Back
Cynlluniau adfer Porth y Gorllewin i ganolbwyntio ar ynni Llanw a chysylltiadau rheilffordd cyflym

10/12/21


Dim ond dau o'r materion allweddol a fydd ar flaen yr agenda ar gyfer Porth y Gorllewin yn y Flwyddyn Newydd yw ymchwilio i botensial llawn ynni'r llanw o Aber Afon Hafren a gwella cysylltiadau rheilffordd cyflym ar Brif Reilffordd y Great Western.

Bydd y Porth - partneriaeth economaidd drawsffiniol sy'n cwmpasu De Cymru a Gorllewin Lloegr - yn canolbwyntio ar gyfleoedd buddsoddi mawr i'r rhanbarth, yn ôl adroddiad newydd i Gabinet Cyngor Caerdydd.

Sefydlwyd y Porth - sy'n cydbwyso â Phwerdy Gogledd Lloegr ac Injan Canolbarth Lloegr - i ddiogelu lefelau sylweddol o gyllid a buddsoddiad gan y Llywodraeth i hybu creu swyddi a'r economi.

Ar hyn o bryd mae'r bartneriaeth yn cynnwys dinasoedd craidd Caerdydd a Bryste, dinasoedd allweddol Casnewydd, Abertawe, Caerfaddon a Chaerloyw, ac mae'n ymestyn ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr o Swindon i Abertawe, Wiltshire a Weston-Super-Mare i Tewkesbury.

Mewn adroddiad diweddaru i Gabinet Cyngor Caerdydd, datgelir bod Porth y Gorllewin yn bwriadu canolbwyntio ar y pedwar maes canlynol yn 2022:

  • Y dyfodol posibl ar gyfer ynni'r llanw yn aber Afon Hafren wrth i'r rhanbarth geisio cyrraedd di-garbon net;
  • Gwella cysylltedd cyflym ledled y rhanbarth drwy wella Prif Linell y Great Western;
  • Defnyddio ymchwil ac asedau academaidd sy'n arwain y byd yn yr ardal i gefnogi prosiectau gweithgynhyrchu ac ynni adnewyddadwy arloesol;
  • Marchnata rhanbarth Porth y Gorllewin fel lleoliad deniadol ar gyfer mewnfuddsoddiad a chefnogi cwmnïau i gael mynediad i farchnadoedd allforio newydd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, sy'n aelod o fwrdd partneriaeth y Porth a chynrychiolydd gwleidyddol arweiniol ar ynni'r llanw: "Mae ffrydiau gwaith wedi'u sefydlu ar gyfer pob un o'r pedair blaenoriaeth. Mae'r ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â datgloi potensial ynni llanw Aber Afon Hafren yn arbennig o bwysig, a sicrhau buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd strategol sy'n cysylltu Caerdydd â dinasoedd craidd eraill ac â Llundain.

"Amcangyfrifir y gallai Aber Afon Hafren gyflenwi 7% o anghenion ynni'r DU. Hyd yma, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod cefnogi cynllun oherwydd gofyniad canfyddedig am lefelau uchel o fuddsoddiad cyhoeddus a phryderon ynghylch yr effaith amgylcheddol ar ardaloedd dynodedig yn Aber Afon Hafren. Fodd bynnag, mae tirwedd newidiol yr argyfwng hinsawdd, ansicrwydd ynni, costau cynyddol, a gwelliannau technolegol cyflym yn dangos nad yw llawer o'r rhwystrau polisi, cost ac amgylcheddol hyn mor sylweddol mwyach. Rydym am ddarganfod beth y gellid ei wneud i harneisio'r adnodd ynni anhygoel hwn."

Ym mis Hydref 2021, cytunodd Bwrdd Partneriaeth Porth y Gorllewin i archwilio sefydlu Comisiwn Annibynnol ar y potensial i harneisio potensial ynni llanw Afon Hafren, dan gadeiryddiaeth unigolyn o statws rhyngwladol a chyda phroffil gwleidyddol/proffesiynol. Cytunodd y Bwrdd y dylai aelodau gwmpasu arweinwyr o bob rhan o sectorau allweddol, megis peirianneg, cyllid a buddsoddi a chynaliadwyedd. Enwebwyd Arweinydd Cyngor Caerdydd gan Fwrdd Partneriaeth Porth y Gorllewin i arwain y fenter hon ar ran y rhanbarth a bydd yn cynrychioli Porth y Gorllewin ar y Comisiwn Annibynnol.

O ran gwella cysylltiadau rheilffordd, dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae pwerdai rhanbarthol eraill yn y DU; sef Pwerdy Gogledd Lloegr ac Injan Canolbarth Lloegr wedi llwyddo i ddenu lefelau sylweddol o gyllid a buddsoddiad gan y Llywodraeth. Mae'n hanfodol bod Porth y Gorllewin yn sicrhau lefel debyg o fuddsoddiad os ydym am ddatgloi ein potensial economaidd llawn.

