Back
Gwaith gwella sylweddol ar y gweill ar gyfer Parc Maendy (Stryd Gelligaer) yn y Flwyddyn Newydd

15.12.2021 

A map of a cityDescription automatically generated with low confidence

Bydd gwaith gwella sylweddol yn cael ei wneud yn un o barciau Cyngor Caerdydd yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd y gwaith ym Mharc Maendy (Stryd Gelligaer) yn dechrau ar y safle ym mis Ionawr 2022 a'r disgwyl yw y bydd y parc yn ail-agor cyn gwyliau'r Pasg.

Mae'r gwelliannau helaeth i'r parc yn cynnwys:

 

  • Gosod ardal chwarae newydd, gan gynnwys rhywfaint o offer chwarae newydd a symud ac adnewyddu'r ardaloedd chwarae presennol
  • Ardal chwarae naturiol ar wahân
  • Llwybrau newydd
  • Gemau chwaraeon newydd: tennis bwrdd a teqball -gêm sy'n cael ei chwarae ar fwrdd crwm ac sy'n cyfuno elfennau o bêl-droed a thennis bwrdd.
  • Byrddau picnic, rhai â gemau bwrdd yn rhan ohonynt
  • Seddau newydd a biniau wedi'u hail-leoli
  • Coed, llwyni ac ardaloedd glaswellt dôl newydd


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Diolch i'ch adborth i'n hymgynghoriad ar-lein ym mis Mai 2021, rydym wedi datblygu cynlluniau cyffrous iawn a fydd o fudd mawr i gymunedau a phlant lleol yn ogystal â'n hamgylchedd.

"Rydym am i Gaerdydd fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant ac mae cael lleoedd diogel i chwarae fel hyn mor bwysig i sicrhau bod plant yn hapus ac yn iach.  Rydym yn falch o gynnwys offer chwarae, yr ardal chwarae naturiol a chyfleusterau chwaraeon i bobl ifanc yn eu harddegau a fydd yn addas ar gyfer pob grŵp oedran."

Bydd rhaid cau'r parc drwy gydol y gwaith, ond bydd yr ardal gemau aml-ddefnydd yn parhau ar agor.

Yn dilyn llawer o sylwadau ar wahardd mynediad i gŵn, ni fydd yr ardal chwarae yn agored i anifeiliaid anwes.