Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 14 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a ymgyrch plannu coed ledled Caerdydd yn nodi Wythnos Coed Genedlaethol.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 14 Rhagfyr

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  915,136 (Dos 1: 389,126 Dos 2:  353,972 DOS 3: 6,472 Dosau atgyfnertha: 165,517)

 

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 06 Rhagfyr

 

  • 80 a throsodd: 20,136 / 94.7% (Dos 1) 19,980 / 94% (Dos 2 a 3*) 17,412 / 87.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,962 / 96.5% (Dos 1) 14,838 / 95.7% (Dos 2 a 3*) 13,081 / 88.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,402 / 95.8% (Dos 1) 21,398 / 95.9% (Dos 2 a 3*) 19,213 / 90.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,006 / 94.4% (Dos 1) 21,770 / 93.4% (Dos 2 a 3*) 18,681 / 85.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,134 / 92.5% (Dos 1) 25,813 / 91.4% (Dos 2 a 3*) 21,266 / 82.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,468 / 90.5% (Dos 1) 29,003 / 89% (Dos 2 a 3*) 13,416 / 46.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,163 / 88.2% (Dos 1) 28,570 / 86.4% (Dos 2 a 3*) 10,495 / 36.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 55,826 / 82.2% (Dos 1) 54,129 / 79.7% (Dos 2 a 3*) 13,556 / 25% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 61,833 / 76.6% (Dos 1) 58,377 / 72.3% (Dos 2 a 3*) 8,950 / 15.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 82,781 / 78% (Dos 1) 74,672 / 70.4% (Dos 2 a 3*) 8,019 / 10.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,154 / 75.3% (Dos 1) 2,328 / 42.2% (Dos 2 a 3*) 128 / 5.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 14,897 / 55.6% (Dos 1) 1,184 /4.4% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,775 / 99.3% (Dos 1) 5,799 / 85% (Dos 2 a 3*) 26 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal:2,080 / 98.3% (Dos 1) 2,062 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 1,815 / 88% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal:3,693 / 98.9% (Dos 1) 3,627 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 2,628 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,137 / 98% (Dos 1) 26,844 / 97% (Dos 2 a 3*) 21,745 / 81% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 7,289 / 73.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,230 / 94.6% (Dos 1) 11,052 / 93.1% (Dos 2 a 3*) 5,867 / 53.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,022 / 90.5% (Dos 1) 44,579 / 87.6% (Dos 2 a 3*) 25,644 / 57.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15):614 / 61.8% (Dos 1) 368 / 37.1% (Dos 2 a 3*)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (03 Rhagfyr - 09 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

13 Rhagfyr 2021, 09:00

 

Achosion: 1,710

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 466.1 (Cymru: 499.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 10,274

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,800.2

Cyfran bositif: 16.6% (Cymru: 16.9% cyfran bositif)

 

Ymgyrch plannu coed ledled Caerdydd yn nodi Wythnos Coed Genedlaethol

Mae dros 400 o goed wedi'u plannu mewn digwyddiadau arbennig ym mharciau Caerdydd yn ystod Wythnos Coed Genedlaethol.

Cynhaliwyd tri digwyddiad plannu coed arbennig ym Mharc Celtaidd, yr Eglwys Newydd; Gerddi Kitchener, Glan yr Afon a Pharc Y Pentre, Rhiwbeina lle heriodd 58 o wirfoddolwyr y tywydd gaeafol i helpu i blannu'r coed fel rhan o brosiect Coed Caerdydd cyngor Caerdydd.

Mae Coed Caerdydd yn rhaglen uchelgeisiol 10 mlynedd o ehangu canopi coed Caerdydd, sy'n gysylltiedig â strategaeth newid hinsawdd Un Blaned y ddinas.

Mae Strategaeth Un Blaned y Cyngor yn cynnwys nod o gynyddu'r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030. I wneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o'r enw Coed Caerdydd.

Roedd coed ceirios, pren afal sur, ffawydd a choed castan ymhlith y mathau a blannwyd gan wirfoddolwyr lleol gan gynnwys athrawon a disgyblion o Ysgol Gynradd Kitchener ac Ysgol Gynradd Rhiwbeina, gwirfoddolwyr o Fanc Lloyds ac aelodau ward lleol.

Fel rhan o'r prosiect, gosododd y tîm Parciau goed stryd newydd yn ward Glan-yr-afon ac adleoli coed bedw i diroedd hamdden y Rhath a oedd wedi'u plannu dros dro yn Wellfield Road.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'n wych gweld cymaint yn cyfrannu a'n cymuned yn dod ynghyd i greu rhywbeth a fydd yn cael ei fwynhau am genedlaethau.

"Bydd y gwaith pwysig hwn a wneir gan ein gwirfoddolwyr yn cael effaith nawr ac am flynyddoedd i ddod, mae'r coed hyn yn hanfodol wrth ddiogelu ansawdd aer a bywyd gwyllt y ddinas.

"Diolch i bawb sy'n ymwneud â'r paratoadau i ddod o hyd i'r amodau cywir ar gyfer y coed ac i'n holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled yn ystod y digwyddiadau."

Meddai Chloe Jenkins, Cydlynydd Gwirfoddolwyr: "Rydym yn gyffrous iawn i lansio prosiect newydd Coed Caerdydd. Bydd cydweithredu yn allweddol i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn a'n bod yn plannu'r coed iawn yn y mannau cywir. O'r herwydd, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael cefnogaeth cynifer o wirfoddolwyr lleol ar y digwyddiadau plannu cyntaf hyn.

"Ymunwch â'n rhwydwaith os hoffech gael gwybod am ddigwyddiadau plannu yn y dyfodol a chynnydd y prosiect."
 

Dysgwch fwy am Coed Caerdydd yma:

www.outdoorcardiff.com/biodiversity/coed-caerdydd