Back
Ymgynghoriad - Cynigion i wella dilyniant gyrfa Cynorthwywyr Addysgu

13.12.2021

A picture containing personDescription automatically generated

Mae ymgynghoriad sy'n gwahodd Cynorthwywyr Addysgu ledled y ddinas i ddweud eu dweud ar nodau ar gyfer eu gyrfa, bellach ar agor.

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Chonsortiwm Canolbarth y De i ymgynghori â Chynorthwywyr Addysgu i holi am yr hyn y gellir ei wneud i helpu i ddatblygu eu gyrfa ymhellach.

O ganlyniad i'r ymatebion, bydd rhaglen gefnogol yn cael ei datblygu i helpu Cynorthwywyr Addysgu i chwalu'r rhwystrau i ddilyniant.

Mae'r arolwg yn agored i bawb ac rydym yn annog i Gynorthwywyr Addysgu sydd â chefndir lleiafrifoedd ethnig yn arbennig ymateb.

Mae'r fenter wedi'i rhoi ar waith yn un o gyfres o gynlluniau newydd mawr gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, a grëwyd i helpu i wella bywydau a chyfleoedd cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd.

Mae'r Ymgynghoriad i Gynorthwywyr Addysgu ar gael yma.

Bydd yr arolwg ar agor tan fis Ionawr 2022.