Back
Casgliadau gwastraff Caerdydd ddim yn newid dros yr ŵyl ond bydd y cyngor yn cynnig casgliad coed Nadolig ym mis Ionawr


21/12/21

Er na fydd unrhyw newidiadau i ddiwrnodau casglu ailgylchu a gwastraff dros y Nadolig, mae Cyngor Caerdydd yn trefnu casgliadau coed Nadolig yn ystod pythefnos cyntaf mis Ionawr.

 

Gofynnwn i breswylwyr roi eu coed ar y stryd a pheidio â'u torri i fyny na'u rhoi yn y biniau olwynion gwyrdd neu sachau amldro gwyn.  Mae'r casgliadau arbennig hyn ar gyfer coed Nadolig yn unig, ac ni fydd unrhyw wastraff gardd arall yn cael ei gasglu fel rhan o'r gwasanaeth hwn.

 

Bydd pwynt gollwng coed Nadolig hefyd ar agor ym Mharc y Mynydd Bychan ar 8 a 9 Ionawr rhwng 10am a 4pm. 

 

Bydd coed Nadolig yn cael eu casglu o ymyl y ffordd o wardiau'r ddinas ar y diwrnodau canlynol:

 

4 Ionawr:  Y Tyllgoed, Sain Ffagan, Trelái a Chaerau

5 Ionawr:  Grangetown, Treganna a Glan-yr-afon

6 Ionawr:  Butetown, Adamsdown, Sblot a Phlasnewydd

7 Ionawr:  Pontprennau, Pentwyn a Phen-y-lan

11 Ionawr:  Creigiau, Pentyrch, Radur, yr Eglwys Newydd a Gorllewin y Mynydd Bychan

12 Ionawr:  Llandaf, Ystum Taf, Gabalfa, Cathays a Dwyrain y Mynydd Bychan

13 Ionawr:  Tredelerch, Llanrhymni, Trowbridge a Phentref Llaneirwg

14 Ionawr:  Llys-faen, Llanisien, Rhiwbeina a Chyncoed

 

Ac eithrio gwyliau banc, bydd y canolfannau ailgylchu yng Nghlos Bessemer a Ffordd Lamby yn parhau ar agor dros y gaeaf, felly gallwch ddod â gwastraff ailgylchu a gwastraff gardd i'r cyfleusterau hyn hefyd - https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/casgliadau-gwastraff-gardd/Pages/default.aspx