Back
Diweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd: 24 Rhagfyr

24/12/21

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Cymru yn symud i Lefel Rhybudd 2, nodyn atgoffa y bydd casgliadau gwastraff heb newid dros y gwyliau ond mae'r cyngor yn cynnig casgliad o goed Nadolig ym mis Ionawr, sut i gael gwared ar bapur lapio ar ôl i'r holl anrhegion gael eu hagor yfory, ymgynghoriad ar ehangu ac ad-drefnu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

 

Cymru yn symud i Lefel Rhybudd 2 ar Ŵyl San Steffan

 

 

Bydd nifer o atyniadau Nadolig Caerdydd yn cau ar ddiwedd y dydd ar Noswyl Nadolig yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru'n symud i Lefel Rhybudd 2.

Bydd atyniadau Gŵyl y Gaeaf yn Neuadd y Ddinas, Heol Sant Ioan a'r castell;  Neuadd Dewi Sant, y Theatr Newydd ac Amgueddfa Caerdydd i gyd yn cau. Mae

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Yn amlwg gyda chynnydd yn nifer yr achosion Omicron, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn ddiogel ac i helpu i arafu lledaeniad y feirws. Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Mercher, bydd Castell Caerdydd yn cau am 8pm ar Noswyl Nadolig yn yr un modd â'r llawr sglefrio a'r llwybr iâ. Bydd y castell yn aros ar gau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ac yna drwy gydol mis Ionawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol.

"Bydd Amgueddfa Caerdydd hefyd yn cau ar Noswyl Nadolig ac yn aros ar gau drwy gydol mis Ionawr, yn ogystal â Neuadd Dewi Sant. Byddwn yn ceisio aildrefnu perfformiadau lle bo hynny'n bosibl ar gyfer Neuadd Dewi Sant, a bydd swyddfa docynnau Neuadd Dewi Sant mewn cysylltiad â chwsmeriaid sydd eisoes wedi prynu tocynnau ynglŷn â'r opsiynau wrth symud ymlaen, gan gynnwys sioeau yr effeithir arnynt ym mis Ionawr.

"Bydd y Theatr Newydd yn cau ar ôl y perfformiad olaf ar Noswyl Nadolig tan 16 Ionawr. Bydd HQ Theatres, sy'n rhedeg y Theatr Newydd, yn gwneud unrhyw benderfyniad ar ailagor o'r dyddiad hwnnw yn seiliedig ar gyngor a chyfyngiadau Llywodraeth Cymru bryd hynny. Bydd HQ hefyd yn cysylltu â chwsmeriaid am eu hopsiynau o ran eu tocynnau ar gyfer unrhyw sioeau fydd yn cael eu canslo."

Bydd holl atyniadau Gŵyl y Gaeaf ar draws canol y ddinas yn cau erbyn 8pm ar Noswyl Nadolig. Bydd marchnad Nadolig y ddinas yn cau bryd hynny hefyd.Bydd holl docynnau Gŵyl y Gaeaf (gan gynnwys ffioedd archebu) ar gyfer sesiynau ar ôl 8pm, Rhagfyr 24, sydd wedi'u prynu ar-lein neu dros y ffôn drwy Ticketsource, yn cael eu had-dalu'n awtomatig i'r dull talu gwreiddiol, ac nid oes angen i chi gysylltu â Ticketsource/y lleoliad i wneud hyn. Gall ad-daliadau gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith cyn ymddangos yn eich cyfrif, a gall gwyliau banc y Nadolig effeithio ar hyn. Ar gyfer unrhyw docynnau a brynwyd drwy ddulliau eraill, cysylltwch â'r trefnydd digwyddiadau'n uniongyrchol.

Bydd Syrcas NoFit State yn parhau gyda'r bwriad i redeg Lexicon yn y babell Big Top yng Ngerddi Sophia tan 15 Ionawr, ond mae wedi lleihau capasiti'r gynulleidfa ar gyfer pob perfformiad ar ôl 26 Rhagfyr i gydymffurfio â rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru. Bydd yr holl berfformiadau ar ôl 26 Rhagfyr yn cael eu cynnal drwy gadw pellter cymdeithasol.

O ganlyniad i'r capasiti llai, bydd NoFit yn cysylltu â rhai o'r archebwyr diweddaraf i egluro na fyddant bellach yn gallu gweld y perfformiad o'u dewis a byddant naill ai'n cynnig tocynnau iddynt weld perfformiad gwahanol neu ad-daliad. Os nad ydych yn clywed gan NoFit yna mae eich tocynnau'n ddiogel a gallwch ymweld â'r Big Top yn y ffordd arferol.

