Back
Dweud eich dweud ar gynigion i ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch

17/12/2021

 

Mae'r cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn ar gynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Pentyrch, a allai gynyddu nifer y lleoedd cynradd ar gyfer gogledd-orllewin Caerdydd. 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus bellach ar agor ac yn gofyn i bobl ddweud eu dweud ar gynlluniau i ailddatblygu ac ehangu'r ysgol o 140 i 210 o leoedd, ac i sefydlu darpariaeth feithrin o 48 o leoedd rhan-amser yn yr ysgol.

Os cânt eu datblygu, byddai'r cynigion yn golygu y gallai'r ysgol elwa o adeiladau ysgol gwell, gwell amgylcheddau dysgu a chymorth i gynnal a pharhau i adeiladu ar ei chynnydd diweddar.

Byddai sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol hefyd yn hyrwyddo parhad a dilyniant yn nysgu'r plant o dair oed ac ni fyddai'n rhaid i deuluoedd sy'n chwilio am leoedd meithrin fodloni ar leoedd mewn lleoliadau meithrin preifat neu deithio allan o ardal Pentyrch mwyach. 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Os cânt eu cymeradwyo, gallai cynlluniau buddsoddi a datblygu ar gyfer Ysgol Gynradd Pentyrch gynnig amgylchedd dysgu rhagorol a modern ynghyd ag amrywiaeth o fanteision a chyfleoedd cyffrous i'r ysgol a'i chymuned. 

"Bydd y datblygiadau tai newydd yng ngogledd-orllewin Caerdydd yn arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion yn yr ardal a byddai ehangu'r ysgol yn strategol yn caniatáu mwy o gyfleoedd i staff a disgyblion, tra'n rhoi cyfle i fwy o blant elwa o'r addysg sydd ar gael ar y safle."

"Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn gyfle gwerthfawr i ddisgyblion, rhieni a phobl leol ddweud eu dweud ar y cynlluniau a fydd yn helpu i siapio dyfodol y cynllun arfaethedig."

Gallai ehangu'r ysgol helpu i ateb y galw a ragwelir am leoedd mewn ysgolion i wasanaethu rhannau o Greigiau a Sain Ffagan, Pentyrch a Radur a Phentre-poeth, gan greu digon o leoedd i blant sy'n byw yn nalgylch presennol yr ysgol yn ogystal â lleoedd i blant sy'n byw yn y datblygiad tai newydd yn Fferm Goitre Fach, ger Heol Llantrisant.

Mae cynigion am nifer o ddatblygiadau tai newydd yng ngogledd-orllewin Caerdydd yn mynd rhagddynt a byddant yn cael eu cyflawni fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd sy'n nodi'r seilwaith sydd ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026.

Fel rhan o'r cytundeb cynllunio rhwng datblygwyr tai a'r Cyngor, cytunwyd ar gyfraniadau Adran 106 i fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer ardaloedd lleol. 

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar-lein drwy Microsoft Teams ddydd Iau, 13 Ionawr 2022 am 6pm a gellir gwneud cais am sesiynau galw-heibio ar-lein ychwanegol drwy e-bostioymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk

I ddweud eich dweud ar y cynlluniau, ewch i: Ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol (caerdydd.gov.uk)
 

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Mawrth, 25 Ionawr 2022.