Back
Diweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd: 17 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyngor newydd i gadw Cymru'n ddiogel dros y Nadolig; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a achosion COVID a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf.

 

Cyngor newydd i gadw Cymru'n ddiogel dros y Nadolig

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig.

Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau - a hynny o 27 Rhagfyr ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff - ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol.

Bydd clybiau nos yn cau hefyd. Mae angen y cyfyngiadau llymach hyn i helpu i reoli lledaeniad Omicron.

Er mwyn cadw'n ddiogel yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb yn gryf i ddilyn y pum mesur hyn i gadw'n ddiogel:

Cael eich brechu -ac os ydych wedi cael apwyntiad i gael pigiad atgyfnerthu, ewch amdani.

Os ydych yn mynd allan,yn mynd i siopa Nadolig neu'n ymweld â phobl - cyn gadael y tŷ, profwch da chi. Cymerwch brawf llif unffordd. Os yw'n bositif - arhoswch gartre.

Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well na chwrdd dan do.Os ydych yn cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr fod yno ddigon o awyr iach.

Cymdeithasu bob hyn a hyn -os ydych wedi trefnu digwyddiadau, gadewch o leiaf ddiwrnod rhyngddynt.

A chofiwch gadw pellter cymdeithasol,gwisgo gorchudd wyneb a golchi'ch dwylo.

Bydd y rheoliadau hefyd yn cael eu newid i gynnwys gofyniad iweithio gartref lle bynnag y bo modd.

Ar ôl y Nadolig, ar 27 Rhagfyr bydd cyfyngiadau cyfreithiol newydd yn dod i rym, i helpu i ddiogelu rhag lledaeniad amrywiolyn Omicron.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Rhagfyr

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  919,102 (Dos 1: 389,248 Dos 2:  354,090 DOS 3: 6,511 Dosau atgyfnertha: 169,204)

 

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 13 Rhagfyr

 

  • 80 a throsodd: 20,094 / 94.7% (Dos 1) 19,945 / 94% (Dos 2 a 3*) 17,689 / 88.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,957 / 96.5% (Dos 1) 14,835 / 95.7% (Dos 2 a 3*) 13,232 / 89.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,395 / 95.9% (Dos 1) 21,284 / 95.4% (Dos 2 a 3*) 19,388 / 91.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,010 / 94.5% (Dos 1) 21,777 / 93.5% (Dos 2 a 3*) 19,254 / 88.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,149 / 92.6% (Dos 1) 25,834 / 91.4% (Dos 2 a 3*) 22,135 / 85.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,471 / 90.5% (Dos 1) 29,020 / 89.1% (Dos 2 a 3*) 19,772 / 68.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,184 / 88.3% (Dos 1) 28,588 / 86.5% (Dos 2 a 3*) 13,009 / 45.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 55,883 / 82.2% (Dos 1) 54,192 / 79.8% (Dos 2 a 3*) 18,453 / 34.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 61,892 / 76.7% (Dos 1) 58,480 / 72.4% (Dos 2 a 3*) 11,716 / 20% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 83,029 / 78.1% (Dos 1) 74,929 / 70.5% (Dos 2 a 3*) 10,007 / 13.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,181 / 75.7% (Dos 1) 2,543 / 46% (Dos 2 a 3*) 147 / 5.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 15,066 / 56.2% (Dos 1) 1,285 / 4.8% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,775 / 99.3% (Dos 1) 5,867 / 86% (Dos 2 a 3*) 26 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal:2,074 / 98.4% (Dos 1) 2,056 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 1,838 / 89.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal:3,706 / 98.9% (Dos 1) 3,639 / 97.1% (Dos 2 a 3*) 2,711 / 74.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,160 / 98.1% (Dos 1) 26,863 / 97% (Dos 2 a 3*) 22,178 / 84.6% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 7,590 / 76.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,221 / 94.6% (Dos 1) 11,046 / 93.1% (Dos 2 a 3*) 6,041 / 54.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,021 / 90.5% (Dos 1) 44,603 / 87.7% (Dos 2 a 3*) 31,586 / 70.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15):621 / 62.5% (Dos 1) 393 / 39.6% (Dos 2 a 3*)

 

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,775 / 99.3% (Dos 1) 5,799 / 85% (Dos 2 a 3*) 26 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal:2,080 / 98.3% (Dos 1) 2,062 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 1,815 / 88% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal:3,693 / 98.9% (Dos 1) 3,627 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 2,628 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,137 / 98% (Dos 1) 26,844 / 97% (Dos 2 a 3*) 21,745 / 81% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 7,289 / 73.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,230 / 94.6% (Dos 1) 11,052 / 93.1% (Dos 2 a 3*) 5,867 / 53.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,022 / 90.5% (Dos 1) 44,579 / 87.6% (Dos 2 a 3*) 25,644 / 57.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15):614 / 61.8% (Dos 1) 368 / 37.1% (Dos 2 a 3*)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (06 Rhagfyr - 12 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

16 Rhagfyr 2021, 09:00

 

Achosion: 1,747

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 476.1 (Cymru: 501.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 10,772

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,935.9

Cyfran bositif: 16.2% (Cymru: 16.8% cyfran bositif)

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (10/12/21 i 16/12/21)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 354

  • Disgyblion a myfyrwyr = 297
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 57

 

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.