

Cenhadaeth 2: Dinas i bawb

Mae'r pandemig wedi ehangu anghydraddoldebau ac mae wedi effeithio'n andwyol ar yr henoed, menywod a'r rhai o gefndir BAME.  Mae profiadau bywyd pobl ifanc wedi bod yn gyfyngedig drwy gydol y cyfnod clo ac mae angen cymorth penodol. Bydd angen i ddinasoedd fynd i'r afael â'r ffactorau hirdymor sy'n arwain at anghydraddoldebau iechyd y mae trigolion yn eu hwynebu yn ein cymunedau mwy difreintiedig, gan gynnwys mynediad at swyddi da, tai ac addysg.

Blaenoriaethau

  • Sicrhau bod manteision rhaglen adfywio a datblygu'r ddinas yn cael eu teimlo ar draws holl gymunedau'r ddinas.
  • Dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant, lle mae buddiannau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein hymateb. 
  • Sicrhau bod y modelau cymorth newydd sydd ar waith ar gyfer trigolion mwyaf agored i niwed y ddinas yn cael eu cynnal ar ôl y pandemig. 
  • Mynd i'r afael â'r ffactorau hirdymor sy'n arwain at anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys buddsoddi mewn tai, addysg a chymunedau lleol.
  • Sicrhau bod Caerdydd yn ddinas lle gallwn ni i gyd deimlo'n ddiogel a chael ein croesawu. 

Cenhadaeth 3: Dinas 15 munud

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ein cymunedau lleol, canolfannau cymdogaeth a mannau gwyrdd. Gyda'r mwyafrif yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo gwelsom newidiadau mawr i'r ffordd rydym yn teithio, siopa a defnyddio'r mannau o'n hamgylch. Gyda gweithio gartref yn debygol o barhau ar ryw ffurf neu'i gilydd, mae cyfleoedd wedi ymddangos a all gryfhau ein canolfannau lleol yn yr hirdymor. Y syniad o 'ddinas 15 munud' yw bod y gwasanaethau y gallai fod eu hangen arnoch, o barciau i siopau, ar gael o fewn 15 munud i'ch cartref. Mae cyfle i wneud y rhwydwaith presennol o ganolfannau lleol llwyddiannus hyd yn oed yn fwy bywiog, prysur a pherthnasol i gymunedau lleol, ac i fath newydd o weithiwr ystwyth a all rannu ei ddiwrnodau gwaith rhwng y cartref a swyddfa yn y ddinas. Mae'r manteision posibl, o lai o dagfeydd i adfywio cymunedol, yn glir i'w gweld.

Blaenoriaethau

  • Creu cymunedau lleol diogel a hygyrch i bawb, yn enwedig plant a phobl hŷn.
  • Sicrhau newid graddol yn y ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus a mesurau teithio llesol i gysylltu ein cymunedau, fel yr amlinellir yn ein Papur Gwyn Trafnidiaeth.
  • Rheoli, curadu a hyrwyddo canolfannau lleol ac ardal - creu canolfannau bywiog drwy annog a hyrwyddo busnesau lleol amrywiol, manwerthu, gweithleoedd, mannau deori a gweithgarwch cymdeithasol.
  • Buddsoddi mewn mannau gwyrdd presennol a sefydlu mannau gwyrdd newydd, tra'n defnyddio ein glannau yn fwy gweithredol.
  • Arddangos a dathlu amrywiaeth a diwylliant gwahanol rannau o'n dinas, gan gynnwys asedau hanesyddol ein dinas.
  • Cyflawni dull 'ardal' mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, gyda thimau wedi'u lleoli ac yn gallu ymateb i anghenion cymunedau, wedi'u hadeiladu ar rwydweithiau Hybiau Cymunedol a Lles. 
  • Cefnogi staff gwasanaethau cyhoeddus i weithio mewn ffordd ystwyth, gyda mannau cymunedol mewn lleoliadau ledled y ddinas. 
  • Buddsoddi mewn adnewyddu ystadau, gan wella ystadau tai presennol a'u hardaloedd cyfagos i ddarparu tai, tir cyhoeddus a gofod busnes carbon-isel cynaliadwy o ansawdd uchel i'n cymunedau. 

