Back
Dweud eich dweud ar gynlluniau'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
20.12.21

Mae arolwg sy'n gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ymateb i Uwchgynllun Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (ISV), bellach ar agor.             

Mae'r ymgynghoriad 6 wythnos yn gofyn am farn ar gynlluniau Cyngor Caerdydd i ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol gan ddechrau gyda'r ddarpariaeth o hyb beicio canolog arfaethedig â chyfleusterau chwaraeon ychwanegol modern, addas i'r diben, gan gynnwys felodrom newydd, trac beiciau oddi ar y ffordd a chylched ffordd gaeedig.

Gwahoddir preswylwyr ac ymwelwyr i ateb arolwg byrsy'n cynnwys cwestiynau ar:

·       Adleoli Trac Beicio Maendy

·       cyfleusterau eraill yr hoffech eu gweld yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

·       cyfleusterau yr hoffech eu gweld yn y felodrom

·       pa un o'r cyfleusterau newydd arfaethedig y Pentref Chwaraeon newydd yr ydych chi'n debygol o'i ddefnyddio?

·       sut rydych yn teithio i'r Pentref Chwaraeon ac y byddech yn teithio i'r cyfleusterau newydd arfaethedig

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: Mae'n cynlluniau i ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladolyn rhan annatod o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cyfleuster o'r radd flaenaf ar gyfer rhagoriaeth mewn chwaraeon a chyrchfan hamdden gynaliadwy, hygyrch a chynhwysol i bawb ei mwynhau.

"Mae'r arolwg hwn yn bwysig iawn i'n helpu i lunio'r manylebau ar gyfer y Pentref Chwaraeon, gan ddechrau gyda datblygu felodrom newydd, trac beiciau oddi ar y ffordd a chylched ffordd gaeedig.

"Mae sefydliadau beicio allweddol gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Clybiau Beicio a chlybiau a grwpiau chwaraeon lleol wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu cynlluniau abyddwn ynannog cymaint ohonoch â phosibl i ymateb i sicrhau ein bod yn cael eich adborth ar y cynigion.

"Caiff pob barn a gyflwynir cyn y dyddiad cau ei hystyried a'i defnyddio'n ofalus i lywio penderfyniadau'r Cyngor ar y ffordd ymlaen."

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw hanner nos dydd Sul 30 Ionawr 2022.

Mae rhagor o wybodaeth am gefndir y prosiect, adleoli Trac Beicio Maendy, y camau nesaf a'r arolwg i'w gweld yma:www.caerdydd.gov.uk/ymgynghoriadpchrh.