"Roedd y gwariant 8 mlynedd ar adeiladu seilwaith y pen - fel y'i cyfrifwyd yn 2019 - 26% yn uwch ym Mhwerdy Gogledd Lloegr nag ar draws Porth y Gorllewin, ac nid yw'n cynnwys y buddsoddiad o £100bn y bydd Gogledd Lloegr yn elwa ohono drwy HS2 (£29bn) a Northern Powerhouse Rail (£70bn). Yn benodol, mae HS2 yn welliant sylweddol mewn cysylltedd ar draws rhannau eraill o'r wlad, gan roi Porth y Gorllewin mewn perygl o fynd yn waeth ei byd.

"Nid yw De Cymru a Gorllewin Lloegr wedi mwynhau'r lefelau o fuddsoddiad i wella'r rheilffyrdd a gafwyd mewn rhannau eraill o'r DU dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae'r tanfuddsoddi hwn wedi arwain at wasanaethau cymharol lai deniadol, denu llai o deithwyr, ac arwain at gymorthdaliadau uwch o'i gymharu â gweddill y DU.

"Bydd HS2 yn rhoi Caerdydd a De Cymru o dan anfantais sylweddol. Er y rhagwelir y bydd economi'r DU yn cael budd o £15 biliwn gan HS2, bydd CDG De Cymru yn colli tua £200m y flwyddyn. Mae effeithiau negyddol tebyg i'r de-orllewin o Loegr, gyda Bryste yn colli £100m y flwyddyn, a Chaerloyw, Caerfaddon a gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf £100m arall y flwyddyn."

Drwy Borth y Gorllewin, a gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y ddinas-ranbarth, mae Cyngor Caerdydd yn ceisio sicrhau buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd strategol sy'n gwasanaethu'r ddinas, gan gynnwys:

  • Uwchraddio'r coridor rheilffordd dwyrain-gorllewin sylfaenol o Fae Abertawe i Lundain drwy Brif linell De Cymru (SWML) a Great Western Mainline (GWML), gan wella cysylltedd rhwng Caerdydd a Bryste, Abertawe, Heathrow a Llundain;
  • Ar gyfer y SWML, bydd hyn yn cynnwys cyflymderau llinell uwch (hyd at 140 mya yn y pen draw) a chapasiti, gorsafoedd newydd a thrydaneiddio llawn fel y cydnabyddir yn strategaeth datgarboneiddio ddiweddar Network Rail;
  • Gwell cysylltiadau rheilffordd rhwng Caerdydd Canolog a Bristol Temple Meads, gan gynnwys cymysgedd o wasanaethau cymudo cyflym a lleol fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys 4 gwasanaeth yr awr rhwng Bristol Temple Meads a Chaerdydd Canolog;
  • Gwell cysylltedd o Gaerdydd i Birmingham a rhwydwaith HS2 (a thu hwnt i/o ogledd Lloegr) drwy Gaerloyw; a
  • Sicrhau cynllun Mynediad i Heathrow drwy Western Rail o Reading, gan ddarparu mynediad uniongyrchol ac anuniongyrchol i'r rheilffyrdd o Gaerdydd Canolog i Heathrow.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Nodwyd bod gwella cysylltedd rhwng y dinasoedd a'r dinas-ranbarthau ym Mhorth y Gorllewin yn hanfodol i gyflawni nodau economaidd a hinsawdd y bartneriaeth, gan gynnwys hybu cynhyrchiant, gwneud swyddi'n hygyrch i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ac i ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Rhaid i ni beidio â chael ein gadael ar ôl gwylio pwerdai economaidd eraill fel Pwerdy Gogledd Lloegr ac Injan Canolbarth Lloegr yn cael budd wrth i ni gael ein gadael ar ôl."

Dywedodd Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Porth y Gorllewin:  "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Borth y Gorllewin. Credwn y gallai ein hardal fod yn uwch glwstwr ynni gwyrdd cyntaf y DU ac rydym yn gweithio ar raglen waith i integreiddio ein cryfderau a'n hasedau ar draws Niwclear, Hydrogen a Llanw i greu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl.

"Rydym yn edrych ymlaen at nodi cynlluniau ar gyfer partneriaeth y pwerdy fis nesaf yn ein cynhadledd gyntaf, Twf Gwyrdd ym Mhorth y Gorllewin, lle bydd arweinwyr o fyd busnes, ymchwil a'r sector cyhoeddus o ddwy ochr Afon Hafren yn helpu i lywio sut mae'r cynlluniau hyn yn dod yn fyw."