Cenhadaeth 4: Adfywio a arweinir gan ddiwylliant a chwaraeon

Mae'r pandemig wedi cynyddu pwysigrwydd y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon i Gaerdydd, ac mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan enfawr yn y gwaith o ddenu busnesau ac ymwelwyr i Gaerdydd yn y gorffennol yn ogystal â gwneud ein dinas yn lle gwych i fyw ynddo.  Mae diwylliant, creadigrwydd a chwaraeon yn siapio dinasoedd fel lleoedd i fyw ynddynt ac ymweld â nhw. Mae sicrhau bod ein hasedau creadigol a diwylliannol yn cael yr effaith fwyaf posibl yn un o'r ffyrdd allweddol y gallwn wahaniaethu Caerdydd oddi wrth ddinasoedd eraill. Bydd profiadau lleol unigryw a dilys yn dod yn bwysicach wrth ddenu twristiaeth ddomestig a rhyngwladol yn y dyfodol ac mae diwylliant yn cael ei gydnabod fwyfwy fel ased lles allweddol i drigolion unrhyw ddinas.  Wrth symud ymlaen mae angen i'r ddinas ganiatáu a darparu lle ar gyfer gweithgareddau creadigol, diwylliannol a chwaraeon.

Blaenoriaethau

  • Rhoi diwylliant wrth wraidd ailddatblygu, creu lleoedd a mannau y mae pobl eisiau bod ynddynt ac o'u cwmpas, a chefnogi economi fwy creadigol.
  • Buddsoddi yn ein seilwaith creadigol, o gyfathrebu digidol i weithdai a stiwdios artist cost isel, i leoliadau i wneuthurwyr a lleoliadau llawr gwlad, gan alluogi ein pobl greadigol fedrus i ffynnu, a chydnabod y rôl y mae diwylliant a chreadigrwydd yn ei chwarae wrth ddatblygu dinas well.
  • Cofleidio Strategaeth Dinas Gerdd Caerdydd i wneud Caerdydd y ddinas gyntaf yn y DU i ymgorffori cerddoriaeth yn strwythur y ddinas - o gynllunio a thrwyddedu i les cymdeithasol a thwristiaeth.
  • Cefnogi buddsoddiad i annog cyfranogiad mewn chwaraeon ar bob lefel.
  • Datblygu Strategaeth Digwyddiadau ôl-COVID newydd gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi sector digwyddiadau ‘cartref' sy'n cynnig rhaglen gynaliadwy o ddigwyddiadau, gan gefnogi ein busnesau ein hunain i ddatblygu ein heconomi ymwelwyr. 

Cenhadaeth 5: Dinas Dechnoleg

Mae dinasoedd llwyddiannus modern yn cael eu sbarduno gan sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd y bobl a'r busnesau sy'n byw ac yn gweithredu yno.  Mae'r pandemig hefyd wedi dangos yr effaith y gall buddsoddi mewn technoleg ei chael i wella ein bywydau a chefnogi twf busnes.  Cafodd y ffaith fod technoleg wedi galluogi cymaint o bobl i barhau i weithio gartref yn ystod y cyfnod clo fudd economaidd enfawr, gan arbed swyddi a bywoliaethau.  Wrth i Gaerdydd ddod allan o'r pandemig, mae angen i ni dyfu ein heconomi wybodaeth gan greu mwy o swyddi gwell.  Mae angen i ni gadw pobl dalentog a darparu sylfaen a rhwydwaith iddynt a all helpu i wireddu eu potensial.  Erbyn hyn mae cyfleoedd i ddinasoedd llai, gydag ansawdd bywyd uwch, ddenu busnes i ffwrdd o'r mega-ddinasoedd sydd ag ansawdd bywyd ac amgylchedd gwaeth.

Blaenoriaethau

  • Sefydlu Canol Dinas Caerdydd a Bae Caerdydd fel 'Canolfan Dechnoleg' i Gymru, gan gadw, datblygu a denu busnesau gwybodaeth y dyfodol.
  • Cefnogi ecosystem dechnolegol ‘busnes newydd i gynnig cyhoeddus cychwynnol (IPO)', gan greu rhwydwaith o leoedd ar gyfer pob cam o ddatblygiad busnes, a rhaglen o gymorth busnes a chymorth ariannol i fusnesau sydd â phartneriaid sector preifat.
  • Cryfhau'r berthynas rhwng Caerdydd a phrifysgolion gan ganolbwyntio ar bolisi cyhoeddus ac ymchwil datblygu economaidd i'r ddinas. 
  • Buddsoddi yn y seilwaith i gefnogi busnesau technoleg o bob siâp a maint yn y ddinas, gan ailbwrpasu adeiladau i ddatblygu clystyrau o fusnesau sy'n seiliedig ar wybodaeth.
  • Ymgorffori technoleg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol a sicrhau mynediad cyfartal ar draws y ddinas a llwybrau amgen i'r rhai sydd ag anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau digidol. 

