Back
Ymgyrch plannu coed ledled Caerdydd yn nodi Wythnos Coed Genedlaethol

13.12.2021

Mae dros 400 o goed wedi'u plannu mewn digwyddiadau arbennig ym mharciau Caerdydd yn ystod Wythnos Coed Genedlaethol.

Cynhaliwyd tri digwyddiad plannu coed arbennig ym Mharc Celtaidd, yr Eglwys Newydd; Gerddi Kitchener, Glan yr Afon aPharc Y Pentre,Rhiwbeina lle heriodd 58 o wirfoddolwyr y tywydd gaeafol i helpu i blannu'r coed fel rhan o brosiect Coed Caerdydd cyngor Caerdydd.

Mae Coed Caerdydd yn rhaglen uchelgeisiol 10 mlynedd o ehangu canopi coed Caerdydd, sy'n gysylltiedig â strategaeth newid hinsawdd Un Blaned y ddinas.

Mae Strategaeth Un Blaned y Cyngor yn cynnwys nod o gynyddu'r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030.I wneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o'r enw Coed Caerdydd.

Roedd coed ceirios, pren afal sur, ffawydd a choed castan ymhlith y mathau a blannwyd gan wirfoddolwyr lleol gan gynnwys athrawon a disgyblion o Ysgol Gynradd Kitchener ac Ysgol GynraddRhiwbeina, gwirfoddolwyr o Fanc Lloyds ac aelodau ward lleol.

Fel rhan o'r prosiect, gosododd y tîm Parciau goed stryd newydd yn ward Glan-yr-afon ac adleoli coed bedw i diroedd hamdden y Rhath a oedd wedi'u plannu dros dro yn Wellfield Road.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae'n wych gweld cymaint yn cyfrannu a'n cymuned yn dod ynghyd i greu rhywbeth a fydd yn cael ei fwynhau am genedlaethau.

"Bydd y gwaith pwysig hwn a wneir gan ein gwirfoddolwyr yn cael effaith nawr ac am flynyddoedd i ddod, mae'r coed hyn yn hanfodol wrth ddiogelu ansawdd aer a bywyd gwyllt y ddinas.

"Diolch i bawb sy'n ymwneud â'r paratoadau i ddod o hyd i'r amodau cywir ar gyfer y coed ac i'n holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled yn ystod y digwyddiadau."

Meddai Chloe Jenkins, Cydlynydd Gwirfoddolwyr: "Rydym yn gyffrous iawn i lansio prosiect newydd Coed Caerdydd. Bydd cydweithredu yn allweddol i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn a'n bod yn plannu'r coed iawn yn y mannau cywir. O'r herwydd, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael cefnogaeth cynifer o wirfoddolwyr lleol ar y digwyddiadau plannu cyntaf hyn.

"Ymunwch â'n rhwydwaith os hoffech gael gwybod am ddigwyddiadau plannu yn y dyfodol a chynnydd y prosiect."
 

Dysgwch fwy am Coed Caerdydd yma: www.outdoorcardiff.com/biodiversity/coed-caerdydd,e-bostiwch dîm y prosiect drwy:prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.ukneu dilynwch y prosiect ar Facebook@CoedCaerdydd