Doedd dim cynlluniau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau awyr agored cyhoeddus ar Nos Galan yng Nghaerdydd eleni.

 

 

ATGOFFA: Casgliadau gwastraff Caerdydd ddim yn newid dros yr ŵyl ond bydd y cyngor yn cynnig casgliad coed Nadolig ym mis Ionawr

 

 

Er na fydd unrhyw newidiadau i ddiwrnodau casglu ailgylchu a gwastraff dros y Nadolig, mae Cyngor Caerdydd yn trefnu casgliadau coed Nadolig yn ystod pythefnos cyntaf mis Ionawr.

Gofynnwn i breswylwyr roi eu coed ar y stryd a pheidio â'u torri i fyny na'u rhoi yn y biniau olwynion gwyrdd neu sachau amldro gwyn.  Mae'r casgliadau arbennig hyn ar gyfer coed Nadolig yn unig, ac ni fydd unrhyw wastraff gardd arall yn cael ei gasglu fel rhan o'r gwasanaeth hwn.

Bydd pwynt gollwng coed Nadolig hefyd ar agor ym Mharc y Mynydd Bychan ar 8 a 9 Ionawr rhwng 10am a 4pm. 

Bydd coed Nadolig yn cael eu casglu o ymyl y ffordd o wardiau'r ddinas ar y diwrnodau canlynol:

4 Ionawr:  Y Tyllgoed, Sain Ffagan, Trelái a Chaerau

5 Ionawr:  Grangetown, Treganna a Glan-yr-afon

6 Ionawr:  Butetown, Adamsdown, Sblot a Phlasnewydd

7 Ionawr:  Pontprennau, Pentwyn a Phen-y-lan

11 Ionawr:  Creigiau, Pentyrch, Radur, yr Eglwys Newydd a Gorllewin y Mynydd Bychan

12 Ionawr:  Llandaf, Ystum Taf, Gabalfa, Cathays a Dwyrain y Mynydd Bychan

13 Ionawr:  Tredelerch, Llanrhymni, Trowbridge a Phentref Llaneirwg

14 Ionawr:  Llys-faen, Llanisien, Rhiwbeina a Chyncoed

Ac eithrio gwyliau banc, bydd y canolfannau ailgylchu yng Nghlos Bessemer a Ffordd Lamby yn parhau ar agor dros y gaeaf, felly gallwch ddod â gwastraff ailgylchu a gwastraff gardd i'r cyfleusterau hyn hefyd - https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/casgliadau-gwastraff-gardd/Pages/default.aspx

 

Sut i gael gwared ar bapur lapio y Nadolig hwn

 

 

Ni fydd papur lapio yn cael ei gasglu o fagiau ailgylchu gwyrdd, a bydd angen ei roi yn biniau du/bagiau streipiau coch i'w chasglu. Yn aml, bydd y papur lapio â chynnwys inc uchel iawn, ychydig iawn o ffibr sydd ar ôl yn y papur sy'n ddefnyddiol i'w ailgylchu a bydd yn aml yn cael ei wrthod gan y cwmnïau sy'n gwerthu'r cynnyrch i'r melinau papur. Ni dderbynnir papur lapio sydd wedi'i labelu fel ailgylchadwy ychwaith gan nad oes modd i'n criwiau wahaniaethu rhwng y cynnyrch hwn a phapur lapio na ellir ei ailgylchu pan gaiff ei gyflwyno yn y bagiau gwyrdd. Byddwn yn derbyn papur lapio mewn Canolfannau Ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, ond ni ddylid ei gymysgu ag unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy arall.

 

Mynegi eich barn ar gynlluniau Caerdydd i ehangu ac ad-drefnu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

 

Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar gyfres o gynlluniau sylweddol i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) ac anghenion iechyd a lles, i helpu i ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig ac mewn Canolfannau Adnoddau Arbenigol (CAA) cynradd ac uwchradd mewn ysgolion ledled y ddinas.

Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i rannu eu barn ar y canlynol:

Darpariaeth iechyd a lles emosiynol; Newidiadau i ddarparu lleoedd o ansawdd uchel i ddysgwyr ag anghenion iechyd a lles emosiynol 11-19 oed

Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anghenion iechyd emosiynol a lles rhwng 11 a 19 oed, cynigir:

 

  • Cynyddu nifer y lleoedd disgyblion yn Ysgol Greenhill o 64 i 160
  • Trosglwyddo Ysgol Greenhill i adeiladau newydd ar draws dau safle ar safle'r Dutch Garden Centre, Maes y Bryn Road (ger yr M4, Cyffordd 30) a Tŷ Glas Road yn Llanisien, gydag 80 o ddisgyblion ar bob safle o fis Medi 2025.

 

Er mwyn ateb y galw am leoedd mewn canolfan adnoddau arbenigol i ddysgwyr 11-19 oed sydd ag anghenion emosiynol a lles, cynigir:

 

  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd o fis Medi 2022
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain o fis Medi 2022 

 

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn tan 1 Chwefror 2022. Ewch i www.caerdydd.gov.uk/cynigionysgolADY

 

Darpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistiaeth: Newidiadau i ddarparu lleoedd o ansawdd uchel i ddysgwyr 3-19 oed sydd ag anghenion dysgu cymhleth a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth

 

Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbenigol i ddysgwyr 3-19 oed sydd ag Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth, mae'r Cyngor yn cynnig cynyddu nifer y lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn amrywiaeth o ysgolion arbennig, ysgolion cynradd ac uwchradd o fis Medi 2022.

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn tan 1 Chwefror 2022. Ewch i www.caerdydd.gov.uk/cynigionysgolADY

Am fwy, ewch i Newyddion Caerdydd yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28244.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 24 Rhagfyr

 Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro


Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 983,450 (Dos 1: 395,169 Dos 2:  361,696 Dos 3: 7,127 Dosau atgyfnertha: 219,385)

 

 

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 21 Rhagfyr

 

  • 80 a throsodd: 20,052 / 94.7% (Dos 1) 19,908 / 94% (Dos 2 a 3*) 17,958 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,946 / 96.5% (Dos 1) 14,827 / 95.8% (Dos 2 a 3*) 13,410 / 90.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,398 / 95.9% (Dos 1) 21,282 / 95.4% (Dos 2 a 3*) 19,547/ 91.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,017 / 94.5% (Dos 1) 21,788 / 93.5% (Dos 2 a 3*) 19,646 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,171 / 92.6% (Dos 1) 25,844 / 91.4% (Dos 2 a 3*) 23,064 / 89.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,479 / 90.5% (Dos 1) 29,030 / 89.1% (Dos 2 a 3*) 24,651 / 84.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,211 / 88.3% (Dos 1) 28,612 / 86.5% (Dos 2 a 3*) 22,928 / 80.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 55,939 / 82.3% (Dos 1) 54,271 / 79.8% (Dos 2 a 3*) 27,812 / 51.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 62,016 / 76.8% (Dos 1) 58,611 / 72.6% (Dos 2 a 3*) 14,776 / 25.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 83,327 / 78.3% (Dos 1) 75,265 / 70.7% (Dos 2 a 3*) 12,748 / 16.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,195 / 75.9% (Dos 1) 2,745 / 49.7% (Dos 2 a 3*) 177 / 3.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 15,726 / 56.4% (Dos 1) 1,424 / 5.1% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,803 / 99.3% (Dos 1) 6,173 / 90.1% (Dos 2 a 3*) 29 / 0.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,094 / 98.4% (Dos 1) 2,076 / 97.6% (Dos 2 a 3*) 1,865 / 89.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,706 / 98.9% (Dos 1) 3,645 / 97.3% (Dos 2 a 3*) 2,711 / 76% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,144 / 98.1% (Dos 1) 26,854 / 97% (Dos 2 a 3*) 23,269 / 86.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 7,901 / 79.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,223 / 94.6% (Dos 1) 11,049 / 93.2% (Dos 2 a 3*) 6,166 / 55.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,140 / 90.6% (Dos 1) 44,735 / 87.8% (Dos 2 a 3*) 35,410 / 79.2% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15): 637 / 60.8% (Dos 1) 436 / 41.6% (Dos 2 a 3*) 9/2.1%

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

 

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (12 Rhagfyr - 18 Rhagfyr)


Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru  


 

Mae'r data'n gywir ar:

22 Rhagfyr 2021, 09:00

 

Achosion: 3,020

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 823.1.7 (Cymru: 633 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 14,129

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,850.9

Cyfran bositif: 21.4% (Cymru: 19.7% cyfran bositif)