Cenhadaeth 6: Adferiad Un Blaned

Ers y pandemig mae mwy a mwy o ddinasoedd ledled y byd yn croesawu cymunedau di-garbon, gwyrddach, glanach a mwy deniadol i fyw ynddynt. Daeth Covid â phwysigrwydd ein parciau a'n mannau gwyrdd i'r amlwg a gwnaeth y gostyngiad mewn allyriadau traffig a thagfeydd annog llawer i roi cynnig ar feicio yn y ddinas am y tro cyntaf. Wrth i Gaerdydd ddod allan o'r argyfwng, mae angen defnyddio'r gwersi a ddysgwyd, a'r cyflymder a'r gallu i newid y ffordd yr oeddwn yn gwneud pethau yn sgil Covid, i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sef y risg fwyaf i bob un ohonom o hyd. Mae dinasoedd blaengar yn manteisio ar y cyfle i ddatgarboneiddio, datblygu cynlluniau aer glân, trawsnewid y ffordd y mae pobl yn symud o amgylch dinasoedd tra'n lleihau'r ddibyniaeth ar geir preifat. Maent hefyd yn sefydlu rhaglenni buddsoddi mewn cynlluniau economi werdd. Mae strategaeth Caerdydd Un Blaned yn nodi sut y bydd Caerdydd yn ymdrechu i fod yn Ddinas Carbon Niwtral erbyn 2030 - gan greu swyddi 'gwyrdd' newydd a chyfleoedd economaidd tra'n hybu gwell iechyd a lles, wrth i ni geisio chwarae ein rhan i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd.

Blaenoriaethau

  • Cyflawni Strategaeth Caerdydd Un Blaned, gyda'r nod o ddod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030 a mabwysiadu egwyddorion 'dim carbon dim tlodi' wrth i ni adfer o'r pandemig.
  • Defnyddio potensial marchnad yr Adferiad Gwyrdd i greu swyddi lleol.
  • Llunio polisïau a chanllawiau cynllunio i hwyluso a gwneud y mwyaf o ddatblygiadau gwydn, ynni isel, sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ledled y ddinas.
  • Defnyddio pŵer penderfyniadau gwario a buddsoddi'r Cyngor, a'i bolisïau, ei arferion a'i bartneriaethau sefydliadol ei hun i sicrhau'r budd cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf posibl.
  • Buddsoddi mewn cartrefi a chymdogaethau cynaliadwy gan leihau ôl troed carbon a chostau ynni i'n cymunedau.
  • Datblygu'r seilwaith i wneud Caerdydd y ddinas orau i Gerbydau Trydan yn y DU.

 Deg mantais i Gaerdydd yn ôl adroddiad Dr Williams

  1. Caerdydd yw prifddinas wleidyddol, diwylliannol a busnes Cymru
  2. Mae'n un o Ddinasoedd Craidd y DU sy'n rhoi potensial lobïo pwysig iddi
  3. Mae gan y ddinas nifer sylweddol o brosiectau datblygu mawr yn yr arfaeth
  4. Mae gan Gaerdydd dir cyhoeddus sy'n gwella'n barhaus o ran pa mor ddeniadol yw hi, a pha mor hawdd yw hi i gerdded a beicio yno
  5. Statws cynyddol fel prifddinas genedlaethol Cymru gyda chymuned gosmopolitan
  6. Ardal y Bae, sydd wedi'i hatgyfodi ac sy'n dal i adfywio
  7. Sector prifysgol sy'n perfformio'n dda iawn gyda rhagoriaeth ymchwil, a rhai o'r ysgolion sydd wedi gwella fwyaf yn y wlad
  8. Mae gan Gaerdydd o leiaf ddwy ardal arloesi ddatblygol, mewn gwasanaethau digidol, technoleg ariannol a busnes
  9. Gallu unigryw i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yng nghanol y ddinas
  10. Canol dinas amlbwrpas ac amrywiol sydd wedi'i hadnewyddu - ac sy'n parhau i adnewyddu - gyda'r unig Ardal Fusnes Ganolog yng Nghymru

Pum peth sydd ei angen ar Gaerdydd yn ôl adroddiad Dr Williams

  1. Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod rôl unigryw'r ddinas i Gymru
  2. Rhaid i dwf fod yn gynhwysol a chael ei rannu â phob cymuned ar draws y ddinas
  3. Mae system drafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a modern yn flaenoriaeth
  4. Bydd iechyd a lles y cyhoedd yn ganolog i greu dinas lwyddiannus
  5. Dylai'r agenda werdd chwarae rhan allweddol wrth greu hunaniaeth newydd yng Nghaerdydd